Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl - Materion Byw'n Annibynnol yn darparu cymorth i oedolion 18 oed ac yn hŷn sy'n dioddef o broblemau iechyd y meddwl. Gall cymorth gael ei ddarparu'n unigol neu ar sail grŵp. Ei nod yw helpu pobl i fagu ffordd o fyw sy'n fwy annibynnol.
Bydd gweithiwr allweddol yn eich helpu chi i ddod o hyd i gyfleoedd o'ch dewis, rhai a fydd yn eich galluogi chi i gyflawni eich amcanion personol.
Bydd eich gweithiwr allweddol yn trafod ac yn cytuno ar gynllun cymorth ar eich cyfer, un sy'n diwallu'ch anghenion asesedig orau. Dyma yw eich 'Cynllun Unigol'. Bydd yn nodi pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch chi a sut y bydd yn cael ei ddarparu. Mae modd i chi drafod newidiadau i'r cynllun gyda'ch gweithiwr allweddol ar unrhyw adeg.
Gall y gwasanaeth eich cynorthwyo chi mewn sawl ffordd. Gweler rhai enghreifftiau isod:
- dod o hyd i weithgareddau sy'n cynnig cyfleoedd i gwrdd â phobl eraill mewn amgylchedd addas
- cyflwyno cyfleusterau'r gymuned i chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a gwneud ffrindiau newydd
- rheoli tasgau bob dydd, e.e. siopa, neilltuo arian a chynnal a chadw eich cartref
- eich helpu i ddefnyddio cyfleusterau eich cymuned yn fwy hyderus, e.e. canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden a llyfrgelloedd
- magu eich hyder ynghylch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn dod yn fwy annibynnol
- cynnal eich iechyd a lles mewn sawl ffordd, er enghraifft, drwy fynd i'r ganolfan hamdden
- mynd i apwyntiadau perthnasol a rheoli gweithgareddau wythnosol
- canfod ffyrdd eraill o ddod o hyd i gymorth, cyfleoedd dysgu a datblygu a gwella eich sgiliau presennol
- cynnig cyrsiau strwythuredig sy'n rheoli a gwella'ch iechyd meddwl a lles
Bydd unrhyw gymorth unigol yr ydych chi'n ei dderbyn yn cynnwys asesiad ariannol. Mae'r asesiad yma'n cyd-fynd â chanllawiau presennol ein Codi Tâl am Wasanaethau Cymdeithasol Amhreswyl.
Cysylltwch â ni'n
Gwasanaeth Materion Byw yn Annibynnol - Cwm Rhondda
Swyddfeydd y Cyngor (Adeilad Glas)
Llewellyn Street,
Y Pentre,
CF41 7BT,
Ffôn: 01443 424350
Gwasanaeth Materion Byw'n Annibynnol Cwm Cynon
Prif Swyddfa Cwm Cynon,
Llewellyn Street,
Trecynon,
Aberdâr,
CF44 8HU
Ffôn: 01685 887883
Gwasanaeth Materion Byw'n Annibynnol Cwm Taf
Tŷ Draw, The Avenue,
The Common,
Pontypridd,
CF37 4DF,
Ffôn: 01443 486856
Swyddog Cwynion - Gwasanaethau Cymuned
Tŷ Elái,
Dinas Isaf,
Trewiliam,
CF40 1NY,
Ffôn: 01443 425003
Oriau arferol Gwasanaeth Materion Byw'n Annibynnol: Dydd Llun - Dydd Iau 8.30am - 5pm (Dydd Gwener 8.30am - 4.30pm)
Os oes angen cymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol arnoch chi neu ar rywun rydych chi'n gofalu amdano, cysylltwch â'n Gwasanaeth Ymateb ar Unwaith. Ffôn: 01443 425003 neu anfon e-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rctcbc.gov.uk
Mae’r Gwasanaeth Argyfwng Tu allan i Oriau yn ymateb ar frys i argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos. Ffôn: 01443 743665