Byddwn ni'n gofyn am gyfraniad bach tuag at y gwasanaeth sy'n cynnwys darparu'r offer, gosod (a chynnal a chadw) yr offer ac yswiriant torri i lawr. Mae'r cyfraniad hefyd yn cynnwys cael eich cysylltu drwy Uned Gwifren Achub Bywyd i'n canolfan fonitro 24 awr.
Bydd rhaid talu am y gwasanaethau yma trwy gydol y cyfnod mae'r offer wedi'i osod yn eich tŷ, gan gynnwys cyfnodau pan fydd y tŷ yn wag.
Bydd taliadau ond yn dod i ben unwaith bod y cyfarpar wedi cael ei ddadosod ac wedi'i ddychwelyd i'r Cyngor.
- Gwifren Achub Bywyd - Pris yr uned a'r teclyn gwddf yw £3.27 fesul wythnos.
Rydyn ni'n cyflwyno anfoneb unwaith y flwyddyn. Fodd bynnag, does dim angen
talu'r anfoneb yn llawn ac mae modd talu fesul dipyn; byddwch chi'n derbyn bil
blynyddol ym mis Ebrill ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'r Adran Gyllid yn
cynnig sawl dull talu, megis trwy siec, debyd uniongyrchol, ayyb.
- Pecyn Diogelwch Cartref y Wifren Achub Bywyd - Pris y pecyn yma yw £6.42 fesul wythnos. Rydyn ni'n cyflwyno anfoneb unwaith y flwyddyn. Fodd bynnag, does dim angen talu'r anfoneb yn llawn ac mae modd talu fesul dipyn; byddwch chi'n derbyn bil blynyddol ym mis Ebrill ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'r Adran Gyllid yn cynnig sawl dull talu, megis trwy siec, debyd uniongyrchol, ayyb.
- Teleofal - Mae swm y cyfraniad i'w dalu tuag at yr offer Teleofal
yn ddarostyngedig i Bolisi Codi Tâl am Wasanaethau Cymdeithasol Dibreswyl y Cyngor a bydd e felly, yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar eich incwm ac arbedion, yn ogystal ag unrhyw wasanaethau Gofal Cymdeithasol rydych chi'n eu derbyn.
Mae'r pris yma'n cael ei dalu bob 4 wythnos a bydd yn aros yr un fath beth bynnag yw nifer y darnau offer sy'n cael eu gosod, oni bai fod eich amgylchiadau ariannol yn newid.
Ym mhob achos, bydd y swm y bydd rhaid i chi'i dalu, yn ôl yr asesiad, yn cael ei gadarnhau mewn llythyr.
- Offer Teleofal Digyswllt - Fydd dim rhaid i chi dalu am unrhyw offer sy'n cael ei osod sydd ddim yn cael ei fonitro gan ein Canolfan Fonitro Gwifren Achub Bywyd, i gefnogi cynhalwyr preswyl neu aelodau o'r teulu.