Mae argyfwng yn digwydd pan fydd person yn cael ei orlethu gan ddigwyddiadau. Gall argyfwng ddechrau yn sgil digwyddiad sy'n dod â newid cyflym i amgylchiadau person, megis marwolaeth yn y teulu, colli swydd neu broblemau mewn perthynas.
Mae'n bosibl y bydd methu ag addasu'i ffyrdd arferol o ymdopi yn arwain at lefel uwch o bryder, pyliau o banig neu seicosis.
Mae therapi argyfwng yn ddull ymyrraeth tymor byr a dwys. Dylai'r therapi ddechrau cyn gynted ag y bo modd wedi i'r argyfwng ddechrau er mwyn galluogi'r unigolyn i wella a, lle bo'n bosibl, osgoi aros mewn ysbyty. Gall hyn gael ei gyflawni drwy adnabod gwraidd y broblem. Yna, rhaid ceisio lleihau'r straen a hybu dulliau datrys addas.
Mae Carfanau Argyfwng ar gael er mwyn atal arhosiad mewn ysbyty. Maen nhw'n gweithio yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn ymdrin â phobl sydd â phroblemau brys iechyd meddwl. Dyma'u manylion
cyswllt:Gellir dod o hyd i'w manylion cyswllt ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg