Skip to main content

Gwybodaeth Gyffredinol am Ganolfan Chwaraeon Cwm Rhondda

ORIAU AGOR Y GANOLFAN

(Nodwch, mae mynediad i'r dosbarthiadau a mynediad cyntaf/olaf i'r pwll nofio neu'r gampfa yn dibynnu ar amserlenni'r cyfleusterau penodol hynny, nid oriau agor y ganolfan)

Rhondda Sports Centre Timetable
DYDDIAU AMSEROEDD
Dydd Llun 6.15am - 9.30pm
Dydd Mawrth 6.15am - 9.30pm
Dydd Mercher 6.15am - 9.30pm
Dydd Iau 6.15am - 9.30pm
Dydd Gwener 6.15am - 9pm
Dydd Sadwrn 7.15am - 5pm
Dydd Sul 7.15am - 5pm

MYNEDIAD I'R GANOLFAN A'I CHYFLEUSTERAU

  • Mynediad â ramp wrth flaen yr adeilad.
  • Lifft i bob lefel.
  • Teclyn codi a grisiau ar gyfer mynediad i'r pwll.

CYMORTH CYNTAF AC IECHYD A DIOGELWCH

  • Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle drwy'r amser.
  • Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.
  • Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.

CYFLEUSTERAU NEWID

  • Ystafelloedd newid ar gyfer pobl sy'n defnyddio dosbarthiadau, cyrtiau a'r gampfa sy'n cynnwys ciwbiclau newid a chawodydd.
  • Ystafelloedd newid ar wahân i ddefnyddwyr y pwll nofio. Cyfleusterau ar wahân i ddynion, merched a phlant a chawodydd.
  • Cyfleusterau newid cewynnau.
  • Peiriannau sychu gwallt ar gael yn yr ystafelloedd newid am 10c.
  • Loceri.

POLISI MYNEDIAD I'R PRIF BWLL

Rhaid i blant sydd  dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:

1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.

1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.

Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll  heb gwmni

Dyfnder pwll nofio Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda yw 0.5 - 3m.

Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw.

CYFLEUSTERAU CYFARFOD

Mae neuaddau ac ystafelloedd ar gael ar gyfer achlysuron, cyfarfodydd neu gynadleddau. Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch ein canllaw prisoedd.

CAFFI CITRUS

Beth am fwynhau diod dwym a byrbryd tra bod y plant yn mwynhau sesiwn nofio neu weithgaredd? Neu beth am fagu eich nerth gyda diod oer a phryd o fwyd ar ôl eich sesiwn yn y gampfa, y pwll nofio neu ddosbarth? Mae Caffi Citrus yn lle delfrydol.

Oriau Agor Caffi Citrus

Rhondda Sports Centre Caffi Citrus
DYDDIAU AMSEROEDD
Dydd Llun 10:15 - 19:30
Dydd Mawrth 10:15 - 18:30
Dydd Mercher 10:15 - 19:30
Dydd Iau 10:15 - 19:30
Dydd Gwener 10:15 - 20:00
Dydd Sadwrn

08:15 - 14:15

Dydd Sul 10:15 - 16:00