Croeso
Mae'r tudalennau yma ar gyfer pobl sydd newydd gyrraedd Rhondda Cynon Taf o Wcráin.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a'i bartneriaid yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin.
Os ydych chi wedi cyrraedd y DU yn ddiweddar o Wcráin, croeso i'r ardal. Rydyn ni am sicrhau eich bod chi'n cael yr holl gymorth a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi yn ystod y cyfnod brawychus yma.
Mae Cymru yn Genedl Noddfa. Mae croeso cynnes yng Nghymru i bawb sy’n dod o Wcráin.
Bwriwch olwg ar wefan Noddfa Llywodraeth Cymru
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi unrhyw un sy'n cyrraedd yr ardal, ac i'ch helpu chi i setlo yn ein rhanbarth mor ddidrafferth a dibryder ag sy'n bosibl.
Byddwn ni'n gwneud hyn drwy roi gwybodaeth i chi mewn perthynas â mynediad i addysg i blant a phobl ifainc a chymorth o ran lles, eich cyfeirio at ofal iechyd a chymorth iechyd meddwl lle bo angen, yn ogystal â dolenni i adnoddau cymunedol.
Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth ar draws ein rhanbarth, a chyda Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod ystod lawn o adnoddau a chymorth ar gael i’ch cynorthwyo chi.
Cyn i chi gyrraedd?
Bydd swyddog o’r Cyngor yn ymweld â’r eiddo i wirio ei fod yn addas, yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth y DU, ac i sicrhau y bydd gyda chi bopeth sydd ei angen arnoch.
Mae swyddog y Cyngor hefyd wedi trefnu gwiriad Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a gwiriad cofnodion gwasanaethau cymdeithasol, ar gyfer yr holl oedolion sy'n byw yn eich cartref newydd. Fydd dim cost i'ch lletywr nac i chi'ch hun am unrhyw un o'r gwiriadau yma a byddan nhw'n cael eu cynnal yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth y DU.
Pan fyddwch chi'n cyrraedd
Bydd eich lletywr yn rhoi gwybod i swyddogion y Cyngor eich bod chi wedi cyrraedd a bydd asesydd lles yn galw draw i'ch gweld chi yn eich cartref newydd i sicrhau eich bod chi'n ddiogel ac yn iach. Mae'r hawl gyda chi i dderbyn taliad cyrraedd o £200 fel incwm brys ar gyfer unrhyw hanfodion sydd eu hangen arnoch chi. Bydd Cyngor RhCT yn prosesu hyn ar ôl yr ymweliad asesu lles o fewn 48/72 awr (gwaith) i chi gyrraedd. Bydd hwn yn cael ei dalu i chi drwy gerdyn rhagdaledig drwy'r post.
Os oes angen i chi drafod unrhyw faterion ar frys, e-bostiwch CymorthiWcrain@rctcbc.gov.uk
Mae modd i chi ofyn am gymorth trwy ffurflen ar-lein
Cysylltwch â gwladolion Wcráin eraill yn Rhondda Cynon Taf
Rydyn ni'n trefnu achlysuron croeso i bobl sy'n cyrraedd Rhondda Cynon Taf i gwrdd a chysylltu â gwladolion Wcráin eraill yn yr ardal. Rydyn ni eisiau sicrhau bod gyda chi rwydwaith cymdeithasol a chymorth lleol.
Os ydych chi wedi cyrraedd trwy'r Cynllun Nawdd Cartrefi i Wcráin, byddwn ni'n cysylltu â chi'n uniongyrchol gyda gwybodaeth am achlysuron lleol a chyfleoedd cymdeithasol.
Os ydych chi wedi cyrraedd trwy fisa Cynllun Teulu Wcráin ac eisiau cael eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau cymunedol lleol, anfonwch e-bost aton ni i gwrdd â'n carfan - CymorthiWcrain@rctcbc.gov.uk
Y Cynllun Teuluoedd o Wcráin
Sylwch, os ydych chi wedi cyrraedd ar fisa Cynllun Teulu Wcráin, dydych chi ddim yn gymwys yn awtomatig ar gyfer y taliad arian parod o £200 - fodd bynnag mae'r Cyngor wedi penderfynu cynnig y taliad yma i helpu holl wladolion Wcráin sy'n cyrraedd ein Bwrdeistref Sirol.
I gael mynediad at hwn a chymorth arall sydd ar gael, cysylltwch â CymorthiWcrain@rctcbc.gov.uk
Dysgwch ragor am y Cynllun Teulu Wcráin ar wefan Llywodraeth San Steffan
Mynediad i wasanaethau ar-lein a digidol
Mae defnyddio'r rhyngrwyd yn rhan annatod o fywyd heddiw ac mae yna sawl dull i'w ddefnyddio yma yn Rhondda Cynon Taf.
Dysgwch ragor
Eich helpu i ymgartrefu
Bydd archwilio'r ardal lle byddwch chi'n byw a dod i ddeall pa wasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael yn lleol yn eich helpu chi i ymgartrefu.
Efallai yr hoffech chi ymweld â llefydd fel hyn:
- Siopau lleol – gan gynnwys mannau lle mae modd i chi brynu bwyd a chynnyrch sy’n ddiwylliannol briodol
- Banciau
- Canolfannau cymuned
- Canolfannau hamdden - Mae modd i Gyngor RhCT gynnig Aelodaeth Hamdden am Oes AM DDIM i'n teuluoedd o Wcráin a'r noddwyr sy'n eu cynnal. Mae hyn yn cynnig mynediad i gampfeydd, sesiynau nofio, dosbarthiadau a chwaraeon dan do yn HOLL ganolfannau hamdden y Cyngor ledled Rhondda Cynon Taf. Bydd y tocyn yn ddilys am 6 mis o gofrestru, a bydd manylion yn cael eu rhannu gyda chi yn eich cyfarfod croeso.
- Llyfrgelloedd - mae nifer o e-lyfrau AM DDIM ar gael yn Wcreineg ac mae modd cael gafael arnyn nhw trwy BorrowBox.
- Canolfannau gofal iechyd a fferyllfeydd
- Parciau a Mannau Chwarae
- Addoldai
Mae gwybodaeth am atyniadau/lleoedd o ddiddordeb i dwristiaid ar gael yma
Mae'r adran 'Agosaf ata i' ar wefan y Cyngor hefyd yn helpu i ddarparu gwybodaeth leol.
Teithio o gwmpas RhCT
Bellach mae modd i ymwelwyr o Wcráin deithio am ddim ledled Cymru ar wasanaethau rheilffordd ac Edwards Coaches.
Bwriad y cynllun chwe mis, ar gyfer holl wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, yw helpu ymwelwyr tra byddan nhw'n ymgartrefu.
Bydd angen i wladolion Wcráin ddangos eu pasbort i docynwyr a staff yr orsaf i hawlio taith am ddim.
Beth yw'r cynnig?
Ar ôl y chwe mis, mae modd i oedolyn sy'n talu am docyn ac sy'n teithio gyda phlentyn o dan 11 oed deithio am ddim; ac mae modd i bobl ifainc o dan 16 oed fwynhau teithio am ddim y tu allan i oriau brig gyda Thrafnidiaeth Cymru.
Teithio am ddim i blant dan 11 oed
Mae modd i hyd at ddau o blant 10 oed ac iau deithio am ddim yng nghwmni oedolyn sy’n talu am docyn ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
Mae modd prynu tocynnau yn swyddfa docynnau Trafnidiaeth Cymru neu gan eich tocynnwr cyfeillgar lle nad oes swyddfa docynnau ar gael. Rhaid i'r tarddiad a chyrchfan fod yr un fath â'r oedolyn sy'n talu. Mae angen prawf o oedran.
Teithio am ddim y tu allan i oriau brig i blant dan 16 oed
Os ydych chi’n 15 oed neu'n iau, yna cewch deithio am ddim y tu allan i oriau brig gyda Trafnidiaeth Cymru. Bydd angen i chi fod yng nghwmni oedolyn sy'n talu am docyn a chaiff uchafswm o ddau deithiwr dan 16 oed eu caniatáu gydag unrhyw un oedolyn sy'n talu am docyn ar unrhyw un adeg.
Mae teithio am ddim yn ddilys rhwng 09.30am a 4.59pm ac ar ôl 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae modd i chi deithio am ddim drwy'r dydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gŵyl y Banc. Rhaid i'r tarddiad a chyrchfan fod yr un fath â'r oedolyn sy'n talu. Mae angen prawf o oedran.
Ewch i un o'n swyddfeydd tocynnau neu mynnwch sgwrs gyda thocynnwr ar ein trenau i fanteisio ar y prisiau arbennig hyn.