Untitled design - 2025-12-31T162425.218

Mae gyda ni newyddion gwych i'w rhannu!

Jess Fishlock MBE, y chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru ac sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau dros Gymru yw RHEDWR DIRGEL NOS GALAN 2025

Chwaraeodd Jess ei gêm olaf dros Gymru ychydig wythnosau yn ôl a bydd hi’n ymuno â ni i gario ffagl Nos Galan i ganol tref Aberpennar er mwyn cychwyn y Rasys!

Bob blwyddyn, mae Rasys Nos Galan yn denu sêr y byd chwaraeon!

Rydyn ni'n falch iawn o gadarnhau y byddwn ni'n croesawu Jess, a gafodd ei geni yng Nghaerdydd, i'n tref hanesyddol ar gyfer achlysur gwych Nos Galan 2025.

Mae Jess wedi ennill mwy o gapiau dros ei gwlad nag unrhyw chwaraewr arall o Gymru. Mae hi hefyd wedi sgorio 48 gôl dros Gymru, sy'n fwy na Gareth Bale a phob chwaraewr arall yn hanes Cymru.

Enillodd wobr Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn Cymru bedair blwyddyn yn olynol – ac yna unwaith eto yn 2019 – mae hi hefyd wedi chwarae pêl-droed i dimau ar dri chyfandir gan ennill sawl pencampwriaeth a chynghrair.

Bydd Jess yn ymuno â ni yn dilyn blwyddyn wych arall. Yn ystod y flwyddyn yma, chwaraeodd tîm pêl-droed menywod Cymru yn rhan o dwrnamaint rhyngwladol am y tro cyntaf erioed, UEFA Euro 2025, a Jess oedd y chwaraewr cyntaf o Gymru i sgorio mewn twrnamaint o'r fath. (Yn ystod y twrnamaint yma, nodwyd mai Jess yw'r chwaraewr hynaf erioed i sgorio gôl yn y twrnamaint, yn 38 oed!)

Mae'n fraint cael cyhoeddi'r newyddion yma.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Bwyllgor Rasys Nos Galan: “Achlysur i'r teulu yw Rasys Nos Galan, noson llawn traddodiad, chwedl a sêr y byd chwaraeon.

“Bydd hi'n wych gweld Jess Fishlock MBE yn rhedeg i ganol y dref yn cario ffagl Nos Galan.  Mae hi'n ysbrydoliaeth i lawer iawn o bobl ac rwy'n siŵr y bydd llawer o ferched – a bechgyn – ifainc yn y dorf sydd yr un mor uchelgeisiol â Jess. Mae hi'n fodel rôl gwych i bob un ohonyn nhw.

"Unwaith eto, mae Rasys Nos Galan wedi denu sêr y byd chwaraeon i gyflawni rôl y Rhedwr Dirgel ac rydyn ni'n edrych ymlaen at noson wych gyda rhedwyr o bob cwr yn ymuno â ni.

“Fe ddechreuon ni'r rasys 67 o flynyddoedd yn ôl, ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau â'r traddodiad yma am flynyddoedd i ddod! Wrth gwrs, rydyn ni'n gweithio'n galed i gadw chwedl Guto Nyth Bran yn fyw ac i anrhydeddu ymrwymiad a gweledigaeth sylfaenydd y rasys, y diweddar Bernard Baldwin MBE.

“Dyma ddymuno noson wych i bawb, ac rydyn ni'n falch iawn eich bod chi, Jess, wedi ymuno â ni!"

Dechreuodd Jess Fishlock MBE, 38 oed, chwarae i Glwb Dinas Caerdydd yn 7 oed, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i dîm y menywod yn 15 oed.

Roedd Laura McAllister, sydd hefyd wedi cyflawni rôl Rhedwr Dirgel Nos Galan, yn gapten ar y pryd a dywedodd fod Jess “mor dda, fe wnaethon ni ei symud hi i'r tîm hŷn yn gyflym iawn".

Aeth Jess ymlaen i sgorio 19 gôl mewn 23 gêm yn ei thymor cyntaf gyda'r clwb, gan helpu Dinas Caerdydd i gyrraedd yr wyth tîm olaf yng Nghwpan y Gymdeithas Bêl-droed.

Yn 2008, hi oedd y chwaraewr tramor cyntaf i ymuno â thîm pêl-droed menywod mwyaf llwyddiannus yr Iseldiroedd ac yno, enillodd y gynghrair am ddwy flwyddyn yn olynol yn 2008-9 a 2009-10. Roedd hi ar y trywydd iawn i wneud yr un peth yn ei thrydydd tymor pan ddychwelodd i'r DU ac ymuno â Chlwb Bryste.

Yn 2011, enillodd hi wobr Chwaraewr y Flwyddyn y Clwb, yn ogystal â chael ei henwi'n Hoff Chwaraewr y Cefnogwyr y Flwyddyn. Enillodd hi wobr Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn Cymru yn 2011, 2012, 2013, 2014 a 2019 ac fe'i hystyrir yn un o bêl-droedwyr gorau Cymru erioed.

Yn 2012 symudodd i Awstralia ac ymunodd â chlwb Melbourne. Yn ystod y flwyddyn ddilynol, symudodd i glwb Seattle Reign yn Washington, UDA, gan sgorio ei gôl gyntaf dros y clwb o flaen torf a dorrodd record.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 16 oed, yn rhan o gêm dan 19 oed, ac ymunodd â'r tîm menywod yn 2006.

Yn 2017, hi oedd y chwaraewr cyntaf o Gymru i ennill 100 o gapiau, a saith mlynedd yn ddiweddarach, yn 2024, cyrhaeddodd Jess 150 o gapiau dros Gymru, y chwaraewr cyntaf o Gymru i wneud hynny.

Sgoriodd gôl rhif 48 yn erbyn Kosovo yn 2024, a thrwy hyn mae hi wedi sicrhau ei lle ar frig y rhestr o sgorwyr dros Gymru. Chwaraeodd Jess 166 gêm ryngwladol dros Gymru, gan ddod â'i gyrfa ryngwladol i ben mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia ym mis Hydref.

Yn ogystal â bod yn fabolgampwraig hynnod lwyddiannus sydd wedi torri sawl record, mae Jess hefyd wedi derbyn clod a chanmoliaeth am ei gwaith ymgyrchu oddi ar y cae, gan siarad yn erbyn homoffobia ar y cyfryngau cymdeithasol a bod yn agored am ei phrofiad fel chwaraewr pêl-droed hoyw.

Dyfarnwyd MBE iddi yn 2018 am ei gwaith ym myd pêl-droed menywod a'r Gymuned LHDT. Ei gwraig yw cyn-chwaraewr Seattle Reign, Tziarra King.

Wedi ei bostio ar 31/12/2025