Skip to main content

Cynllun i atgyweirio wal yr afon i ddechrau yn Aberdâr

Aberdare web

Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn ymgymryd â chynllun pwysig i atgyweirio a diogelu'r rhan o wal yr afon a ddangosir yn y llun, ger Gorsaf Reilffordd Aberdâr a safle Canolfan Hamdden Sobell, ar gyfer y dyfodol.

Bydd y prif gynllun yn mynd rhagddo o ddydd Llun, 18 Mai, a bydd angen cau'r llwybr troed am un diwrnod. Wedyn, bydd y prif atgyweiriadau'n cael eu gwneud dros y dair wythnos sy'n dilyn hynny.

Cafodd waliau'r afon ar hyd y rhan yma o Afon Cynon eu harchwilio'n ddiweddar, a chanfuwyd difrod difrifol i ymyl yr afon yn y lleoliad yma, sydd wedi datgelu sylfeini'r strwythur. Mae angen cynllun atgyweirio brys i sicrhau bod y wal yn sefydlog.

Ddydd Llun, bydd contractwr y Cyngor, Edwards Diving Services, yn clirio llystyfiant, gan osod craen ar y llwybr troed rhwng yr orsaf reilffordd a safle Sobell, a defnyddio pontŵn o fewn yr afon.

Bydd angen cau'r llwybr troed am un diwrnod (18 Mai). Bydd llwybr amgen i gerddwyr drwy'r isffordd ger maes parcio'r ganolfan hamdden ac ar hyd Heol Cwm-bach a Heol Abernant.

Wedyn, bydd y cynllun atgyweirio ehangach yn dilyn yn uniongyrchol, gyda gweithwyr yn cyrraedd yr afon trwy gael gwared ar ran o barapet y wal, gosod sgaffaldiau, a defnyddio craen o'r llwybr troed uwchben i gludo deunyddiau.

Efallai y bydd angen cau'r llwybr troed eto i gwblhau rhai elfennau o'r gwaith. Bydd y llwybr amgen i gerddwyr wedi'i nodi'n glir ar yr adegau yma.

Mae cyllideb refeniw'r Cyngor yn ariannu'r gwaith yma.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 14/05/2026