Georgia - Swyddog Graddedig โ€“ Cyfathrebu

Enw: Georgia

Ymuno â'r Rhaglen i Raddedigion: Medi 2023

Swydd Raddedig: Swyddog Graddedig – Cyfathrebu

Rôl Bresennol: Swyddog Cyfathrebu

Gradd: Hanes (BA) a (MA)

Beth oedd uchafbwynt y Rhaglen i Raddedigion? Fy uchafbwynt oedd cael y cyfle i weithio ar draws amrywiaeth o adrannau yn rhoi cymorth iddyn nhw gyda'u strategaethau cyfathrebu. Hefyd, fe ges i'r cyfle i weithio ar achlysuron cyffrous, gan gynnwys yr Eisteddfod ac Etholiad Cyffredinol 2024. Fe ges i flas ar weithio ar draws mathau gwahanol o achlysuron a diwydiannau, a hynny wrth gefnogi'r gwaith cyfathrebu a marchnata.

Beth oedd yr her fwyaf i chi, a sut wnaethoch chi ei goresgyn? Yn y lle cyntaf, yr her fwyaf i mi oedd ymgymryd â’m rôl newydd ochr yn ochr â’m hastudiaethau MA Hanes rhan-amser. Fe wnes i oresgyn hyn drwy sicrhau fy mod i'n rheoli fy amser yn effeithiol, gan ddefnyddio fy nghalendr i drefnu fy llwyth gwaith a blaenoriaethu tasgau. Wedyn roedd modd i mi ddechrau Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Prosiectau ac fe wnes i gwblhau’r cymhwyster yma ochr yn ochr â’m rôl. 

 Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i fod yn rhan o'r Rhaglen i Raddedigion? Mae'r diwrnodau'n hedfan felly yn ystod yr wythnosau cyntaf pan mae'r diwrnodau yn arafach, cofiwch fanteisio i’r eithaf ar yr amser yma! Defnyddiwch yr amser i ymgyfarwyddo â'ch rôl, y garfan a'ch adran. Pan fydd y gwaith yn brysur, bydd gyda chi'r wybodaeth berthnasol i lwyddo. Yn ail, manteisiwch ar bob cyfle. Mae'r sgiliau a'r wybodaeth rydych chi'n eu dysgu wrth helpu eraill gyda'u gwaith, wrth fod yn rhan o brosiectau, ac wrth ymgymryd â thasgau ad-hoc yn amhrisiadwy.