Gweld cwestiynau cyffredin am gludiant i'r ysgol.
Sut mae gwneud cais am gludiant am ddim i'r ysgol?
Does dim dull ffurfiol o wneud cais am gludiant i'r ysgol. Bydd manylion disgyblion sy'n mynychu pob ysgol yn cael eu trosglwyddo i'r Uned Trafnidiaeth Integredig er mwyn eu hasesu yn unol â'r meini prawf sydd wedi'u hamlinellu yn y ddogfen 'Dechrau'r Ysgol'. Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim, bydd yr Uned yn rhoi gwybod i chi am y trefniadau teithio.
Oes angen i fy mhlentyn gadw ei docyn teithio ar y bysiau?
PEIDIWCH â chael gwared ar y tocyn – bydd angen i'ch plentyn ei ddangos i'r gyrrwr bob tro mae'n teithio. Dim Tocyn, Dim Teithio.
Beth os bydd tocyn bws fy mhlentyn yn mynd ar goll neu'n cael ei ddifrodi?
Os bydd fy mhlentyn yn colli ei docyn, mae modd iddo/iddi gael slip teithio dros dro o dderbynfa'r ysgol a fydd yn eu galluogi i deithio i'r ysgol am bythefnos tra bod eu tocyn dros dro yn cael ei archebu.
Bydd rhaid talu ffi gweinyddu ac argraffu o £8.15 am docyn newydd. Pàs Bws Ysgol Ar goll neu wedi'i ddwyn
Dydy fy mhlentyn ddim wedi derbyn tocyn teithio ar y bysiau neu lythyr cymeradwyo
Os dydych chi ddim wedi llenwi ffurflen ar gyfer derbyn eich plentyn i'ch ysgol o ddewis, yna bydd rhaid i chi wneud hyn trwy ffonio'r Garfan Materion Derbyn Disgyblion ar 01443 744000. Os ydych chi wedi llenwi'r ffurflen ac wedi derbyn llythyr sy'n cadarnhau lle yn yr ysgol, bydd rhaid i chi ffonio'r Garfan Cludiant i'r Ysgol ar 01443 425001.
Oes hawl gan yr ysgol i ofyn i'r cwmni cludiant ganiatáu i blentyn deithio heb docyn?
Nac oes - Rydyn ni'n rhoi tocynnau bws i bob disgybl ysgol uwchradd sydd yn gymwys a rhaid eu dangos wrth deithio i'r ysgol.
Oes hawl i ffrind disgybl sy'n anghymwys deithio ar y bws ysgol gyda fe?
Nac oes - Dim ond disgyblion cymwys sydd â thocyn bws dilys sy'n cael teithio ar y bws ysgol. Mae pob sedd wedi cael ei chadw ar gyfer disgyblion cymwys. Os oes disgyblion ychwanegol yn teithio, gall hyn arwain at orlenwi'r bws.
Os byddwn ni'n symud tŷ, beth fydd yn digwydd?
Os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar, bydd eisiau i chi roi gwybod i'r ysgol, a bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i'r Uned Trafnidiaeth Integredig. Bydd yr Uned Trafnidiaeth Integredig yn gwirio'r cyfeiriad yn erbyn y meini prawf. Os bydd hawl gan eich plentyn i gael cludiant i'r ysgol, byddwn ni'n rhoi pàs bws iddo ac yn trefnu cludiant ar ei gyfer.
Os fydd dim modd i chi gysylltu â'r ysgol (yn ystod gwyliau'r ysgol), bydd croeso i chi roi gwybod i'r Uned Trafnidiaeth Integredig yn unionyrchol drwy lenwi'r ffurflen ar-lein – ond, pan fydd yr ysgol yn ailagor, bydd eisiau i chi roi gwybod i'r ysgol ynglŷn â'ch bod chi wedi symud tŷ. Drwy beidio â rhoi gwybod i'r ysgol, mae'n bosibl y bydd eich plentyn yn cael ei atal rhag cael cludiant am ddim i'r ysgol.
Os byddwn ni'n symud i dŷ sydd y tu allan i ddalgylch yr ysgol, beth fydd yn digwydd?
Os ydyn ni'n darparu cludiant am ddim i'r ysgol ar gyfer eich plentyn, a'ch bod chi'n symud i dŷ sydd y tu allan i ddalgylch yr ysgol/coleg dan sylw, bydd y cludiant am ddim yn dod i ben.
Os byddwn ni'n symud tŷ a bydd fy mhlentyn yn peidio â bodloni'r meini prawf, beth fydd yn digwydd?
Os byddwch chi'n symud i dŷ sydd hyd at 1½ filltir (yn achos disgyblion cynradd) neu 2 filltir (yn achos disgyblion uwchradd) o bellter o'r ysgol/coleg dan sylw, bydd y cludiant am ddim yn dod i ben.
Sut mae'r hawl i gael cludiant am ddim i'r ysgol yn dibynnu ar yr ysgol mae rhieni'n ei dewis?
Os byddwch chi'n dewis peidio ag anfon eich plentyn i'r ysgol briodol agosaf neu ysgol y dalgylch, byddwch chi'n gyfrifol am drefnu cludiant ar gyfer eich plentyn i'r ysgol, ac am dalu am y cludiant hwnnw.
Gwybodaeth am deithiau bws
Sut mae'n bosibl i mi gael gwybod am amserlen y bws ysgol a'r mannau casglu?
Mae'r manylion ar gyfer llwybrau'r bysiau ysgol, darparwyr cludiant, mannau casglu ac amserlenni i gyd ar gael ar wefan y Cyngor.
Os does dim hawl gan eich plentyn chi i gael cludiant am ddim i'r ysgol, cewch chi ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus ar wefan Traveline Cymru. Mae'r wefan yn darparu amserlenni ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a pheiriant ar gyfer cynllunio teithiau.
Oes cludiant ar gael o'r cartref i'r ysgol?
Dydyn ni ddim, fel arfer, yn darparu cludiant o gartrefi'r disgyblion. Bydd eisiau i'r rhan fwyaf o'r disgyblion aros am eu bysiau mewn mannau casglu penodol ar hyd llwybrau'r bysiau.
Am ba mor hir bydd eisiau i fy mhlentyn aros cyn i'r bws gyrraedd?
Rydyn ni'n argymell bod y disgyblion yn cyrraedd eu mannau casglu penodol tua 10 munud cyn yr amser sydd wedi'i nodi ar yr amserlen, ac yn aros hyd at 20 munud ar ôl yr amser hwnnw. Cofiwch dydy'r amseroedd hyn ddim yn bendant ac maen nhw'n dibynnu ar lif y traffig ac ati.
Pa mor hir bydd y daith i'r ysgol?
Dydy'r Cyngor ddim yn nodi terfyn amser ar gyfer teithiau. Serch hynny, dylai hyd teithiau fod yn rhesymol, gan gymryd i ystyriaeth oedran ac anghenion unigol y disgyblion, a natur, diben ac amgylchiadau pob taith. Mewn achosion lle mae rhieni/gwarcheidwaid wedi dewis anfon eu plentyn i ysgol gymorthedig wirfoddol (yr Eglwysi) neu ysgolion dwy iaith/ysgolion Cymraeg sy’n weddol bell o’u cartref, efallai bydd hynny’n golygu teithiau hwy
Oes hawl gyda fy mhlentyn i gael ei gludo i rywle ac eithrio'i gartref?
Nac oes. Rydyn ni'n darparu cludiant rhwng y cartref (neu'r man casglu agosaf) a'r ysgol, ac yn ôl. Fydd dim hawl gyda'ch plentyn i deithio i unrhyw gyfeiriad neu leoliad arall.
Oes hawl gyda fy mhlentyn i ddefnyddio gwasanaeth sy'n wahanol i'r un sydd wedi'i drefnu ar ei gyfer?
Nac oes. Mae rhif cytundeb gwahanol gyda phob cerbyd, a dim ond y disgyblion hynny sydd â thocyn bws neu lythyr o ganiatâd sy'n cael teithio yn y cerbyd hwnnw. Bydd y gyrrwr yn gwrthod unrhyw un arall.
Oes angen i mi gasglu fy mhlentyn oddi ar y bws?
Oes (yn achos disgyblion cynradd yn unig). Rhaid i chi, neu oedolyn cyfrifol, fod ar gael o leiaf 10 munud cyn yr amseroedd codi a gollwng sydd wedi'u nodi yn amserlen bysiau'r ysgol, i roi'ch plentyn ar y bws, neu'i gasglu oddi yno. Hefyd, rhaid i rieni/gwarcheidwaid roi gwybod i'r cynorthwyydd teithio ar y bws os bydd rhywun arall yn casglu'ch plentyn o'r bws yn y prynhawn.
Os fyddwch chi ddim wrth y man casglu, bydd y bws yn mynd â'ch plentyn i rywle diogel, er enghraifft, yr orsaf heddlu agosaf neu un o swyddfeydd y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Os byddwch chi'n methu â chasglu'ch plentyn, mae'n bosibl y bydd eich plentyn yn cael ei atal rhag teithio ar y bws hyd nes y byddwch chi'n gwneud trefniadau priodol i'ch plentyn gael ei gasglu gan oedolyn cyfrifol.
Cofiwch – does dim hawl gyda darparwyr cludiant i dderbyn cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu ar lafar o ran gadael eich plentyn mewn man casglu heb fod oedolyn cyfrifol yno i'w gasglu.
Disgyblion sydd heb hawl i gael cludiant am ddim i'r ysgol
Gan ddefnyddio'r awdurdod priodol, bydd y Cyngor yn arfer ei hawl i gynnig y lleoedd gwag ar gerbydau sydd dan gontract ysgol eisoes i blant sydd ddim yn bodloni’r meini prawf i gael cludiant am ddim.
Mae manylion ynghylch sut i wneud cais am le gwag ar gludiant ysgol ar gael yma.
Gwregysau Diogelwch
Mae gwregysau diogelwch ar bob bws sy'n cludo disgyblion i'r ysgol. Rhaid i bob plentyn wisgo gwregys diogelwch wrth deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Bydd y cynorthwyydd teithio ar y bws yn helpu disgyblion oedran ysgol gynradd i sicrhau eu bod nhw'n eistedd yn gyffyrddus a bod eu gwregysau'n ddiogel lle bo angen.
Teledu Cylch Cyfyng (‘CCTV’)
Gall system Teledu Cylch Cyfyng fod ar waith yn eich cerbyd cludiant ysgol. Gall y system yma gael ei defnyddio i adnabod unrhyw deithiwr sy'n torri rheolau'r Cod Ymddygiad wrth Deithio. Gall y system hefyd gael ei defnyddio i ddiogelu teithwyr, cynorthwywyr teithio a gyrwyr.
Gall y system Teledu Cylch Cyfyng gael ei defnyddio gan swyddogion penodol yr Uned Trafnidiaeth Integredig, ysgolion neu'r cwmni cludiant os bydd camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw randdeiliad.
Yr unig adeg pan fydd lluniau Teledu Cylch Cyfyng yn cael eu monitro yw pan fydd unrhyw barti'n rhoi gwybod am ddigwyddiad. Mae'r lluniau wedi eu diogelu, felly, dim ond swyddogion penodol sy'n cael eu gweld nhw.