Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf i gefnogi pobl hŷn sy'n wynebu problemau iechyd y meddwl a phobl o bob oed sydd â dementia.
Mae ein Carfanau Lleol yn darparu gwasanaethau arbenigol i’r bobl ganlynol:
- Pobl hŷn (dros 65 oed) sy'n wynebu problemau iechyd y meddwl, er enghraifft pryder neu iselder
- Oedolion o bob oed sydd â dementia
- Y cynhalwyr, y teulu a'r ffrindiau sy'n cynnig cefnogaeth iddyn nhw
Mae'r carfanau'n gweithio er mwyn sicrhau bod pawb sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yn manteisio i'r eithaf ar eu sgiliau a'u galluoedd ar bob cam o'u salwch. Bydd hyn yn hyrwyddo'u hannibyniaeth ac, ar yr un pryd, yn lleihau risg. Nod y carfanau yw diogelu urddas pobl a chynyddu'u hyder. Bydd hyn yn cynnal ansawdd eu bywyd.
Rydyn ni'n rhoi blaenoriaeth i'r bobl sydd â'r anghenion mwyaf. Byddwn ni'n blaenoriaethu'r bobl sy'n dioddef o episodau cyfnewidiol, pobl sy'n wynebu risg oherwydd eu bod wedi colli cof, a phobl hŷn sy'n wynebu problemau iechyd y meddwl difrifol.
Am ragor o wybodaeth, bwriwch olwg ar ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl Pobl Hŷn.
Manylion Cyswllt
Os ydych chi neu'r person rydych chi'n gofalu amdano angen help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ffoniwch ein Gwasanaeth Ymateb ar Unwaith ar 01443 425003.
Mae'r Gwasanaeth Argyfwng y Tu Allan i OriauSwyddfa yn ymateb ar frys i achosion o argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos.
Ffôn: 01443 743665