Skip to main content

Carfan Partneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Mae'r Bartneriaeth yn annog, cefnogi a datblygu sgiliau gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol lleol.  

Nodau ac Amcanion

Amcan cyffredinol Partneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yw gwella ansawdd a dull rheoli'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau cymdeithasol. Caiff hyn ei wneud drwy roi dull gweithredu sydd wedi'i gynllunio ar waith o ran dysgu a datblygu ac ymdrechu i gynyddu nifer y bobl sy'n cael hyfforddiant yn y sector gofal cymdeithasol.

Amcanion PDGGC ar gyfer 2021/22 yw:

  • Sicrhau bod staff ym mhob sefydliad partner sy'n cyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen i weithio o dan y fframwaith cyfreithiol newydd a sicrhau bod y newidiadau diwylliannol sydd eu hangen yn cael eu rhoi ar waith. (Gweler rhestr o'r sefydliadau hynny y mae rhaid eu cynnwys yn y cynllun.)  Bydd angen i ddarpariaeth leol a rhanbarthol dynnu ar y rhaglen ddysgu a datblygu sy'n cael ei pharatoi gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau gofal i sicrhau bod mentrau datblygu'r gweithlu yn cael eu blaenoriaethu a'u targedu'n briodol i ddiwallu anghenion.
  • Comisiynu gweithgareddau dysgu a datblygu a hwyluso cyfleoedd i ddarparu cysylltiadau i ddiwallu anghenion datblygu'r gweithlu trwy raglen flynyddol o hyfforddiant wyneb yn wyneb.
  • Datblygu dulliau hyblyg o gyflwyno hyfforddiant.
  • Cymwysterau newydd.
  • Cyfleoedd i gymhwyso, ôl-gymhwyso a Hyfforddi a Dysgu Ôl-Gofrestru (PRTL) ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a'r gweithlu sydd wedi cofrestru.
  • Sicrhau bod yr holl brosesau dysgu a datblygu craidd yn cael eu hailstrwythuro er mwyn adlewyrchu'r fframwaith cyfreithiol newydd, gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant o ran cymwysterau.
  • Parhau â'r cymorth cyfredol ar gyfer hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru.
  • Helpu gweithwyr gofal cymdeithasol y rheng flaen i ddatblygu sgiliau.
  • Cefnogi'r seilwaith ar gyfer dysgu a datblygu ledled Cymru, gan gynnwys sefydlu partneriaethau lleol a rhanbarthol a chydweithio.

Aelodaeth

Mae aelodaeth yn agored i, ac yn cynnwys, holl ddarparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u contractio yn Rhondda Cynon Taf, p'un ai'n statudol, yn annibynnol neu'n wirfoddol.  Mae defnyddwyr y gwasanaeth a chynhalwyr yn rhan bwysig o'r Bartneriaeth, fel y mae darparwyr addysg a hyfforddiant.  Mae'r Bartneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol hefyd yn gweithio law yn llaw gyda darparwyr gofal iechyd o dan ymbarél y Bwrdd Iechyd Lleol.   Mae Grŵp Gweithredol yn cydlynu gwaith y Bartneriaeth.

Beth ydy'r Bartneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn ei wneud?

  • Gwybodaeth am y Gweithlu / Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi.  Mae'r Bartneriaeth yn casglu gwybodaeth am y gweithlu gofal cymdeithasol lleol ac yn cwblhau dadansoddiadau hyfforddiant yn flynyddol i helpu i gynllunio ac i gomisiynu hyfforddiant i ddiwallu'r anghenion hynny.
  • Casglu a Choladu data am y gweithlu ar ran Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r amserlen o Achlysuron Hyfforddi ar gael ar The Source. Mae'r amserlen yn cael ei hanfon at yr holl bartneriaid mewnol ac allanol.
  • Cefnogaeth. Ein bwriad ni yw cefnogi cyflogwyr trwy gynnig hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus, yn ogystal â'u cefnogi gyda materion yn ymwneud â'r gweithlu.
  • Gweithdai. Mae gweithdai'r Bartneriaeth gyfan yn cael eu trefnu o dro i dro er mwyn rhannu gwybodaeth a phrofiad ar bynciau perthnasol.  
  • Adnoddau. Mae llyfrgell o adnoddau hyfforddi ar gael i aelodau'r Bartneriaeth.
  • Llwybrau i Gyflogaeth.  Mewn partneriaeth â Choleg Y Cymoedd, mae Rhaglen Llwybr Gofal 16 -19 oed (a hŷn) yn cael ei gweithredu.  Mae'r llwybr yma'n darparu ffordd glir i bobl ifainc tuag at yrfa yn y sector gofal.  Mae sylw yn cael ei dynnu at yrfaoedd mewn gofal mewn ysgolion lleol, a hynny mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru. Mae hyn wedi'i ohirio ar hyn o bryd yn sgil Covid-19.
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, cynhalwyr sydd angen cymorth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi llawer o wybodaeth a deunyddiau hyfforddi defnyddiol iawn i bawb eu defnyddio.
  • Mae gwybodaeth hefyd ar Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016  ac mae modd dod o hyd i'r rhain ar yr “Hyb Dysgu” ynghyd â gwybodaeth arall yn ymwneud â gweithio yn ystod Covid.  Mae modd i chi eu lawrlwytho'n hawdd a'u defnyddio eich hun neu gyda'ch staff mewn cyfarfodydd a sesiynau goruchwylio. Rydyn ni'n argymell eich bod yn edrych ar: https://gofalcymdeithasol.cymru/resources-guidance

Dolenni Defnyddiol

Gofal Cymdeithasol Cymru 

  • Gosod safonau ar gyfer gofalu am y gweithlu a'i gefnogi, gan wneud pawb yn atebol am eu gwaith.
  • datblygu'r gweithlu a sicrhau bod ganddyn nhw'r wybodaeth a'r sgiliau i ddiogelu, grymuso a chefnogi'r rhai sydd angen help.
  • gweithio gydag eraill i wella gwasanaethau ar gyfer meysydd y cytunwyd arnyn nhw'n flaenoriaethau cenedlaethol.
  • rhannu arfer da gyda'r gweithlu er mwyn darparu'r ymateb gorau.
  • gosod blaenoriaethau ar gyfer ymchwil i gasglu tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio'n dda.
  • darparu gwybodaeth i'r cyhoedd a sefydliadau eraill.

Interlink yw grŵp ymbarél Rhondda Cynon Taf ar gyfer y sector gwirfoddol ac mae'n trefnu rhaglen o hyfforddiant. 

Mae gan Age UK (cafodd ei ffurfio trwy uno Help the Aged ac Age Concern) wefan o'r enw My Home Life sy'n cyhoeddi adnoddau datblygiad staff a deunyddiau eraill am ddim.

Canolfan Dewis ar gyfer Byw'n Annibynnol yn trefnu amserlen o achlysuron hyfforddi, gan gynnwys hyfforddiant cydraddoldeb i bobl anabl a chyrsiau mewn gwahanol agweddau ar ofal. 

Mae cyrsiau hyfforddi ar-lein o safon dda ar gael am ddim ar Social Care TV.

Mae'r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth yn cyhoeddi rhestr sylweddol o'r adnoddau hyfforddi sydd ar gael.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â Charfan Partneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol: