Skip to main content
Corona-Welsh-content (1)

Y Gwasanaeth Adfer

Galluogi i bobl aros yn eu cartrefi yn ddiogel ac yn annibynnol. Mae modd i wasanaethau'r Gwasanaeth Adfer gael eu harwain gan Therapi neu hebddo, ac yn cefnogi unrhyw un sydd dros 18 oed ac sydd yn breswylydd yn Rhondda Cynon Taf, ac sy'n gymwys ar gyfer derbyn ein cymorth.

Gall ein Gwasanaeth Adfer eich helpu chi os ydych chi:

  • yn gwella o salwch diweddar neu ddamwain ddiweddar · yn pryderu am fynd adref ar ôl bod yn yr ysbyty
  • yn ddigon iach i fynd adref ond yn poeni ynglŷn â'ch gallu i ymdopi
  • eisiau gwneud rhagor drosoch chi eich hun

Rydyn ni'n gweithio i hyrwyddo'ch annibyniaeth drwy eich annog chi i ddysgu neu ailgydio mewn sgiliau byw sylfaenol. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu dros gyfnod byr. Does dim modd i ni weithio gyda chi am gyfnod amhenodol. Felly os oes angen cefnogaeth barhaus arnoch chi, byddwn ni'n ystyried opsiynau tymor hwy i'ch cefnogi chi.

Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth gyda byw o ddydd i ddydd, gan roi cymorth, anogaeth a goruchwyliaeth gyda thasgau megis:

  • gofal personol
  • paratoi bwyd
  • rhaglenni ymarfer corff
  • trefnu diogelwch yn y cartref ac yn yr awyr agored
  • sicrhau bod yr offer cywir gyda chi
  • gweithgareddau therapiwtig
  • eich cyfeirio chi at wasanaethau cymunedol eraill, er enghraifft, y prosiect DiogelG@rtref (Safe@Home) a Theleofal (Telecare.

Byddwn ni'n asesu'ch anghenion a thrafod cynllun cymorth gyda chi. Gyda'n gilydd, byddwn ni'n nodi ac yn cytuno ar eich nodau a thargedau personol. Bydd y nodau yn amrywio gan ddibynnu ar eich amgylchiadau unigol, ac â'r bwriad o'ch helpu chi i aros mor annibynnol â phosibl yn eich cartref eich hun.

Efallai, yn rhan o'ch cynllun cymorth, y byddwch chi'n cael offer arbenigol yn ddefnyddiol i'ch helpu chi i fod yn annibynnol. Os yw hyn yn wir, byddai ein Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol yn gallu rhoi cyngor ar sut y caiff cymhorthion ac addasiadau eu darparu.

Mae ein Gwasanaeth Adfer yn cael ei ddarparu am ddim am gyfnod o hyd at 6 wythnos, ond dim ond tra byddwch chi angen ein help. Os ydych chi wedi cael eich nodi yn unigolyn sydd angen gofal a chymorth hirdymor, bydd tâl yn cael ei godi yn unol â'n Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol Amhreswyl. Gallwn ni roi rhagor o fanylion i chi bryd hynny, fel na fyddwch chi'n derbyn bil annisgwyl.

Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae ein Gwasanaeth Adfer wedi'i gofrestru, ac yn cael ei reoleiddio yn wasanaeth gofal yn y cartref gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Er mwyn bwrw golwg ar sgorau ein gwasanaethau gan Arolygiaeth Gofal Cymru, manylion cofrestru, adroddiad arolygiadau a ffurflen ateb flynyddol - Cymorth yn y Cartref CBS Rhondda Cynon Taf (Adfer, Ymatebwyr Symudol a Gofal Ychwanegol) (Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref)

Mae'n ofyniad cyfreithiol i ni arddangos ein sgorau, yn ein lleoliadau ac ar ein gwefan. Er mwyn bwrw golwg ar ein tystysgrif, CLICIWCH YMA

Cysylltwch â ni

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdanyn nhw angen help a chymorth, cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar Unwaith - Ffoniwch: 01443 425003

Ffurflen Ymholiad Ar-lein Ffurflen Ymholiad a Chyswllt y Gwasanaethau i Oedolion - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Mewn Argyfwng

Mae ein Gwasanaethau tu allan i Oriau Swyddfa yn ymateb ar frys i achosion o argyfyngau gofal cymdeithasol tu allan i oriau gwaith arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos. Ffôn: 01443 743665 / 01443 657225