Yn rhedeg am hwyl neu'n rasiwr elît, dyma'r newyddion mae pawb wedi bod yn aros amdanyn nhw – bydd y cyfnod cofrestru ar gyfer Rasys Nos Galan byd-enwog yn Aberpennar yn agor ar Dydd Llun, 14 Medi!
Un o draddodiadau chwaraeon mwyaf eiconig Cymru, mae Rasys Nos Galan yn dathlu bywyd a chyflawniadau'r rhedwr chwedlonol o Gymru, Guto Nyth Brân. Wedi'i sefydlu yn 1958, mae wedi dod yn achlysur unigryw ar Nos Galan, gan gyfuno athletau elît, hwyl i'r teulu a threftadaeth Gymreig. Bob blwyddyn, mae miloedd o redwyr a gwylwyr yn dod i Aberpennar i fod yn rhan o'r dathliadau, sydd wedi dod yn rhan annatod o galendr chwaraeon Cymru.
Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, bydd lleoedd yn cael eu rhyddhau fesul cam, a hynny er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cyfle i gadw lle. Felly, gwisgwch eich esgidiau chwaraeon ac ewch i strydoedd Aberpennar Nos Galan eleni ar gyfer yr achlysur Cymreig unigryw ac enwog yma.
Rydym wedi rhewi ffioedd mynediad ar gyfer 2026, felly mae hyd yn oed mwy o reswm i gymryd rhan! Mae mynediad i’r rasys eleni yn dechrau o gyn lleied â £8 (tocyn plentyn) gan gynnwys y ffi archebu.
Bydd lleoedd yn cael eu rhyddhau fel a ganlyn:
- Dydd Llun 14 Medi am 10am
- Dydd Llun 21 Medi am 12pm
- Dydd Llun 28 Medi am 4pm
Y categorïau rasio ar y noson yw:
- Ras 5K i Redwyr Elît (Dynion)
- Ras 5K i Redwyr Elît (Menywod)
- Ras Hwyl 5K (gwisg ffansi yn ddewisol)
- Ras 600m i Blant 8 i 9 Oed a 10 i 11 Oed
- Ras 1.2K i Blant 12 i 13 Oed ac 14 i 15 Oed
Nos Galan ychydig yn wahanol i'r arfer yw hi, wrth i wylwyr lenwi'r strydoedd i gefnogi'r rhedwyr, mwynhau adloniant byw, rhyfeddu at y tân gwyllt ac aros am y Rhedwr Dirgel enwog i gyrraedd. Y cwestiwn ar wefusau pawb yw – pwy fydd y rhedwr yn 2026?
Mae'r achlysur yn dechrau gyda'r rasys i blant, cyn i'r Rhedwr Dirgel enwog gyrraedd. Maen nhw'n cario ffagl Nos Galan ac yn ei chynnau yng nghanol y dref. Yn 2025, cariodd arwr pêl-droed Cymru, Jess Fishlock MBE, y ffagl, gan ymuno â rhestr go arbennig o westeion blaenorol gan gynnwys Gareth Thomas CBE, yr Athro Laura McAllister CBE, Linford Christie MBE, Nigel Owens MBE, Chris Coleman OBE a James Hook.
Ar ôl i'r Rhedwr Dirgel gyrraedd, bydd tân gwyllt trawiadol yn goleuo'r nos, cyn i'r sylw droi at y prif achlysuron – y Ras Hwyl a'r rasys i redwyr elît. P'un a ydych chi'n mynd ar drywydd record bersonol, yn mwynhau'r awyrgylch mewn gwisg ffansi neu'n cefnogi o'r cyrion, mae Nos Galan yn cynnig noson fythgofiadwy i bob oed.
Peidiwch â cholli'ch cyfle i fod yn rhan o'r traddodiad Cymreig hanesyddol yma a helpu i groesawu'r flwyddyn newydd gydag ychydig o ysbryd Nos Galan go iawn. Cofrestrwch ar-lein o Dydd Llun, 14 Medi, yn www.nosgalan.co.uk.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan: “Mae Rasys Nos Galan yn un o achlysuron chwaraeon mwyaf eiconig Cymru ac yn draddodiad balch sy’n dod â chymunedau ynghyd i ddathlu ein treftadaeth gyfoethog wrth edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. Bob blwyddyn, mae miloedd o redwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr yn dod i Aberpennar i fod yn rhan o'r achlysur unigryw yma, gan greu awyrgylch anhygoel sy'n gwneud Nos Galan mor arbennig.
"Rydyn ni wrth ein bodd yn agor y cyfnod cofrestru ar gyfer rasys eleni ac yn annog unrhyw un sy'n ystyried cymryd rhan i gadw eu lle cyn gynted â phosibl. P'un a ydych chi'n rhedwr profiadol sy'n anelu at record bersonol, yn cymryd rhan yn y Ras Hwyl gyda ffrindiau a theulu, neu'n cefnogi o'r cyrion, mae rhywbeth yma i bawb ei fwynhau.
"O ddyfodiad y Rhedwr Dirgel a chynnau'r ffagl i'r rasys eu hunain a'r tân gwyllt gwych, mae Nos Galan yn ffordd fythgofiadwy o groesawu'r flwyddyn newydd! Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pobl sy'n cymryd rhan ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i Aberpennar ar gyfer dathliad blwyddyn newydd gwych arall."
Dilynwch Rasys Nos Galan ar Facebook ac ewch i www.nosgalan.co.uk am yr wybodaeth ddiweddaraf!
Os ydych chi'n berchennog busnes ac yn dymuno ei hysbysebu ym mhamffled Rasys Nos Galan, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk. Mae cyfraddau hysbysebu yn dechrau o £53+TAW ac mae'r pamffled yn cyrraedd miloedd o bobl. Mae pecynnau noddi ar gael hefyd.
Rydyn ni hefyd yn edrych am wirfoddolwyr i'n helpu ni gyda Rasys Nos Galan 2026 ar y noson. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 08/09/2026