Rhaid i'r mynediad i gyrchu data system Teledu Cylch Cyfyng RhCT gydymffurfio ag amcanion y cynlluniau. Mae delweddau yn cael eu cadw ar y system am gyfnod o 31 diwrnod hyd nes bod cais ffurfiol yn cael ei wneud.
Mae data yn cael ei ryddhau i'r Heddlu ac asiantaethau partneriaeth fel tystiolaeth i ategu ymholiadau ac achosion llys. Mae trosglwyddo data yn rhan o gytundeb rhannu gwybodaeth wedi'i sefydlu gan Heddlu De Cymru RhCT a phartneriaid cysylltiedig.
Mae hawl gyda unigolyn ofyn i weld data, serch hynny caiff data (darnau o ffilm) ei ryddhau yn unig os yw'r wybodaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac os felly, am y cyfnod penodol y mae'r unigolyn yn y darn o ffilm.
Ceisiadau Cyfreithiol
Mae mynediad i weld delweddau dan Atodlen 2, Paragraff 5 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn ddiamod. Mae'n bosibl y bydd mynediad yn cael ei awdurdodi mewn achosion cyfreithiol neu wrth amddiffyn hawliau cyfreithiol.
Er enghraifft, ceisiadau gan gynrychiolwyr cyfreithiol neu gwmnïau yswiriant. Mae darnau o ffilmiau yn cael eu dadansoddi ac mae gwiriadau yn cael eu cynnal i sicrhau bod ceisiadau yn gyfreithlon a bod rhaid talu ffi.
Mae ceisiadau mewn perthynas ag atal a chanfod trosedd.
Caiff asiantaethau erlyn gyflwyno ceisiadau yn hytrach na'r bobl wedi'u nodi yn y bartneriaeth. Mae'r ceisiadau yma yn cael eu gwneud dan Atodlen 2, Paragraff 2 o Ddeddf Diogelu Data ac maen nhw'n berthnasol i ymchwilio i droseddau.
Trwy ddwyn i lys
Mae'n bosibl y bydd y llys yn cymeradwyo cyhoeddi delweddau Teledu Cylch Cyfyng os nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau uchod yn berthnasol.
Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd delweddau yn datgelu gwybodaeth breifat pobl nad ydyn nhw'n berthnasol i'r cais. Mae'n bosibl y bydd angen golygu delweddau neu guddio darnau ohonyn nhw i amddiffyn gwybodaeth bersonol. Mae'n bosibl y bydd ffi yn cael ei chodi am hyn.
Am gyngor pellach am ryddhau data, cysylltwch â'r rheolydd data.
Rheolydd Data – 01443 494876
E-bost – wayne.bluck@rhondda-cynon-taf.gov.uk