Partneriaeth Dysgu Cymunedol Rhondda Cynon Taf

Mae'r bartneriaeth yn cyflwyno ystod eang o gyrsiau ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned.  Mae’r holl bartneriaid yn cydweithio’n agos i ddarparu llwybr clir trwy bob lefel o ddysgu, gan gefnogi dysgwyr o bob gallu, o ddechreuwyr i ddysgwyr Lefel 3 a thu hwnt.

Mae modd i bob partner ddarparu gwahanol gategorïau o ddysgu, o gelf a chrefft i gyrsiau achrededig galwedigaethol.

Dysgu Oedolion yn y Gymuned Rhondda Cynon Taf

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned RhCT yn cynnig cyrsiau i ddysgwyr ar draws y fwrdeistref sirol, a hynny o ymgysylltu i lefel 3. Caiff cyrsiau eu darparu mewn lleoliadau cymunedol a llyfrgelloedd.

Mae amrywiaeth eang o gyrsiau i ddatblygu llwybrau er mwyn i ddysgwyr ail-ymgysylltu â'u taith ddysgu. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Gwaith a Sgiliau RhCT i atgyfeirio dysgwyr at hyfforddiant sy'n gysylltiedig â chyflogaeth drwy eu Rhaglen Llwybrau at Gyflogaeth.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnig dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill achrededig ar bob lefel ac mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae’r cyrsiau'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau iaith, gan eich galluogi i gael mynediad at wasanaethau lleol, cymryd rhan ym mywyd o ddydd i ddydd yma ym Mhrydain a pharatoi ar gyfer cyflogaeth neu addysg bellach. Bydd asesiad ar ddechrau'r broses i sicrhau eich bod chi'n ymuno â'r dosbarth sydd fwyaf addas i chi.
Mae Ymestyn yn Ehangach i Oedolion ym Mhrifysgol De Cymru yn helpu pobl dros 18 oed yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i fagu hyder, ac yn eu hysbrydoli i barhau i ddysgu. Mae'n cynnig cyrsiau blasu am ddim ym mhynciau megis Celf, Troseddeg a Seicoleg, yn ogystal ag ymweliadau â champysau, cymorth sgiliau astudio ac arweiniad. Mae cyrsiau newydd yn dechrau bob tymor mewn lleoliadau hygyrch yn y gymuned. Mae nifer o unigolion wedi gwneud cynnydd tuag at eu gyrfaoedd trwy astudio ymhellach, gyda nifer yn mynd i'r brifysgol. Cysylltwch i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyrsiau a'r ymweliadau â champysau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae Cymru’n Gweithio, rhaglen a ddarperir gan Gyrfa Cymru ac sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyngor gyrfaoedd diduedd am ddim i unrhyw un sy'n 16 oed a hŷn yng Nghymru. Mae'n helpu pobl i gael gwaith neu ddatblygu eu gyrfaoedd gyda chyngor ac arweiniad unigryw. Mae cymorth ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu'n ddigidol.

Mae’r cymorth a ddarperir yn cynnwys Cyngor a hyfforddiant o ran newid gyrfa, Cymorth o ran diswyddo a diweithdra, Gwella sgiliau a mynediad at hyfforddiant, Cyngor ariannu ar gyfer hyfforddiant, Mynediad i raglenni Llywodraeth Cymru, Dod o hyd i gyfleoedd am swyddi a phrentisiaethau, Paratoi ar gyfer cyfweliad swydd a Llunio CV a chymorth o ran ymgeisio am waith

Yng Ngholeg y Cymoedd, rydyn ni'n ymroddedig i roi gwybodaeth a set sgiliau amrywiol i'n dysgwyr ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae ein hymagwedd unigryw yn canolbwyntio ar wella sgiliau sylfaenol, sgiliau galwedigaethol, a chymwyseddau craidd yn ystod eu taith addysgol. Rydyn ni'n pwysleisio arwyddocâd hyfedredd yn y Gymraeg fel sgil allweddol ar gyfer cyflogadwyedd, gan ei integreiddio’n ddi-dor i’r cwricwlwm. Mae modd i ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd ddewis o ystod eang o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws dros 15 o feysydd cwricwlwm, gan ddarparu ar gyfer galluoedd amrywiol o lefel Mynediad i lefel Gradd.

Mae 'Carfan Gwaith a Sgiliau' Rhondda Cynon Taf yn darparu amrywiaeth o gyngor a chymorth wedi'i deilwra i'n holl drigolion dros 16 oed sy'n dymuno dod o hyd i gyfleoedd gwaith, hyfforddiant neu wirfoddoli. Mae modd i chi hefyd gael cymorth i wella'ch sgiliau pan fyddwch chi mewn swydd. 

Mae modd i'r cymorth yma fod ar sail mentora un-i-un, hyfforddiant wedi'i achredu neu ddim wedi'i achredu, Sgiliau Bywyd sy'n cynnwys gwella sgiliau digidol a sylfaenol, megis Mathemateg, Saesneg a Lles, yn ogystal â chymorth i fanteisio ar gyfleoedd i wirfoddoli a lleoliadau gwaith.

Mae Canolfan Calon Taf, sydd wedi’i lleoli ger y Bandstand ym Mharc Coffa Ynysangharad, yn cynnig cyrsiau treftadaeth, addysg a lles i bobl o bob oed. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth y parc. Mae gyda'r ganolfan ystafell ddosbarth ar gyfer gweithgareddau datblygu sgiliau amrywiol a gardd gyda thŷ gwydr, lle mae modd i wirfoddolwyr ymroddedig eich helpu gyda'ch sgiliau garddio.

Rydyn ni'n gymdeithas tai cymunedol cydfuddiannol sy’n eiddo i denantiaid, ac rydyn ni'n darparu cartrefi diogel a fforddiadwy i 25,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd. Y tu hwnt i faterion tai, rydyn ni'n canolbwyntio ar ddatblygu cymunedol, adfywio, a lles unigolion. Mae gyda ni fwy na 400 o staff sy'n gweithio i flaenoriaethu anghenion tenantiaid, meithrin cydberthnasau cryf, a darparu gwasanaeth rhagorol.

Cyrsiau Cymraeg ar bob lefel o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl, yn ystod y dydd a gyda'r nos ledled RhCT. 

Cyrsiau bloc dwys hyd at wyth wythnos o hyd. Cyrsiau blasu a chyrsiau yn y gweithle.

Cyrsiau blasu sy'n cael eu cyflwyno i ddysgwyr ledled RhCT trwy gyfrwng y Gymraeg.
Carfan sy'n ymrwymo i wella cyfleoedd gyrfa a gwaith ar gyfer disgyblion ysgol, pobl ifainc sydd mewn gofal ac sydd wedi gadael gofal, yn ogystal â'r rheini sy'n ddi-waith ac sydd ddim mewn byd gwaith, addysg na hyfforddiant. Yn rhan o hynny bydd yn darparu cymorth a chyngor ac ystod o raglenni i wella cyflogadwyedd a'r posibilrwydd o gael swydd.