Mae modd gosod yr offer isod i gefnogi pobl sydd â phroblemau cofio.  Bydd angen i chi gael eich 
asesu i gael mynediad at y math yma o offer.
 
Gall yr holl offer yma gael eu cysylltu â'n canolfan fonitro Gwifren Achub Bywyd 24 awr.
Botwm Galwr Ffug
| Botwm Galwr Ffug | Mae'r larwm yma yn rhoi sicrwydd i bobl sy'n agored i niwed ac sy'n byw ar eu pennau eu hunain, os daw galwr annisgwyl.  Mae e hefyd yn ddelfrydol i unigolion sydd mewn sefyllfa trais domestig neu sy'n dioddef troseddau casineb. | 
|---|
| Synhwyrydd Carbon Monocsid (CO) | Mae Carbon Monocsid (CO) yn cael ei gynhyrchu pan fydd tanwyddau domestig, megis nwy, glo, coed a golosg, yn cael eu llosgi heb awyru digonol. Mae'r synhwyrydd yma'n rhoi rhybudd os yw lefel y Carbon Monocsid (CO) yn cynyddu yn y cartref. | 
|---|
| Synhwyrydd eniwresis | Mae'r synhwyrydd yma'n darparu dull cynnil ac effeithlon i ganfod gwlychu'r gwely wrth iddo ddigwydd. | 
|---|
| Synhwyrydd epilepsi | Mae'r synhwyrydd yma'n monitro'r unigolyn sydd ag epilepsi wrth iddo gysgu i roi rhybudd pe bai ffit yn digwydd. | 
|---|
| Synwyryddion Mwg a Gwres
 | Mae synwyryddion mwg yn synhwyro tân yn y cartref - mae synwyryddion gwres yn cael eu rhoi mewn ceginau er mwyn lleihau rhybuddion di-sail. | 
|---|
Os ydych chi o'r farn y byddech chi'n elwa o gael Gwifren Achub Bywyd neu offer Teleofal, dylech chi gysylltu â'n Carfan Ymateb ar Unwaith neu'ch Gweithiwr Cymdeithasol/Rheolwr Gofal os oes un gyda chi. 
Bydd y Garfan Ymateb ar Unwaith yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich sefyllfa, ac os ydyn nhw o'r farn bod eich cais yn briodol, byddan nhw'n ei drosglwyddo i Reolwr Gofal.
Cysylltwch â: Carfan Ymateb ar Unwaith
 Ffôn: 01443 425003 
E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk