Mae gan Daith Pyllau Glo Cymru gynnig addysgol unigryw. Pa le gwell i ysbrydoli dysgu a chwilfrydedd nag mewn lleoliad lle dechreuodd antur ryngwladol? Mae ein hystod o sesiynau ymarferol, rhyngweithiol yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae modd eu cymysgu a'u cyfuno i greu diwrnod gwych. A wnaethon ni sôn bod ein arlwy addysgol wedi derbyn Gwobr Sandford?
Ydych chi'n athro sy'n chwilio am syniadau ar gyfer gwibdaith? Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn Nhrehafod yw'r dewis perffaith! Rydyn ni'n cynnig pecyn addysg sy'n rhoi profiadau dysgu gwirioneddol i'r plant, gan ategu egwyddorion Cynefin. Mae modd i hyn gynnwys taith danddaearol, gweithdai a llawer yn rhagor.
Bydd modd i ddisgyblion fynd o dan y ddaear ar Daith yr Aur Du - dyma gyfle perffaith iddyn nhw ddysgu rhagor a meithrin cysylltiadau newydd gyda'u Cynefin. Bydd cyfle i'r disgyblion drin a thrafod creadigrwydd dynoliaeth mewn nifer o feysydd, megis hanes, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth, cymdeithaseg, economeg a chrefydd. Yn ogystal â hynny, bydd modd ystyried effaith dechnolegol y diwydiant glo ar y byd. Daw'r sesiwn i ben gyda'n profiad realiti rhithwir, Dram! Mae'r atyniad yma bob amser yn boblogaidd, ac mae'n rhoi blas i chi ar sut beth fyddai teithio mewn dram glo o dan y ddaear.
Bydd pob ysgol sy'n cadw lle ar Daith yr Aur Du hefyd yn gymwys i gael benthyg ein hoffer realiti rhithwir 3D ar ôl yr ymweliad. Bydd modd i chi ddefnyddio'r offer yn eich ystafell ddosbarth er mwyn ehangu'r profiad dysgu ymhellach. Caiff disgyblion grwydro ein hardal awyr agored yn ogystal â mwynhau ein harddangosfa ryngweithiol newydd sbon, sy'n cynnwys ffilmiau o'r archifau, cwisiau a phosau.
Gweithdai
Mae gyda ni lu o weithdai sy'n ymdrin â phob un o'r chwe maes dysgu, o'r dyniaethau i iechyd a lles. Bydd modd i'r disgyblion ddysgu am hen arferion Oes Fictoria drwy helpu Mrs Thomas gyda'i golch, cerdded ar hyd Llwybr Tramffordd o 1809, rhoi cynnig ar fod yn wyddonwyr glo a llawer yn rhagor.
Mae ardal benodol ar gyfer bwyta cinio hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer pob ysgol sy'n ymweld â ni.
Er mwyn trafod ymweliad ysgol, ffoniwch 01443 682036