Skip to main content

Iechyd Meddwl - Oedolion - Cefnogaeth a Chyngor

Mae salwch meddwl yn gyffredin iawn ac mae modd iddo effeithio ar bobl o bob oed.  Bydd 25% o bobl yn wynebu problemau iechyd meddwlneu salwch meddwl rywbryd yn eu bywydau. Gall hyn gael effaith syfrdanol, nid yn unig arnyn nhw, ond ar eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cydweithwyr hefyd.

Rydyn ni wedi llunio dull o weithio mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Trydydd Sector (sefydliadau ac elusennau gwirfoddol ac "nid er elw"), a hynny er mwyn darparu gwasanaethau iechyd meddwl gwell a hybu agweddau cadarnhaol tuag at iechyd meddwl, gan leihau stigma ac achosion o wahaniaethu.

Gwasanaethau ar gyfer oedolion rhwng 18 i 65 oed

Os ydych chi rhwng 18 a 65 oed, dylech chi allu cael mynediad i wasanaethau iechyd y meddwl sylfaenol trwy eich meddyg teulu.  Mewn nifer o achosion, bydd yr ymateb gofal sylfaenol hwn yn ddigonol. Serch hynny, mewn achosion mwy difrifol, mae'n bosibl y bydd eich meddyg teulu yn eich atgyfeirio i'r Garfan Cynllunio Gofal a Thriniaeth. Pan fydd gwasanaethau Cynllunio Gofal a Thriniaeth yn gweithio gyda chi, eu nod yw eich helpu chi i wella, gwella ansawdd eich bywyd a hybu annibyniaeth.

Mae Carfanau Iechyd Meddwl yn y Gymuned yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i oedolion (18 oed neu'n hŷn) sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth sy'n galw am ymyriad arbenigol sydd y tu hwnt i'r hyn y mae modd i'r gwasanaeth gofal sylfaenol ei gynnig.  Mae tair carfan sy'n gweithio yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-Elái.  Mae'r carfanau yn cynnwys gweithwyr amrywiol - seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a chynhalwyr.

Gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn dros 65 oed

Mae Carfanau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i oedolion hŷn (65 oed a hŷn) sydd ag anghenion iechyd meddwl, neu bobl (o bob oed) sydd â dementia. Mae'r carfanau yn cynnwys gweithwyr amrywiol o faes gofal iechyd - seiciatryddion, seicolegwyr, nyrsys seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a chynhalwyr. Mae tair carfan sy'n gweithio yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-Elái.

Mae Carfanau Gofal a Chymorth yn Rhondda Cynon Taf yn gweithio gydag oedolion sydd angen gofal, cymorth neu ddiogelwch, yn ogystal â chynhalwyr. Mae hyn yn cynnwys oedolion hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl, yn ogystal â phobl sydd â dementia. Mae chwe charfan sy'n gweithio ledled Rhondda Cynon Taf.

Mae modd i broblemau iechyd meddwl, fel pob math o broblemau iechyd eraill, godi'n annisgwyl ar brydiau, ac efallai y bydd sefyllfa'n gwaethygu yn gyflym. Mae hyn yn aml yn digwydd pan fydd gwasanaethau rheolaidd ddim ar gael ac mae angen ymateb i sefyllfaoedd o'r fath yn brydlon. Mae carfanau argyfwng ar gael 24 awr y dydd ar gyfer ardal Cwm Taf. Mae gweithwyr proffesiynol cofrestredig, megis seiciatryddion ymgynghorol a nyrsys seiciatryddol, yn gweithio yn y carfanau yma. Maen nhw'n asesu unigolion sy'n wynebu argyfwng o ganlyniad i'w hiechyd meddwl. Bydd y garfan yn asesu p'un a oes modd helpu unigolyn yn ei gartref neu a oes angen cynnal asesiadau pellach yn yr ysbyty. Mae modd i chi atgyfeirio eich hun p'un a ydych chi'n ymwneud â'r Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned ai peidio. Yn ogystal â hynny, mae modd i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill eich cyfeirio chi at y gwasanaeth hefyd. Os dydych chi ddim wedi cael cymorth y Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned, bydden ni'n argymell i chi siarad â'ch meddyg teulu yn gyntaf. Bydd modd iddo roi cyngor i chi ynglŷn â'r camau mwyaf priodol i'w cymryd.

Manylion Cyswllt

Carfanau Gofal a Thrin Oedolion (ar gyfer pobl sydd dan 65 oed)

Carfan Cwm Rhondda, Swyddfeydd y Cyngor (Adeilad Glas), Llewellyn Street, Y Pentre
Ffôn: 01443 424350

Carfan Cwm Cynon, Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar
Ffôn: 01443 715100

Carfan Taf Elái, Dewi Sant Health Park, Albert Rd Pontypridd 
Ffôn: 01443 443 844

Carfanau Lleol (ar gyfer pobl dros 65 oed)

Cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn: 01443 425003

Carfanau Argyfwng

Cwm Cynon - cysylltwch ag Ysbyty'r Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful
Ffôn: 01685 721721/726952

Taf Elái a Chwm Rhondda - cysylltwch ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Ffôn: 01443 446388