Mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Does dim cyfyngiadau teithio ar waith yng Nghymru. Serch hynny, gofynnir i bobl feddwl yn ofalus am y teithiau maen nhw'n eu gwneud ac am y bobl maen nhw'n cwrdd â nhw. Mae hi hefyd yn synhwyrol i osgoi teithio i mewn ac allan o'r ardaloedd sydd â'r niferoedd uchaf o achosion os oes modd i chi wneud hynny.
Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cysylltu â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am eu gwasanaethau yn ystod y pandemig.
Os oes angen i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cofiwch aros 2 fetr ar wahân a cheisiwch deithio ar adegau y tu allan i'r oriau prysuraf (rhwng 0900 a 1600). O ganlyniad i fesurau cadw pellter cymdeithasol, byddwch yn effro i'r ffaith bod llai o gapasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus a gall teithio gymryd mwy o amser na'r arfer. Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith, yn enwedig os oes angen i chi deithio ar fwy nag un bws/trên.
Yn unol â chyngor teithio Llywodraeth Cymru, mae bellach yn orfodol gwisgo gorchudd wyneb 3 haen wrth ddefnyddio'r holl drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys tacsis yng Nghymru, oni bai eich bod o dan 12 oed neu fod gyda chi gyflyrau meddygol penodol. Mae modd i chi weld rhestr lawn o eithriadau yma: https://llyw.cymru/y-gofyniad-i-wisgo-gorchudd-wyneb-ar-drafnidiaeth-gyhoeddus-yng-nghymru. Er bod modd i orchuddion wyneb helpu i reoli lledaeniad y feirws mewn amgylchiadau penodol, dydyn nhw ddim yn disodli'r angen am gadw pellter cymdeithasol, golchi'ch dwylo na defnyddio hylif diheintio dwylo yn rheolaidd.
Gwneud cais am gerdyn bws cydymaith
Rhoi gwybod bod eich cerdyn bws sydd wedi'i golli neu sydd wedi'i ddwyn a gwneud cais am gerdyn newydd.