Mae'r digwyddiadau llifogydd diweddar yn Rhondda Cynon Taf wedi effeithio ar gannoedd o eiddo ac mae llawer o drigolion bellach yn wynebu'r gwaith glanhau torcalonnus.
Nodwch: Mae'r Cyngor bellach wedi dechrau dyfarnu ceisiadau llwyddiannus am Grantiau Adfer Llifogydd Cymunedol. Gallwn eich sicrhau bod Swyddogion y Cyngor yn blaenoriaethu'r mater hwn ac yn trefnu taliadau cyn gynted â phosibl. Gofynnwn i ymgeiswyr beidio â chysylltu â'r Cyngor am ddiweddariadau. Bydd mwyafrif y taliadau yn cael eu gwneud dros y 7 i 14 diwrnod nesaf. Bydd diweddariadau ar gynnydd yn cael eu darparu trwy gyfryngau cymdeithasol y Cyngor a’n gwefan. Diweddarwyd 29th Tachwedd 2024
Os ydych chi wedi cysylltu â'r Cyngor i ofyn am gymorth llifogydd, hoffen ni bwysleisio ein bod ni'n mynd i'r afael â phob cais sy'n dod i law, a byddwn ni'n cysylltu â chi cyn gynted ag sy'n bosibl. Diolch am fod yn amyneddgar wrth i ni ddelio â'r ceisiadau.
Nod y dolennau canlynol yw darparu help, cymorth a chyngor i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio:
Mae'r Cyngor wedi trefnu bod £0.500M o'i Gronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol ar gael i gefnogi'r gofyniad adfer ar unwaith yn sgil Storm Bert, gan gynnwys Grant Adfer Llifogydd Cymunedol.
Dyma lefel y cymorth ariannol:
- £1,000 fesul eiddo preswyl (aelwyd)
- £1,000 fesul eiddo busnes (BBaCh)
Mae carfan benodedig Gofal Strydoedd y Cyngor hwnt ac yma yn y Fwrdeistref Sirol yn helpu i lanhau'r llanast dinistriol gan y llifogydd diweddar.
Mae sgipiau wedi'u hanfon i leoliadau lle mae llifogydd wedi effeithio ar nifer o eiddo. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod rhai achosion eraill o lifogydd a'i bod hi'n bosibl nad yw'r ardaloedd yma wedi cael sgipiau felly e-bostiwch eich manylion i: Ailgylchu@rctcbc.gov.uk a byddwn ni'n trefnu casglu'r eitemau yn rhad ac am ddim lle bo'n addas.
Os oes angen cymorth/cyngor tai arnoch chi a does dim modd aros yn eich cartref mwyach oherwydd y llifogydd diweddar, ffoniwch y Ganolfan Cyngor ar faterion Tai ar 01443 495188 neu e-bostiwch CymorthLlifogyddTai@rctcbc.gov.uk.
Y rhif ffôn y tu allan i oriau swyddfa yw 01443 425011.
Bydd bysiau gwybodaeth yn mynd i gymunedau ledled RhCT dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf a byddan nhw yn y lleoliadau canlynol er mwyn cynnig cyngor a chymorth i'r bobl hynny a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd diweddar. Dewch yn ôl i wirio'r lleoliadau newydd gan y bydd y rhain yn cael eu diweddaru'n ddyddiol.
- Bydd Carfan Datblygu'r Gymuned ar gael i gynnig cymorth a chyngor trwy ddarpariaeth cymorth i drigolion. Gallai hyn gynnwys talebau bwyd a chyfeirio at y partneriaid cymunedol amrywiol sy'n rhoi cymorth i'r gymuned.
- Bydd carfan Cyngor ar Bopeth hefyd ar y bws i gynnig cyngor o ran arian a budd-daliadau.
- Bydd elusen British Red Cross ar gael i roi cymorth emosiynol ac ymarferol, a allai gynnwys dillad, blancedi, cymorth arian parod a nwyddau glanhau.
Yn ôl i'r brig
Mae'r Cyngor yn trefnu bod cymorth ariannol ar gael i drigolion a busnesau bach a chanolig a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd diweddar (Storm Bert).
Mae'r Cyngor wedi trefnu bod £0.500M o'i Gronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol ar gael i gefnogi'r gofyniad adfer ar unwaith yn sgil Storm Bert, gan gynnwys Grant Adfer Llifogydd Cymunedol.
Fel ymateb brys, cytunwyd y bydd cymorth ariannol yn cael ei ddarparu.
Dyma lefel y cymorth ariannol:
- £1,000 fesul eiddo preswyl (aelwyd)
- £1,000 fesul eiddo busnes (BBaCh)
Mae'r Cyngor wedi trefnu bod £0.500M o'i Gronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol ar gael i gefnogi'r gofyniad adfer ar unwaith yn sgil Storm Bert, gan gynnwys Grant Adfer Llifogydd Cymunedol.
Fel ymateb brys, cytunwyd y bydd cymorth ariannol yn cael ei ddarparu i drigolion a BBaCh (busnesau bach a chanolig gyda llai na 250 o weithwyr, trosiant o £50 miliwn neu lai neu fantolen sydd â chyfanswm o £43 miliwn neu lai) a gafodd eu heffeithio'n uniongyrchol gan y llifogydd. Bydd y Grant Adfer Llifogydd Cymunedol ar ben y cymorth ymarferol y byddwn ni'n parhau i'w ddarparu.
Lefel y cymorth ariannol yw:
- £1,000 fesul eiddo preswyl (aelwyd)
- £1,000 fesul eiddo busnes (BBaCh)
Mae'r cyllid yma ar gael i drigolion a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd mewnol (e.e. ystafell fyw, ystafell wely, cegin, ac ati) o ganlyniad uniongyrchol i Storm Bert rhwng dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024 a dydd Sul 24 Tachwedd 2024. Dydy hyn ddim yn cynnwys llifogydd mewn garejis, gerddi, cynteddau, adeiladau allanol ac ati, na dŵr glaw sydd wedi mynd i mewn i eiddo a gollyngiadau dŵr glaw.
Trigolion
Dim ond perchnogion/meddianwyr eiddo preswyl sy'n gymwys. Dydy'r cymorth ariannol ddim ar gael i landlordiaid na pherchnogion eiddo gwag (gan gynnwys ail gartrefi).
Bydd taliadau'n cael eu gwneud er mwyn cyfrannu at gost difrod i'r eiddo a/neu eiddo personol (belongings) ac am yr effaith bersonol a achoswyd.
Bydd cymhwysedd yn seiliedig ar y canlynol:
- Eiddo preswyl sydd wedi dioddef llifogydd ym mannau byw mewnol yr eiddo (e.e. cegin, ystafell fyw, ystafelloedd gwely, ac ati).
Bydd y cynllun yn dod i ben ddydd Gwener 20 Rhagfyr 2024.
(Mae'r Grantiau Adfer Llifogydd Cymunedol (Taliadau Caledi) yn cael eu gwneud yn unol â rheoliadau’r darpariaethau lles lleol)
Busnesau
Bydd cymhwysedd yn seiliedig ar y canlynol:
- Eiddo busnesau bach a chanolig sydd wedi dioddef difrod i stoc/nwyddau, eiddo a/neu aflonyddwch i'w busnes.
- Llifogydd mewnol yn yr eiddo y mae'r busnes/gwasanaeth yn masnachu'n uniongyrchol ynddo sydd wedi arwain at aflonyddwch i'r busnes.
- Difrod i stoc/nwyddau sy'n cael eu cadw yn eiddo'r busnes/gwasanaeth sydd wedi arwain at aflonyddwch i'r busnes.
- Mae'r busnes wedi'i gofnodi ar y rhestr Ardrethi Annomestig ar 23 Tachwedd 2024.
Dydy hyn ddim yn berthnasol i gyfleusterau a/neu gynwysyddion storio. Os yw busnes wedi'i gofrestru i gyfeiriad cartref, dim ond un cais am grant y bydd modd ei dderbyn (eiddo preswyl neu eiddo busnes).
Bydd y cynllun yn dod i ben ddydd Gwener 20 Rhagfyr 2024.
Yn ôl i'r brig
Grant Llywodraeth Cymru – Storm Bert
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i Awdurdodau Lleol er mwyn darparu grantiau gwerth £1000 i aelwydydd heb yswiriant neu £500 i aelwydydd sydd â sicrwydd yswiriant presennol.
Darllen rhagor
Byddwn ni'n defnyddio'r manylion sydd wedi'u rhoi i ni ar y cais am y Grant Adfer Llifogydd Cymunedol i wneud taliadau Llywodraeth Cymru.
Dyma wybodaeth am lifogydd yn Rhondda Cynon Taf a beth i'w wneud
- Mae gwefan GOV.UK a gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ymarferol ar baratoi ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd.
- Mae cymorth ariannol hefyd ar gael trwy Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru, mae gwybodaeth ar gael yma - https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf
- I gael cyngor neu gymorth cyffredinol mewn perthynas ag yswiriant neu golledion heb eu hyswirio, ffoniwch Gyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf ar 0344 477 2020 neu fynd i https://carct.org.uk/
- Mae archfarchnad Asda yn cynnig cefnogaeth trwy ei Chronfa Argyfwng, rhagor o wybodaeth yma -https://www.asdafoundation.org/how-to-apply
- Mae TooGoodToWaste hefyd yn cynnig dodrefn wedi'u hailgylchu i'r rhai sydd mewn argyfwng, mae mwy o wybodaeth ar gael yma - https://www.toogoodtowaste.co.uk/
- Mae Interlink yn cynnig grantiau i gefnogi'n cymunedau a gafodd eu heffeithio gan Storm Bert. Yn dilyn yr effaith ddinistriol y cafodd Storm Bert ar ein cymunedau y penwythnos yma, rydyn ni'n cynnig Cronfa Llifogydd Gymunedol i'r grwpiau a gafodd eu heffeithio neu'r grwpiau sy'n cefnogi'r gymuned.
- Mae grantiau gwerth hyd at £1000 ar gael i grwpiau sydd wedi cael eu heffeithio gan Storm Bert neu sy'n cefnogi cymunedau sydd wedi'u heffeithio gan Storm Bert.
- Os ydych chi'n dymuno gwneud cais am arian y gronfa yma, ffoniwch aelod o'r Garfan Cyngor yn y Gymuned:
- Lisa Yokwe: 07935 942271
- Liz Lawrence: 07938 442504
- Julie Edwards: 07598 009035
- https://interlinkrct.org.uk/blog/2024/11/25/community-flood-fund/
Yn ôl i'r brig
Os hoffech chi roi rhodd neu gynnig cefnogaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod:
Byddwch yn effro i fasnachwyr twyllodrus yn yr ardal, sy'n cynnig cefnogaeth ar gam a honni eu bod nhw o'r Cyngor, cymdeithasau tai neu gwmnïau cyfleustodau. Bydd gan BOB aelod o staff y Cyngor, timau cymdeithasau tai a gweithwyr cwmnïau cyfleustodau gardiau adnabod a dylech chi bob amser wirio eu manylion cyn caniatáu iddyn nhw ddod i mewn i'ch eiddo neu rannu gwybodaeth gyda nhw - dyma sut mae rhoi gwybod am sgam.
Yn ôl i'r brig
Mae pob ysgol AR AGOR yn ôl yr arfer.
Os yw eich cartref neu'ch busnes wedi'i effeithio gan y llifogydd o ganlyniad i Storm Bert, cofiwch am y cyngor yma mewn perthynas â thaliadau Treth y Cyngor a Threthi Busnes:
Treth y Cyngor
Efallai fod eich eiddo bellach wedi'i eithrio o ran Treth y Cyngor, yn amodol ar nifer o amgylchiadau penodol. Dyma nhw:
Dosbarth A - Anheddau sydd angen gwaith trwsio sylweddol neu addasiadau strwythurol fel bod modd byw ynddo, neu anheddau lle mae'r gwaith yma'n mynd rhagddo eisoes.
Bydd yr eiddo wedi'i eithrio am hyd at 12 mis cyn belled â'i fod yn wag a:
- Bod yr eiddo angen gwaith addasu strwythurol, neu fod gwaith o'r fath yn mynd rhagddo
- Bod gwaith addasu strwythurol yn mynd rhagddo, neu
- Bod gwaith trwsio sylweddol neu waith addasu strwythurol wedi mynd rhagddo yn yr eiddo fel bod modd byw ynddo, a bod llai na chwe mis wedi mynd heibio ers gorffen y rhan helaeth o'r gwaith hwnnw, a'r eiddo wedi bod yn wag ers y dyddiad hwnnw - hynny yw, os cafodd y gwaith ei gwblhau ar ôl 3 mis, mae modd eithrio'r eiddo am uchafswm o 9 mis.
Dosbarth C - Eiddo sydd wedi'u gwacáu
Os caiff eiddo ei adael yn wag a heb ei ddodrefnu, yna caiff ei eithrio am hyd at 6 mis. Bydd yr eithriad yn cychwyn o'r dyddiad y caiff yr eiddo ei adael yn wag a heb ei ddodrefnu.
Os oes un o'r sefyllfaoedd uchod yn berthnasol ar gyfer eich cartref chi, llenwch y ffurflen gais a bydd y Cyngor yn cysylltu â chi er mwyn trefnu archwiliad, os oes angen gwneud hynny:
Os ydych chi wedi gorfod symud allan o'ch cartref dros dro, neu'n barhaol, dylech roi gwybod i uned Treth y Cyngor fel bod modd diweddaru'ch cofnodion. Llenwch y ffurflen newid cyfeiriad.
Trethi Busnes
Eiddo wedi'u heithrio
Er bod gofyn talu trethi busnes ar y rhan helaeth o eiddo busnes, hyd yn oed os ydyn nhw'n wag, mae nifer o eithriadau i'r rheol hon. Bydd eiddo megis siopau a swyddfeydd wedi'u heithrio am y 3 mis cyntaf ar ôl cael eu gwacáu, a bydd safleoedd diwydiannol wedi'u heithrio am y 6 mis cyntaf ar ôl cael eu gwacáu. Os yw eich eiddo busnes yn wag o ganlyniad i ddifrod gan Storm Bert, anfonwch e-bost i refeniw@rctcbc.gov.uk. Nodwch yr holl fanylion am eich amgylchiadau fel bod modd adolygu'ch achos a threfnu archwiliad o'ch safle.
Effaith ar Ran o'ch Eiddo
Os yw'r llifogydd wedi'ch atal rhag defnyddio rhan o'ch eiddo busnes, ond eich bod chi'n dal i gynnal eich busnes o ran arall o'r safle, mae modd i'r Cyngor eich helpu i roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am hyn. Yr Asiantaeth sy'n gyfrifol am bennu gwerth ardrethol eich eiddo busnes. Bydd yr Asiantaeth yn adolygu'ch achos, ac efallai yn lleihau gwerth ardrethol eich eiddo am hyd at 6 mis. Bydd hyn yn golygu y byddwch chi'n talu llai o drethi busnes tra bod yr amodau hyn ar waith. Os bydd hyn o gymorth i'ch busnes chi, cysylltwch â'r Cyngor ar refeniw@rctcbc.gov.uk.
Yn ôl i'r brig