Skip to main content

Newidiadau i Gredyd Cynhwysol

Bydd cynnydd dros dro Llywodraeth y DU yn y Credyd Cynhwysol yn dod i ben ym mis Medi 2021.  Ar ôl y dyddiad yma, fydd y cynnydd o £20 yr wythnos, £86.67 y mis, ddim yn cael ei dalu mwyach. 

Mae'n bwysig i chi ddechrau meddwl am sut y bydd y gostyngiad yma yn effeithio arnoch chi a'ch teulu.

Mae yna ystod o wasanaethau ledled Rhondda Cynon Taf sy'n gallu eich helpu chi i reoli'r newid.

Mae modd i Gyngor Rhondda Cynon Taf, ynghyd â phartneriaid fel Cyngor ar Bopeth RhCT a Landlordiaid Cymdeithasol, helpu gyda gwiriadau budd-daliadau, cyllidebu personol, cyngor ar ynni, cymorth gyda bwyd a llawer yn rhagor. 

Cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol

Os dydych chi ddim yn siŵr a ydych chi'n gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau, mae modd i chi ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol. Mae modd i chi hefyd ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol os ydych chi eisoes yn derbyn budd-daliadau er mwyn gwirio eich bod chi'n derbyn y cymorth y mae gyda chi'r hawl iddo.

Gwirio Budd-daliadau

Mae yna ystod o fudd-daliadau, grantiau a lwfansau ar gael ac mae’n bosibl bod hawl gyda chi i'w derbyn. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar wefan GOV.UK neu drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol.

Cronfa Cymorth Dewisol

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn rhoi grantiau i bobl sy'n byw yng Nghymru. Mae'n rhoi grantiau i bobl sydd angen help i fyw'n annibynnol yn y gymuned, neu'r rhai sydd wedi profi argyfwng neu drychineb, i helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn argyfwng.
Nodwch: Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn bartner cofrestredig ac mae modd iddo roi cymorth i chi wneud eich cais.

Cymorth gyda dyled a chyllidebu

Weithiau mae delio â materion ariannol yn gallu bod yn annymunol, ond os dydych chi ddim yn deall sut mae pethau fel credyd neu forgeisi’n gweithio, mae modd i chi golli allan yn ariannol neu ddechrau cronni dyled.
Optional help text

Tai

Treth y Cyngor – gostyngiadau ac eithriadau

Os oes rhaid i chi dalu Treth y Cyngor lle rydych chi'n byw, mae modd i chi gael gostyngiad i'ch helpu chi i dalu am Dreth y Cyngor neu ran ohoni. Bydd hyn yn dibynnu ar eich incwm a'ch amgylchiadau, er enghraifft os oes gyda chi incwm isel, os ydych chi'n anabl neu os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun.

Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cynnig swm atodol ar ben budd-daliadau. Maen nhw'n cael eu hystyried os oes angen cymorth ychwanegol ar rywun o ran costau tai. Mae unrhyw daliad yn ychwanegol i'r Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol sydd wedi'i roi.

Teulu a Phlant

Prydau Ysgol am Ddim

Os ydych chi'n hawlio rhai budd-daliadau penodol, mae modd i chi arbed arian trwy hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn.

Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu cyfuniad o hyd at 30 awr yr wythnos o addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen a gofal plant wedi'i ariannu ychwanegol i rieni sy'n gweithio. Bydd y ddarpariaeth yma ar gael i blant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd y Cynnig yn datblygu ar addysg Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen sydd eisoes ar gael i blant yn ystod tymor yr ysgol, a bydd yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu am 9 wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol.

Cychwyn Iach

Os ydych chi'n feichiog neu os oes gyda chi blentyn o dan 4 oed, ac yn derbyn rhai budd-daliadau penodol, mae modd i'r cynllun Cychwyn Iach eich helpu chi i brynu bwydydd sylfaenol fel llaeth neu ffrwythau.

Gwirio Budd-daliadau ar gyfer y Teulu

Mae yna ystod o fudd-daliadau, grantiau a lwfansau ar gael ar gyfer teuluoedd a phlant ac mae’n bosibl bydd gyda chi hawl i'w derbyn. Mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhain ar wefan GOV.UK neu drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol.

Lwfans Gofalwr 

Mae Lwfans Gofalwr yn fudd-dal i bobl sy'n rhoi gofal rheolaidd a sylweddol i bobl anabl. Mae modd i chi gael £67.60 yr wythnos os ydych chi'n gofalu am rywun o leiaf 35 awr yr wythnos ac mae’r unigolyn hwnnw’n hawlio rhai budd-daliadau penodol.

Cyflogaeth

Cymunedau am Waith a Mwy

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig cymorth i bawb yn Rhondda Cynon Taf sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfle i wirfoddoli. Mae modd i chi fanteisio ar gymorth 1 i 1, clybiau gwaith a chymorth cyflogaeth arall.

Cymru'n Gweithio

Cyngor ac arweiniad am ddim i'ch helpu chi i gael swydd, i wella eich sgiliau trwy gyrsiau a hyfforddiant, ac i ddod o hyd i gymorth a chyfleoedd cyllido.

Gyrfa Cymru

Cymorth i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith os oes gyda chi anabledd neu gyflwr iechyd. Os oes gyda chi anabledd neu gyflwr iechyd, mae modd i chi gael cymorth i'ch helpu chi i ddod o hyd i swydd a'i chadw.

Cymorth Arall

Cyngor Rhondda Cynon Taf - Cymorth i Drigolion

Mae modd i chi ofyn am gymorth ar unrhyw adeg rydych chi mewn angen. Mae'r Cyngor yn rhoi cymorth i drigolion gyda chefnogaeth Gwirfoddolwyr Cydnerthedd y Gymuned a phartneriaid cymunedol. Mae modd i'r cymorth yma gynnwys darparu parseli bwyd brys, cymorth lles, casglu presgripsiynau, cyngor ar arian a llawer yn rhagor.

Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf

Mae'n cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar ystod o faterion sy'n effeithio ar fywydau pobl, megis y gyfraith, dyled, materion defnyddwyr, tai, budd-daliadau, mewnfudo, cyflogaeth ac iechyd.

Banciau Bwyd

Mae banciau bwyd yn sefydliadau cymunedol sy'n gallu eich helpu chi os dydych chi ddim yn gallu fforddio'r bwyd sydd ei angen arnoch. Fel arfer bydd angen i chi gael atgyfeiriad i fanc bwyd cyn bo modd i chi ei ddefnyddio.

Banciau Bwyd yn Rhondda Cynon Taf:

Mae pedwar Banc Bwyd yn Rhondda Cynon Taf wedi'u gweithredu gan Ymddiriedolaeth Trussell. Mae'r banciau bwyd yma'n defnyddio system atgyfeirio.

Mae gwybodaeth am sut i gael mynediad atyn nhw ar eu gwefannau.