Skip to main content

Sut gallwn ni fod o gymorth

Rydyn ni i gyd am gael rheolaeth dros ein bywydau, er mwyn byw mor annibynnol a diogel yn ein cartrefi ein hunain cyhyd â phosibl. Fodd bynnag, ar ryw adeg, efallai y bydd hyn yn mynd ychydig yn anoddach ei reoli a bydd angen rhywfaint o gymorth arnoch chi i wneud hyn.

Sut gallwn ni fod o gymorth.
Beth yw Gofal Cymdeithasol i Oedolion?

Gofal Cymdeithasol i Oedolion yw'r gofal a'r cymorth y mae'r Cyngor yn ei ddarparu i oedolion sydd, yn ôl asesiad, angen cymorth arnyn nhw i fyw, a hynny mor annibynnol â phosibl. 

Mae oedolion y byddai angen gofal a chymorth arnyn nhw o bosibl yn cynnwys:
• pobl hŷn
• pobl sydd ag anableddau dysgu
• pobl sydd ag anableddau corfforol
• pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl
• pobl â phroblemau cyffuriau ac alcohol
• pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu am eraill, h.y. cynhalwyr (gofalwyr)

Pa gymorth rydyn ni'n ei ddarparu?

Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n darparu amrywiaeth o wasanaethau i helpu oedolion i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth. Dyma rai enghreifftiau o'r cymorth rydyn ni'n ei ddarparu:

• darparu gwybodaeth a chyngor
• cyfeirio at weithgareddau a chefnogaeth yn y gymuned leol
• darparu gofal a chymorth tymor byr a thymor hir yn y cartref
• gwneud cartrefi yn fwy hygyrch trwy eu haddasu a darparu offer cymunedol
• trefnu symud i gartref gofal pan dydy hi ddim yn bosibl byw gartref bellach
• cefnogi pobl sy'n gofalu am eraill
• atal a diogelu oedolion sydd mewn perygl rhag niwed neu esgeulustod

Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â'r gwasanaeth iechyd, y trydydd sector, sefydliadau preifat, grwpiau gwirfoddol, gwasanaethau tai ac eraill er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn. 

Am restr o wasanaethau lles yn eich cymuned, gallwch ymweld â gwefan Dewis Cymru:

www.dewis.cymru

Beth sy'n bwysig? – Asesu'ch anghenion

Os hoffech chi gael sgwrs, yn hytrach na derbyn gwybodaeth yn unig, byddwch chi'n siarad ag aelod o'n Carfan Un Pwynt Mynediad (SPA), a fydd yn dechrau eich asesiad gyda chi. Mae'r asesiad yn sgwrs am 'Beth sy'n Bwysig' i chi, neu'r unigolyn rydych chi'n gofalu amdano, ac yn rhoi cyfle i chi ddweud wrthon ni am eich sefyllfa a sut mae eich anghenion gofal yn effeithio ar eich lles.

Mae'r asesiad yn ymwneud â chi ac wrth gymryd rhan, mae'n ein helpu i ddeall pethau o'ch safbwynt chi. Byddwn ni'n sicrhau eich bod chi'n rhan o'r broses drwyddi draw ond, os yw'n well gyda chi, yna mae modd i'ch cynhaliwr, ffrind neu aelod o'r teulu eich helpu a'ch cynrychioli.

Os nad oes unrhyw un i'ch helpu neu os hoffech chi i rywun sydd ddim yn aelod o'ch teulu neu'n ffrind i chi eich helpu, mae modd i ni roi cymorth i chi i ddod o hyd i eiriolwr annibynnol i'ch cynrychioli.

Gyda'n gilydd, byddwn ni'n cytuno ar y deilliannau mwyaf addas i chi, ac ar ôl cytuno arnyn nhw, bydd modd i chi gael copi ohonyn nhw os ydych chi'n dymuno.

Cynhalwyr

Os ydych chi'n gofalu am rywun a hoffech chi drafod eich rôl ofalu, cysylltwch â'r Garfan Ymateb ar Unwaith ar 01443 425003. Byddwn ni'n cynnal yr un sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' gyda chi er mwyn nodi pa ddeilliannau yr hoffech eu cyflawni a sut mae modd i ni eich helpu yn eich rôl ofalu a chyflawni'r deilliannau yna.

Gall ein Cynllun Cynnal y Cynhalwyr hefyd eich cefnogi yn eich rôl ofalu.

Cymhwysedd ar gyfer gofal a chymorth
Beth sy'n digwydd os ydw i'n gymwys i dderbyn gofal a chymorth?

Pan fyddwn ni'n cynnal eich asesiad, rydyn ni'n ystyried a ydych chi'n gymwys i dderbyn ein cymorth trwy ddefnyddio'r Meini Prawf Cymhwysedd Cenedlaethol sydd wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru.

Os ydych chi'n gymwys i dderbyn cymorth gennyn ni, byddwn ni'n gweithio gyda chi i gynllunio'r gofal a'r cymorth gorau i ddiwallu eich anghenion.

Mae rhagor o wybodaeth am y Meini Prawf Cymhwysedd Cenedlaethol ar gael yma:

https://gofalcymdeithasol.cymru/hyb/deddf-sswb-rheoliadau  

Beth sy'n digwydd os dydw i ddim yn gymwys i dderbyn gofal a chymorth?

Os yw'ch asesiad yn nodi eich bod chi ddim yn gymwys i dderbyn gofal a chymorth gan y Cyngor, byddwn ni'n rhoi gwybodaeth a chyngor i chi ar sut i gael gafael ar gymorth yn lleol.

Byddai modd i'r cymorth lleol yma fod yn help gyda'ch lles, materion tai, budd-daliadau neu efallai y bydd yn eich helpu i fynd i glybiau a grwpiau gwirfoddol yn eich cymuned.

Cynllunio eich gofal a'ch cymorth

Os ydych chi'n gymwys i gael gofal a chymorth gennyn ni, byddwn ni'n gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gofal a chymorth (neu gynllun gofal a thriniaeth os ydych chi'n derbyn cymorth iechyd meddwl eilaidd).

Bydd unrhyw sefydliadau sy'n ymwneud â'ch gofal a'ch cymorth yn paratoi eich cynllun gyda chi. Bydd y cynllun yn disgrifio'r cymorth y byddwn ni'n ei ddarparu neu'n ei drefnu i chi, ac am ba hyd a pha mor aml y byddwch chi'n ei dderbyn. Cewch eich copi eich hun o'ch cynllun gofal a chymorth.

Os ydych chi'n dymuno, wrth ddatblygu eich cynllun gofal a chymorth, byddwn ni'n ystyried barn eich teulu, eich cynhalwyr a phobl broffesiynol sy'n deall eich amgylchiadau.

Os ydych chi'n derbyn gofal tymor hir yn rhan o'ch cynllun gofal a chymorth, byddwn ni'n adolygu'r cymorth rydych yn ei dderbyn ac yn sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu eich anghenion.

Yn ystod eich asesiad, bydd modd trafod yr opsiwn o dalu'n uniongyrchol i ddiwallu eich anghenion gofal a chymorth.

Mae taliadau uniongyrchol yn eich galluogi chi i drefnu gofal a chymorth eich hun yn hytrach na derbyn pecyn gofal sy'n cael ei drefnu gan y Cyngor. Rydych chi'n dewis y math o gymorth sydd ei angen arnoch chi, pwy sy'n ei ddarparu a phryd y mae angen y cymorth yma.

Rhannu eich gwybodaeth bersonol

Rydyn ni'n casglu ac yn cadw gwybodaeth bersonol am bobl sy'n cael cefnogaeth drwy Ofal Cymdeithasol i Oedolion i'n galluogi ni i ddarparu'r gofal gorau posibl. Mae'n ddyletswydd arnon ni i drin yr wybodaeth yma yn gyfrinachol, ond rydyn ni hefyd yn dibynnu ar rannu gwybodaeth amdanoch chi gyda'n partneriaid er mwyn darparu gofal a chymorth yn effeithlon.

Bydd y mathau o wybodaeth amdanoch chi rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu yn amrywio yn dibynnu ar y gofal a'r gefnogaeth rydych chi'n eu derbyn gennyn ni. Yn nodweddiadol, bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am eich anghenion a'ch amgylchiadau personol, yn ogystal ag asesiadau proffesiynol staff Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r hyn maen nhw a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'ch gofal wedi'i arsylwi.

Byddwn ni'n sicrhau:
• bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu'n gyfrifol ac yn ddiogel
• bydd rhannu gwybodaeth fel hyn yn eich atal rhag gorfod ailadrodd eich hanes i wahanol bobl ar wahanol adegau
• bydd yn eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch cyn gynted â phosibl

Mae gyda chi hawl i wrthod gadael i'r Cyngor brosesu eich gwybodaeth bersonol. Dydy'r hawl yma ddim yn ddiamod, ac mae hi ond yn berthnasol o dan amgylchiadau penodol. Mae hyn yn dibynnu ar ein rhesymau dros brosesu'r wybodaeth a'r sail gyfreithiol dros wneud hynny.

Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i unigolion, gan gynnwys yr hawl i wybod pa wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanoch chi. Mae'n pennu rheolau i sicrhau bod yr wybodaeth yma yn cael ei thrin yn gywir.

I gael manylion eich hawliau ynghylch gwybodaeth o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) neu i weld Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, ewch i:

https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Council/DataProtectionandFreedomofInformation/DataProtection/Yourinformationrights/Yourinformationrights.aspx 

Cysylltu â ni

Mae croeso i chi gysylltu â ni, neu mae modd i ffrind, perthynas neu weithiwr iechyd proffesiynol (e.e. eich meddyg) gysylltu â ni ar eich rhan.

Mae modd gwneud cais am gymorth i ddiwallu eich anghenion gofal a chymorth trwy gysylltu â'r Garfan Ymateb ar Unwaith:

Ffôn: 01443 425003 (pris galwad leol)
E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Fe gewch chi unrhyw wybodaeth berthnasol gan aelod o'r Garfan. Fel arall, byddan nhw'n eich trosglwyddo i Garfan arall a fydd yn hapus i drafod â chi.

Os oes gyda chi bryderon am eich iechyd meddwl eich hun neu rywun arall, eich cam cyntaf fyddai cysylltu â'ch meddyg teulu, a fydd wedyn yn gwneud atgyfeiriad i'r Garfan Gofal Cymdeithasol i Oedolion.   

Mae ein Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau (EDT) yn delio â materion gofal cymdeithasol sy'n digwydd y tu allan i oriau swyddfa, ar benwythnosau neu ar wyliau banc lle does dim modd aros nes i'n swyddfeydd ailagor ar y diwrnod gwaith nesaf:

Ffôn: 01443 743665 (pris galwad leol)

Os ydych chi o'r farn bod oedolyn mewn perygl, rhowch wybod trwy ffonio ein Carfan Ymateb ar Unwaith ar y rhif uchod.

Os ydych chi'n amau bod unigolyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.

Os ydych chi o'r farn bod trosedd wedi digwydd, ffoniwch Heddlu De Cymru ar 101