Mae modd gosod yr offer isod i gefnogi pobl sy'n agored i niwed ac sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Bydd angen i chi gael
asesiad cyn defnyddio'r math yma o offer.
Gall yr holl offer yma gael eu cysylltu â'n canolfan fonitro Lifeline 24 awr.
Gall offer Teleofal eraill fod o fantais hefyd.
Botwm Galwr Ffug
Botwm Galwr Ffug |
Mae'r larwm yma yn rhoi sicrwydd i bobl sy'n agored i niwed ac sy'n byw ar eu pennau eu hunain, os daw galwr annisgwyl. Mae e hefyd yn ddelfrydol i unigolion sydd mewn sefyllfa trais domestig neu i bobl sy'n dioddef troseddau casineb.
|
Synhwyrydd Carbon Monocsid (CO) |
Mae Carbon Monocsid (CO) yn cael ei gynhyrchu pan fydd tanwyddau domestig, megis nwy, glo, coed a golosg, yn cael eu llosgi heb awyru digonol. Mae'r synhwyrydd yma'n rhoi rhybudd os yw lefel y Carbon Monocsid (CO) yn cynyddu yn y cartref.
|
Synhwyrydd nwy â falf gau |
Mae'r synwyryddion yma'n cael eu cysylltu â chyfarpar nwy a bydd yn rhoi rhybudd os yw'r cyfarpar yn cael ei adael ymlaen heb ei danio. Bydd y system yn synhwyro lefel y nwy yn cynyddu, a diffodd y nwy ar y cyfarpar.
|
Teclyn Gwddf Gwifren Achub Bywyd |
Mae person yn gallu pwyso'r pendant mewn argyfwng neu pan fydd angen help.
|
Synwyryddion Mwg a Gwres |
Mae synwyryddion mwg yn synhwyro tân yn y cartref - mae synwyryddion gwres yn cael eu rhoi mewn ceginau er mwyn lleihau rhybuddion di-sail.
|
Os ydych chi o'r farn y byddech chi'n elwa o gael Gwifren Achub Bywyd neu offer Teleofal, dylech chi gysylltu â'n Carfan Ymateb ar Unwaith neu'ch Gweithiwr Cymdeithasol/Rheolwr Gofal os oes un gyda chi.
Bydd y Garfan Ymateb ar Unwaith yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich sefyllfa, ac os ydyn nhw o'r farn bod eich cais yn briodol, byddan nhw'n ei drosglwyddo i Reolwr Gofal.
Cysylltwch â:
Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn: 01443 425003
E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk