Harry

Enw: Harry

Ymuno â'r Rhaglen i Raddedigion: Gorffennaf 2024

Swydd Raddedig: Swyddog Graddedig – Rheoli Perygl Llifogydd

Rôl Bresennol: Swyddog Rheoli Perygl Llifogydd (Strategaeth)

Gradd: Dŵr mewn Byd sy’n Newid (MSc), Daearyddiaeth (BSc)

 

Beth oedd uchafbwynt y Rhaglen i Raddedigion?

Uchafbwynt fy mhrofiad o’r Rhaglen i Raddedigion oedd sicrhau swydd barhaol yn Swyddog Rheoli Perygl Llifogydd yn rhan o’r Garfan Strategaeth lai nag 8 mis i mewn i’r rhaglen.

 

Beth oedd yr her fwyaf i chi, a sut wnaethoch chi ei goresgyn?

Ym mis Tachwedd 2024, arweiniodd cyfnod o law eithafol, o’r enw Storm Bert, at lifogydd y tu mewn i dros 400 o eiddo yn RhCT. Roedd hyn yn her enfawr i'w goresgyn mor gynnar yn fy rôl yn Swyddog Graddedig – Rheoli Perygl Llifogydd. Roeddwn i'n ffodus iawn o fod yn rhan o garfan wych, gyda chymorth gan y garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant. Roedd y cymorth yma wedi fy ngalluogi i ymdopi â'r heriau yn sgil y digwyddiad.

 

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i fod yn rhan o'r Rhaglen i Raddedigion?

Fy nghyngor gorau fyddai ymchwilio i'r adran berthnasol rydych chi'n ystyried cyflwyno cais i fod yn rhan ohoni. Mae gwefan Cyngor RhCT yn lle arbennig i ddechrau. Er enghraifft, yn fy achos i, roedd ymchwilio i Strategaeth a Chynllun Gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd Lleol RhCT wedi rhoi dealltwriaeth fanylach i mi o berygl llifogydd lleol a dull y Cyngor o ran lliniaru llifogydd. Roedd modd i mi drafod yr wybodaeth yma yn ystod y cyfweliad.