Mae’ch hawl chi i breifatrwydd yn bwysig iawn inni. Pan fyddwch chi’n dewis rhoi gwybodaeth amdanoch chi’ch hun inni, rydych chi’n ymddiried y byddwn ni’n gweithredu mewn ffordd gyfrifol, ac rydyn ni’n cydnabod hynny. Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma yn cyfeirio at wefan www.rctcbc.gov.uk yn unig.
Cyrchu'n gwefannau
Pan fydd defnyddiwr yn mynd ar y wefan, byddwn ni'n casglu gwybodaeth safonol am gofnodion gwe a manylion am arferion ymddygiad defnyddwyr. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn darganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau o'r wefan. Rydyn ni'n casglu'r wybodaeth yma mewn ffordd sy'n gwbl ddienw. Fyddwn ni ddim yn cysylltu unrhyw ddata wedi'i gasglu o'r wefan yma ag unrhyw wybodaeth sydd â manylion personol arni o unrhyw ffynhonnell. Os ydyn ni am gasglu gwybodaeth bersonol drwy ein gwefan, byddwn ni'n dweud wrthoch chi am hyn. Byddwn ni'n ei gwneud yn glir pan fyddwn ni'n casglu gwybodaeth bersonol, ac yn egluro’r hyn rydyn ni'n bwriadu'i wneud gyda hi.
Defnyddio Cwcis gan Gyngor Rhondda Cynon Taf
Hoffech chi fanylion am sut a ble byddwn ni'n defnyddio cwcis? Ewch i'n tudalen polisi cwcis.
Peiriant chwilio
Mae'r peiriant chwilio ar ein gwefan wedi'i greu yn fewnol ac yn defnyddio ein system rheoli cynnwys. Mae'r system yma yn delio â phob chwiliad a dydy'r wybodaeth ddim yn cael ei throsglwyddo i unrhyw drydydd parti.
Ffurflenni electronig
Dydy ffurflenni electronig (e-ffurfiau) wedi'u cyflwyno trwy'r wefan yma ddim wedi'u hamgryptio. Dydy hyn ddim yn berthnasol o ran ein system talu ar-lein lle mae'r holl fanylion personol wedi'u diogelu trwy ddefnyddio amgryptiad 128 did.
Mae'r manylion rydych chi'n eu nodi ar ein ffurflenni electronig yn cael eu cadw yn ein System Rheoli Perthynas Cwsmeriaid a/neu'n cael eu hanfon i'r adrannau gwasanaeth perthnasol. Os ydych chi'n dewis rhoi gwybodaeth amdanoch chi eich hun, byddwch chi'n rhoi caniatâd i ni ei chasglu, ei phrosesu a'i chadw.
Byddwn ni'n prosesu'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 1998. Serch hynny, mae dyletswydd ar y Cyngor i ddiogelu arian cyhoeddus ac efallai byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i ddibenion rhwystro achosion o dwyll a'u datgelu.
Does dim modd i'r Cyngor wirio bod pobl, sy'n rhoi gwybodaeth trwy'r wefan yma, yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw. Byddwn ni'n tybio bod yr holl wybodaeth yn ddilys a fydd y Cyngor ddim yn gyfrifol am unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd o ganlyniad i ddibynnu arni. Os ydych chi o'r farn bod rhywun wedi rhoi gwybodaeth i'r Cyngor gan ddefnyddio'ch hunaniaeth chi, rhowch wybod i ni trwy e-bostio gwasanaethau i gwsmeriaid.
Cysylltiadau Allanol
Efallai bydd y wefan yma'n cynnwys cysylltiadau i wefannau eraill, adrannau eraill y Llywodraeth a gwefannau sefydliadau eraill, fel ei gilydd. Mae'r polisi preifatrwydd yma'n berthnasol i'n gwefan yn unig, ac felly byddwch yn effro pan fyddwch chi'n symud i wefan arall. Darllenwch ddatganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy'n casglu gwybodaeth bersonol.
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd yma
Os bydd y polisi preifatrwydd yma'n newid mewn unrhyw ffordd, byddwn ni'n rhoi'r fersiwn diweddaraf ar y dudalen yma. Trwy adolygu'r dudalen yma'n rheolaidd, byddwch chi'n gwybod, bob tro, am yr wybodaeth a gasglwn, sut byddwn ni'n ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn ni'n ei rhannu gyda phartïon eraill.
Cysylltwch â ni
Hoffech chi eglurhad neu wybodaeth ychwanegol ynglŷn â'r manylion sydd wedi'u nodi yn y polisi preifatrwydd yma? E-bostiwch gwasanaethau i gwsmeriaid, ac fe fyddwn ni'n hapus i ymdrin â'ch cais.