Mae'r gyfraith yn nodi bod hawl gan unrhyw oedolyn sydd angen gwasanaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol gael asesiad o'i anghenion.
Dylech chi gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol drwy eich meddyg teulu. Mewn achosion pan fydd unigolion â lefelau uchel o risg ac anghenion cymhleth iawn, efallai bydd rhaid iddyn nhw fynd at un o'r Carfanau Cynllunio Gofal a Thriniaeth ar gyfer asesiad, triniaeth a chymorth. Mae tair carfan wedi'u sefydlu yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái. Mae'r carfanau yn cynnwys cymysgedd o weithwyr, gan gynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr cynorthwyol. Gall pobl hŷn sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl dderbyn cymorth oddi wrth ein Carfanau Gofal a Thriniaeth i Bobl Hŷn.
Bydd asesiad gan seiciatrydd, seicolegydd, nyrs iechyd meddwl, gweithiwr cymdeithasol neu therapydd galwedigaethol yn dangos a oes angen rhagor o driniaeth neu gymorth arnoch chi. Bryd hynny, byddwch chi’n cael cynnig meddyginiaeth, therapyddion seicolegol, therapyddion galwedigaethol neu gymorth cymdeithasol yn eich cartref eich hun, yn y gymuned neu mewn lleoliadau gofal dydd. Bydd staff yn cydweithio â chi mewn modd sy'n hybu annibyniaeth ac yn eich galluogi i fyw eich bywyd.
Bydd Gofal a Thriniaeth ar gyfer eich iechyd yn dilyn y broses ganlynol:
- Asesiad - Cyfle i chi siarad â gweithiwr iechyd neu weithiwr proffesiynol gofal cymdeithasol am eich anawsterau a'r canlyniadau rydych chi’n gobeithio’u cael o dderbyn cymorth.
Os ydych chi’n rhiant neu'n gynhaliwr sy’n rhoi gofal cyson a sylweddol i berson sydd â phroblemau iechyd meddwl, mae hawl gyda chi i gael asesiad o’ch anghenion eich hun.
- Cydlynydd Gofal - Os penderfynir eich bod chi angen ein help, bydd y garfan Cynllunio Gofal a Thriniaeth yn penodi person a fydd yn gyfrifol am gydlynu eich gofal.
- Cynllunio Gofal - Dyma'r cam pan fydd trafodaeth rhyngoch chi a'ch cydlynydd gofal yn cynnwys cynllunio cynllun gofal. Bydd y cynllun yn disgrifio'r gwasanaethau byddwch chi’n eu derbyn neu'r rai sydd wedi'u trefnu ar eich cyfer chi, pa mor aml ac am faint byddwch chi’n derbyn y gwasanaethau a'r canlyniadau rydych chi’n dymuno’u cael.
- Gwerthuso - Mae cyfarfodydd cyson lle gallwch chi gwrdd â phobl sy'n rhoi cymorth i chi er mwyn sicrhau bod popeth yn iawn, a lle bo angen, gwneud newidiadau. Does dim rhaid i chi aros tan y gwerthusiad nesaf os oes newid annisgwyl i'ch amgylchiadau. Dylech chi gysylltu â'ch cydlynydd gofal yn syth.
- Rhyddhau o'r Gwasanaeth Cynllunio Gofal a Thriniaeth - Bydd cyfarfod gwerthuso pan fyddwch chi o’r farn y gallwch chi ymdopi heb gymorth y garfan Cynllunio Gofal a Thriniaeth. Os yw'n briodol, byddwch chi’n cael eich rhyddhau o'r gwasanaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf yn cynnig gwasanaethau triniaeth ac asesiad mewn ysbytai i gleifion mewnol ac allanol yn yr Unedau Iechyd Meddwl. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n aros yn yr ysbyty yn gwneud hynny yn wirfoddol ac yn rhydd i adael unrhyw bryd.
Gall yr achosion prin, pan fydd rhaid diogelu lles unigolyn, arwain at gadw'r unigolyn yn yr ysbyty heb ei ganiatâd. Yn yr amgylchiadau hynny, mae gyda chi hawl gyfreithiol i herio penderfyniad y staff perthnasol.
Os ydych chi’n glaf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad cofrestredig arall ac yn cael eich trin am broblem iechyd meddwl, bydd hawl gyda chi i fanteisio ar wasanaeth Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol. Bydd y swyddog yma yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Manylion cyswllt
Mae Carfanau Gofal a Thriniaeth i Oedolion yn cynnig gwasanaeth iechyd meddwl i bobl sydd o dan 65 oed. Maen nhw wedi'u lleoli yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái.
Swyddfeydd y Cyngor (Adeilad Glas), Llewellyn Street , Y Pentre
Ffôn: 01443 424350
Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar
Ffôn: 01443 715100
Tŷ Draw, The Avenue, Y Comin, Pontypridd
Ffôn: 01443 486856
Mae ein Carfanau Lleol yn cynnig gwasanaeth iechyd meddwl i bobl sydd dros 65 oed.
Cysylltwch â’n Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn: 01443 425003