Kieran - Swyddog Graddedig โ€“ Caffael Data a Seilwaith Storio

Enw:  Kieran

Ymuno â'r Rhaglen i Raddedigion: Medi 2023 

Swydd Raddedig: Swyddog Graddedig – Caffael Data a Seilwaith Storio

Gradd: Cyfrifiadureg

Ar ôl cwblhau fy ngradd ym maes Cyfrifiadureg, fe gyflwynais i gais ar gyfer Rhaglen i Raddedigion y Cyngor 2023. Dros gyfnod dwy flynedd y lleoliad, ro'n i'n Swyddog Graddedig – Caffael Data a Seilwaith Storio. Ro'n i'n cyfrannu at brosiectau ansawdd data hollbwysig a pheirianneg, wrth gyflawni'r Diploma Rheoli Prosiectau ar yr un pryd drwy ALS.

Roedd cyfle drwy'r rhaglen i raddedigion i ddysgu wrth weithio; roedd hyn yn fodd i mi ennill cymwysterau allanol sydd wedi cryfhau fy CV a fy mhortffolio. Fe gefais i'r cyfle hefyd i gysgodi graddedigion blaenorol, roedd hyn yn gymorth i mi ddatblygu sgiliau technegol, dadansoddi a threfnu yr oedd gofyn i mi eu cael ar gyfer y rôl. Roedd hyn oll yn fy helpu i baratoi ar gyfer symud ymlaen at swydd barhaol yn y Garfan Ddata.

Mae gweithio i'r Cyngor wedi bod yn brofiad gwych. Mae ystyr i'r gwaith ac mae'n cael effaith wirioneddol. Mae'r sefydliad yn cynnig buddion ardderchog, gan gynnwys oriau gweithio hyblyg, buddion a gostyngiadau ar gyfer gweithwyr, cynllun gwyliau blynyddol hael, cyflog cystadleuol, sydd yn werthfawr yn benodol felly ar gyfer y sawl sy'n ceisio cyflogaeth am y tro cyntaf.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i fod yn rhan o'r Rhaglen i Raddedigion?

Byddwch yn rhagweithiol o ran eich dysgu – dyma gyfle heb ei ail i ddatblygu sgiliau newydd wrth i chi weithio.

Peidiwch byth ag ofni methu – dyma un o'r ffyrdd gorau o ddysgu.
Cofiwch fanteisio ar bob cyfle – ewch amdani tra bo'r cyfle gyda chi a gwnewch eich gorau glas.