Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu cyfraniad anhygoel ein carfanau Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau i Blant yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol (16 i 20 Mawrth) ac ar Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd (17 Mawrth).
Mae thema eleni, Cyd-adeiladu Gobaith a Chytgord: Galwad Harambee i Uno Cymdeithas Ranedig (Co-Building Hope and Harmony: A Harambee Call to Unite a Divided Society) , yn tynnu sylw at rôl hanfodol gweithwyr cymdeithasol wrth ddod â chymunedau ynghyd, cryfhau perthnasoedd, ac adeiladu dyfodol mwy cynhwysol a chynaliadwy.
Mae gwaith cymdeithasol yn llawer mwy na phroffesiwn – mae'n ymrwymiad i drawsnewid bywydau a darparu llinell achub i lawer o'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae thema eleni yn cyfeirio at ‘Harambee,’ sy’n golygu ‘dod at ein gilydd’ neu ‘pawb dros bob un,’ gan atgyfnerthu ysbryd cydweithredol y proffesiwn gwaith cymdeithasol.
Dywedodd Joachim Mumba, Llywydd Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol (IFSW): “Mae gweithwyr cymdeithasol yn bresennol ym mhob cwr o gymdeithas, yn sefyll ochr yn ochr â chymunedau wrth iddyn nhw lywio trwy adfyd. Rydyn ni'n cerdded gyda phobl wrth iddyn nhw ailadeiladu cysylltiadau, adfer ymddiriedaeth a gwella cydnerthedd. Mae'r alwad i gyd-adeiladu gobaith a chytgord yn ein hatgoffa ni bod dim her yn rhy fawr pan rydyn ni'n symud ymlaen gyda'n gilydd.
“Dyma ysbryd Siarter y Bobl ar gyfer Byd Eco-Gymdeithasol (People’s Charter for an Eco-Social World): gwahoddiad i gysylltu dynoliaeth trwy werthoedd cyffredin, cyfrifoldeb pawb a gobaith pob un. Mae'n ein hannog ni i weithio ar y cyd dros fyd lle mae urddas, cyfranogiad, cynaliadwyedd a heddwch yn sail i'n dyfodol cyffredin.”
Drwy gydol yr wythnos, bydd y Cyngor yn tynnu sylw at waith caled, ymroddiad a thrugaredd ein carfanau gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, gan gydnabod ymroddiad ac effaith gadarnhaol ein staff.
Yn ogystal, bydd Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) yn cynnal nifer o sesiynau ar-lein (Saesneg yn unig). Mae'r sesiynau canlynol ar agor i staff gwaith cymdeithasol ac aelodau'r cyhoedd:
Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol gyda Chyfrifoldeb dros Wasanaethau i Blant: “Hoffen ni fanteisio ar y cyfle yma, yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol y Byd ac ar Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd i ddiolch i bob un o’n gweithwyr cymdeithasol, staff gofal a staff cymorth sy’n gwneud eu gorau glas dros drigolion ieuengaf Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n cymryd y cyfle yma hefyd i ddathlu eu gwaith.
“Mae’n bwysig bod trigolion – yn enwedig rhieni a chynhalwyr (gofalwyr) – yn effro i’r ystod eang o gymorth sydd ar gael, ym mhob cyfnod o fywyd.
“O gefnogi mamau beichiog i gadw teuluoedd gyda’i gilydd, i sefyll gyda phobl ifainc wrth iddyn nhw gymryd eu camau cyntaf i fyd cyflogaeth a hyfforddiant, rydyn ni yma i helpu, a dyna pam rydyn ni mor falch o allu dathlu ac arddangos Gwaith Cymdeithasol yn ystod yr wythnos bwysig yma a bob dydd o’r flwyddyn!”
Datgelodd arolwg 2025 a gynhaliwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru, a dderbyniodd 5,707 o ymatebion, er bod y sector yn parhau i wynebu heriau, mae dangosyddion diwylliannol cadarnhaol yn parhau i fod yn gryf:
- Mae 86% yn cytuno eu bod nhw'n derbyn yr hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith yn dda.
- Dywedodd 83% fod eu morâl yn dda.
- Dywedodd 81% eu bod nhw'n teimlo eu bod wedi cael cymorth a chefnogaeth gan eu cydweithwyr.
- Dywedodd 81% eu bod nhw'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw'n eu cynorthwyo.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau i Oedolion: “Rydw i'n cytuno'n gryf â Llywydd Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol pan ddywedodd fod gweithwyr cymdeithasol yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda phob cwr o gymdeithas.
“Rydyn ni'n falch o’n staff ac yn rhyfeddu at y cyfraniad maen nhw’n ei wneud i fywydau bob diwrnod o’r flwyddyn.
“Rydyn ni'n gwybod bod yna drigolion – a’u teuluoedd a’u cynhalwyr – y mae eu bywydau wedi cael eu cyffwrdd a’u gwella gan broffesiynoldeb a thrugaredd ein gweithwyr cymdeithasol ac rydyn ni'n falch o hynny.
“Mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol y Byd a Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd yn gyfle i ni ddiolch i’n staff a’u dathlu a hyrwyddo'r gwasanaeth i drigolion. Mae hefyd yn gyfle da i arddangos gwaith cymdeithasol fel proffesiwn ac ysbrydoli ein cenhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol anhygoel i helpu i gysylltu dynoliaeth.”
Mae Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd yn cael ei harwain gan Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol (IFSW). Cynhaliwyd y diwrnod yma am y tro cyntaf yn 2007. “Mae'n ddathliad sy'n tynnu sylw at gyflawniadau yn y byd gwaith cymdeithasol, gwneud gwaith cymdeithasol yn fwy gweledol, ac amddiffyn cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, ewch i'w gwefan (Saesneg yn unig): World Social Work Day 2026 – International Federation of Social Workers
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol yng Nghymru drwy feithrin hyder yn y gweithlu ac arwain a chefnogi gwelliant mewn gofal cymdeithasol. I wneud hyn, maen nhw'n gweithio gyda phobl sy'n defnyddio gofal a chymorth ac ystod eang o sefydliadau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2026 | Gofal Cymdeithasol Cymru
BASW, neu Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, yw sefydliad aelodaeth proffesiynol mwyaf y DU ar gyfer gwaith cymdeithasol. Gweledigaeth y Gymdeithas yw i waith cymdeithasol fod yn broffesiwn ffyniannus, dylanwadol sy'n cael ei barchu, sy'n gwella bywydau ac yn cynnal hawliau pobl.
Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth ar eu gwefan (Saesneg yn unig): World Social Work Month 2026 | BASW
6 | BASW
Wedi ei bostio ar 15/03/2026