Nodwch eich cyfeiriad isod i ddod o hyd i'ch diwrnod casglu eitemau i’w hailgylchu a gwastraff.
Rhoi eich bagiau allan i'w casglu
Rhowch eich bagiau allan yn eich man casglu rhwng 7pm y noson gynt a 7am ar fore'ch diwrnod casglu. Peidiwch â rhwystro palmentydd na chyrbau isel.
Pa mor aml mae eich bagiau'n cael eu casglu?
Mae'r casgliadau yma'n digwydd yn awtomatig o bob aelwyd:
- Bagiau ailgylchu clir - Bob wythnos
- Gwastraff bwyd - Bob wythnos
- Bagiau du - Bob tair wythnos
Rhaid i chi gofrestru i dderbyn y casgliadau yma:
Newidiadau i'ch casgliadau
Newidiadau heb eu cynllunio
Efallai y bydd ein criwiau'n rhedeg yn hwyr ac efallai na fyddan nhw'n casglu eich bagiau tan yn ddiweddarach yn y dydd.
Os nad yw eich bagiau wedi cael eu casglu ar ôl 24 awr, mae modd i chi roi gwybod am eich gwastraff sydd heb ei gasglu.
Newidiadau Gŵyl y Banc
Efallai y bydd diwrnodau casglu dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn newid
Does dim newidiadau i ddiwrnodau casglu yn dilyn Gwyliau Banc eraill.