Mae gyda ni nifer o raglenni cymorth cyflogaeth ar gael ledled Rhondda Cynon Taf. Maen nhw'n cynnig cymorth a chyngor i bob trigolyn dros 16 mlwydd oed sy'n chwilio am waith, cyfleoedd i hyfforddi neu gyfleoedd i wirfoddoli. Mae modd i chi hefyd gael cymorth i wella'ch sgiliau pan fyddwch chi mewn swydd.