POLISI MYNEDIAD I'R PRIF BWLL
Rhaid i blant sydd dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:
- 1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.
- 1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.
- Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll heb gwmni
Darllenwch Bolisi Mynediad i'r Pwll Bach ar gyfer CANOLFAN HAMDDEN LLANTRISANT
RHAID i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn ar BOB adeg yn y pwll bach.
- Rheolau ar gyfer plant dan 8 oed:
- 1 oedolyn yn gwmni i ddau o blant dan 5 oed.
- 1 oedolyn yn gwmni i dri o blant rhwng 5 ac 8 oed.
CYFLEUSTERAU NEWID
- Ystafelloedd newid i ddynion, menywod a theuluoedd gyda rhai ciwbiclau.
- Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw.
- Ystafell newid i bobl anabl gyda chawod a chadair.
- Cawodydd ar gyfer defnydd cyffredinol.
- Cyfleusterau newid cewynnau.
- Sychwyr gwallt.
- Loceri.
MYNEDIAD I'R PYLLAU (POBL ANABL)
- Peiriant codi ar gyfer defnyddio'r pwll.
CYMORTH CYNTAF AC IECHYD A DIOGELWCH
- Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle ar bob adeg.
- Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.
- Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.
I WELLA'CH SESIWN NOFIO, RYDYN NI'N GOFYN I CHI WNEUD Y CANLYNOL;
- Cael cawod cyn mynd i mewn i'r pwll.
- Darllen a dilyn pob arwydd.
- Ymgyfarwyddo'ch hun â dyfnder y pwll.
- Dilyn cyfarwyddiadau achubwr bywydau ar bob adeg.
- Gwisgo cymorth hynofedd ac aros lle mae modd i chi sefyll yn y pwll os oes rhaid.
- Clymu gwallt hir yn ôl.
- Rhaid i blant sy ddim wedi dysgu mynd i'r toiled wisgo cewyn nofio wrth ddefnyddio'r pwll. Mae pob canolfan yn gwerthu cewynnau nofio, ond mae'n bosibl y bydd lefelau stoc a meintiau yn gyfyngedig.