ng resize

Mae lleoedd y rasys i gyd wedi'u gwerthu, ac mae'r dyddiad yn agosáu, felly mae'n bryd diolch i noddwyr Rasys Nos Galan 2025, y mae eu cefnogaeth yn ein galluogi ni i gynnal y rasys eleni.

Mae busnesau lleol (a chyflogwyr) Trivallis, Walters, Prichard's, Amgen a Thrafnidiaeth Cymru wedi cael eu cadarnhau fel noddwyr Rasys Nos Galan 2025.

Mae Brecon Carreg yn parhau i gefnogi’r rasys eleni, gan gyflenwi athletwyr â dŵr potel ar y noson unwaith eto.

Mae Pwyllgor Rasys Nos Galan hefyd yn falch o gadarnhau ei fod wedi sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth y DU, trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, tuag at yr achlysur eleni.

Mae achlysur Rasys Nos Galan yn dathlu 67 o flynyddoedd eleni, ac mae'n cynnal ei enw da fel un o'r achlysuron mwyaf anarferol ac enwog yng nghalendr chwaraeon Cymru.

Yn dyst i hyn mae'r 2,000 a mwy o bobl sydd wedi sicrhau lle mewn ras ac a fydd yn rhedeg yn nhref hanesyddol Aberpennar ar Nos Galan, gan ddilyn olion traed y cannoedd o filoedd o redwyr a redodd yn y blynyddoedd a fu.

Maen nhw'n rhedeg i brofi eu sgiliau chwaraeon a'u galluoedd athletaidd, i gael hwyl ac i ddathlu Nos Galan mewn ffordd draddodiadol.

Ond maen nhw hefyd yn rhedeg i gadw'r chwedl yn fyw, gan gofio Guto Nyth Brân, a fu unwaith y dyn cyflymaf ar y ddaear, ac er cof amdano y cychwynnwyd y rasys gan y diweddar Bernard Baldwin MBE ym 1958.

Mae modd i chi ddarllen rhagor am fywyd anhygoel Guto Nyth Brân yma: (link)

Ers marwolaeth Bernard Baldwin MBE yn 2017, mae Nos Galan hefyd wedi bod yn ddathliad o'r dyn a sefydlodd yr achlysur flynyddoedd lawer yn ôl, ac y sicrhaodd ei ymrwymiad fod y rasys yn dychwelyd i Aberpennar flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Darllenwch ragor am fywyd Bernard Baldwin MBE a hanes Rasys Nos Galan yma:

Meddai Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan: “Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i noddwyr Nos Galan 2025 ac yn gobeithio eu bod nhw'n falch o allu cefnogi ein hachlysur enwog, sydd wedi ennill gwobrau.

“Mae’n wych bod ein noddwyr yn gwmnïau lleol, sydd i gyd yn darparu cefnogaeth a gwasanaethau rhagorol i bobl Rhondda Cynon Taf ac, mewn llawer o achosion, swyddi hefyd. Mae gan bob un ohonyn nhw ran i'w chwarae yn ein cymunedau ac maen nhw wedi cydnabod pwysigrwydd Rasys Nos Galan drwy gynnig eu cefnogaeth.

“Mae Nos Galan bellach yn achlysur rhyngwladol ac mae wedi croesawu rhedwyr a chefnogwyr o bob cwr o’r byd. Mae'n wych gallu eu croesawu yn Aberpennar a darparu noson o ragoriaeth ac ysbrydoliaeth chwaraeon, yn ogystal â ffordd hudol o orffen un flwyddyn a chroesawu blwyddyn newydd."

Cafodd cwmni Prichard's, sydd wedi'i leoli yn Llantrisant, ei sefydlu ym 1995 fel cwmni llogi peiriannau, ond mae bellach wedi datblygu i fod yn un o wasanaethau cymorth adeiladwaith a dymchwel mwyaf y DU. Mae'r cwmni wedi aros yn driw i'w wreiddiau ac wedi noddi Rasys Nos Galan flwyddyn ar ôl blwyddyn i ddangos ei gefnogaeth a'i werthfawrogiad i'w gymunedau.

Mae Amgen Cymru yn bartner allweddol yn rhan o ymdrech Cyngor Rhondda Cynon Taf i frwydro yn erbyn gwastraff ac o ran sicrhau cynaliadwyedd. Yn ogystal â darparu cymorth mewn perthynas â gwasanaethau rheoli gwastraff ac ailgylchu, mae'n cynnal safle mawr Bryn Pica, ger Aberdâr, lle caiff gwastraff ei ddidoli a lle caiff unrhyw beth y mae modd ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio ei ddidoli. Mae'r ganolfan hefyd yn chwarae rhan allweddol drwy ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o drigolion "gwyrdd" yn y ganolfan addysg sy’n croesawu ysgolion neu grwpiau.

Trivallis, sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd, yw un o'r landlordiaid cymdeithasol mwyaf yng Nghymru ac mae'n darparu cartrefi i ddegau ar filoedd o bobl ledled Rhondda Cynon Taf. Mae Trivallis wedi ennill ystod o wobrau ac wedi derbyn cydnabyddiaeth eang am ei waith, nid yn unig am ddarparu cartrefi diogel, modern ac effeithlon, ond hefyd am ei ymdrechion i ailadeiladu ac ailfywiogi cymunedau. 

Cafodd Trafnidiaeth Cymru ei sefydlu yn 2016 i wneud mwy na rhedeg trenau, sef trawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio.
Heddiw, mae ein rôl yn llawer mwy. Nid trenau yn unig sy’n bwysig ond bysiau, beiciau, cerdded ac olwyno. Dim ond trwy feddwl am drafnidiaeth mewn ffordd gydgysylltiedig y mae modd i ni wir newid sut mae Cymru yn teithio.

Rydyn ni eisiau bod yn hoff ffordd Cymru o deithio – gan helpu pobl i deithio mewn ffyrdd sy'n dda i'r blaned, i'r boced ac i’r bywyd beunyddiol.

Dyna’r rheswm pam rydyn ni'n adeiladu'r Rhwydwaith T: system drafnidiaeth integredig, aml-ddull sy'n cysylltu trenau, bysiau, cerdded, olwyno a beicio. Bydd yn rhwydwaith i bawb – yn agored, yn fforddiadwy ac yn hygyrch. Bydd yn gweithio'n ddi-dor, gydag un amserlen i gynllunio teithiau ac un tocyn i deithio o’r naill le i’r llall. 

Mae Walters yn grŵp o gwmnïau sy'n eiddo i deulu ac sydd wedi'u lleoli yn Hirwaun, yn arbenigo mewn peirianneg sifil, peirannau a datblygu. A ninnau wedi ein sefydlu ym 1982, rydyn ni wedi tyfu i gyflogi dros 1,000 o bobl, gyda llawer ohonyn nhw'n byw ac yn gweithio yn Rhondda Cynon Taf. A ninnau â hanes balch o gyflawni prosiectau isadeiledd cymhleth ledled y rhanbarth, rydyn ni wrth ein boddau yn cefnogi ein cymuned leol trwy noddi Rasys Nos Galan.

Cyflwynir Nos Galan 2025 gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'r dyddiad yn agosáu, a bydd y rhai sydd wedi llwyddo i sicrhau eu lle yn derbyn eu pecynnau ras, gyda rhifau ras a rhagor o wybodaeth, ym mis Rhagfyr.

Yn y cyfamser, ewch i dudalen gwybodaeth am yr achlysur ar wefan Nos Galan i gael manylion amseroedd, parcio ceir, parcio a theithio a chyfleusterau newid.

Nawr, mae'n bryd paratoi Ffagl Nos Galan, paratoi'r dref ac, wrth gwrs, gwarchod hunaniaeth y Rhedwr Dirgel enwog tan y noson fawr ei hun. Pwy fydd y Rhedwr Dirgel?!

Wedi ei bostio ar 29/10/2025