Rydw i wedi sylwi ar Ganclwm Japan, beth alla i ei wneud?
Os yw'r Canclwm Japan yn tyfu ar dir y Cyngor, mae modd i chi roi gwybod i ni am y broblem gan ddefnyddio ein ffurflen 'Rhoi adroddiad':Mae'r ffurflen yn caniatáu ichi nodi union leoliad y Canclwm Japan gan ddefnyddio ein map ar-lein, mae hefyd yn caniatáu ichi lanlwytho lluniau o'r hyn rydych chi wedi'i weld yn tyfu.
Rydw i wedi rhoi gwybod am broblem, beth fydd yn digwydd nesaf?
Wrth roi gwybod am broblem neu wneud ymholiad drwy'r ffurflen 'Rhoi adroddiad' ar-lein neu drwy'r Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn uniongyrchol, byddwch chi'n derbyn rhif cyfeirnod unigryw 16 digid. Bydd eich ymholiad yn cael ei ddyrannu i swyddog Rhywogaethau Goresgynnol y Cyngor a fydd yn ymdrechu i ymchwilio iddo cyn pen 15 diwrnod gwaith.Ar ôl i chi roi gwybod am y broblem, byddai modd i chi roi rhagor o wybodaeth neu wneud cais am ddiweddariad. Mae hefyd modd cysylltu â ni trwy’r Gwasanaethau i Gwsmeriaid gan nodi eich cyfeirnod unigryw.
Rydw i wedi gweld planhigyn yn tyfu ac rydw i'n credu a allai fod yn Rhywogaeth Oresgynnol, sut alla i wirio?
Mae yna lawer o wahanol fathau o rywogaethau goresgynnol, defnyddiwch y ddolen isod i helpu i adnabod y planhigyn rydych chi wedi'i weld: https://www.nonnativespecies.org/non-native-species/
Ar hyn o bryd rydw i wrthi’n gwerthu/prynu eiddo ac mae arolwg wedi nodi bod Canclwm Japan yn tyfu ar dir y Cyngor gerllaw, beth alla i ei wneud?
Os ydych chi'n gwerthu neu'n prynu eiddo lle mae ein Swyddog Rhywogaethau Goresgynnol wedi cadarnhau bod y Canclwm Japan ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor, yna efallai y bydd modd rhoi datganiad i chi yn cadarnhau bod ein rhaglen driniaeth yn mynd i’r afael ag ef. Mae modd trosglwyddo'r datganiad yma i gyfreithwyr, bencythwyr morgeisi, ac ati.Os oes angen y gwasanaeth yma arnoch chi, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen 'Rhoi adroddiad' gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:
Mae gan fy nghymydog Ganclwm Japan ar ei eiddo, ac rydw i'n poeni y gallai ledaenu i'm heiddo, beth ddylwn i ei wneud?
Ar gyfer pob problem gyda Chanclwm Japan ar dir preifat, cysylltwch â’r Garfan Partneriaeth Cymunedau Diogel yn ein Hadran Iechyd Cyhoeddus gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost canlynol:CymunedauDiogel@rctcbc.gov.uk
Rydw i wedi darganfod Canclwm Japan yn tyfu ar fy eiddo, alla i ei drin fy hun?
Cyfrifoldeb perchennog y tir yw rheoli Canclwm Japan ar ei dir, fodd bynnag, argymhellir eich bod chi'n cysylltu â chontractwr Canclwm Japan cymwys i drafod opsiynau triniaeth.
Yr amser gorau o'r flwyddyn i drin Canclwm Japan yw diwedd yr haf/dechrau'r hydref pan fydd y planhigyn wedi rhoi'r gorau i dyfu.