Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r criw bach o awdurdodau sy'n cynnig Cyfamod Cymunedol i'r Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Mae'r Cyfamod Cymunedol yn ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng y gymuned sifil o Rondda Cynon Taf a'r Gymuned Lluoedd Arfog a leolir yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r addewid yn cydnabod y parch deuol rhwng y Cyngor, ei asiantau partner, ei chymunedau ac ein Personél Lluoedd Arfog (gwasanaethu ac ymddeol) a'u teuluoedd.
Mae'n ymrwymiad i sicrhau bod y gefnogaeth rydym yn ei gynnig tuag at ansawdd bywyd y personél Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf yn adlewyrchu eu cyfraniad i ni.
Is-gapten Cyrnol Jeff Cleverly o'r Cymry Brenhinol yn arwyddo'r Cyfamod ar ran y Lluoedd Arfog, gyda Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cynghorydd Craig Middle.
Er bod y ddogfen a lofnodwyd yn bwysig, mae'r camau gweithredu sy'n sail iddo'r un mor bwysig. H.y. y camau ymarferol o gymorth ac ymyrraeth a gynigir i bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd. Mae'r Cyngor wedi cynhyrchu "Canllaw i Wasanaethau ar gyfer ein Lluoedd Arfog a'u teuluoedd" sy'n cynnwys yr ystod o wasanaethau sy'n berthnasol ac o fudd i Gymuned y Lluoedd Arfog.
Ym mis Mai 2011, cyhoeddodd Y Weinyddiaeth Amddiffyn "Cyfamod y Lluoedd Arfog: Heddiw ac Yfory" sy'n bwriadu "cyfamod parhaol rhwng pobl y DU, Llywodraeth Ei Mawrhydi a phawb sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Goron a'u teuluoedd." Y Cyfamod yw'r mynegiant o'r rhwymedigaeth foesol rhwng y Llywodraeth a'r genedl sy'n ddyledus i'r lluoedd arfog. Roedd y ddogfen yn nodi ystod o gamau y mae'r Llywodraeth yn dymuno ymrwymo i gryfhau'r Cyfamod.
Dilynwyd hyn ym mis Tachwedd 2011 gan gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei hun "Pecyn Cymorth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru", sy'n cyd-fynd â'r Cyfamod ar draws y DU ac yn gosod yr hyn sy'n cael ei wneud o fewn y meysydd datganoledig o gyfrifoldeb.
Fel rhan o'r Cyfamod Lluoedd Arfog, ym mis Mehefin 2011 lansiodd y Llywodraeth gynllun Cyfamod Cymunedol, sy'n annog darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat a'r sectorau gwirfoddol a chymunedol i gynnig cymorth wedi'i dargedu ar gyfer eu cymuned lluoedd arfog lleol. Bwriad y Cyfamodau lleol i gyd-fynd â'r fersiwn cenedlaethol ac i gadarnhau cyd-ddealltwriaeth rhwng cymunedau lleol a'u lluoedd arfog.
Mae gan Rondda Cynon Taf hanes balch o gefnogi'r Lluoedd Arfog ac mae'r Cyfamod Cymunedol yn dangos ymrwymiad y Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol i ddal ati. Mae'r Cyfamod Cymunedol yn mynd cam ymhellach i gefnogi ein Cymuned Lluoedd Arfog.
Gwybodaeth Cyswllt Bellach
Rhondda Cynon Taf
Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01443 444574
Y Lleng Prydeinig
Gallwch gysylltu â Tania Hill, Swyddog Ymgyrchu Llywodraeth Leol y Lleng Prydeinig, drwy e-bost: publicaffairs@britishlegion.org.uk neu drwy ysgrifennu at:
Tania Hill,
The Royal British Legion
Haig House
199 Borough High Street,
Llundain, SE1 1AA,
neu drwy ffonio: 020 3456 9371
Cymdeithas Llywodraeth Leol
Gallwch gysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol drwy e-bost: info@local.gov.uk
neu drwy ysgrifennu at:
Local Government Association
Local Government House,
Smith Square,
Llundain, SW1P 3HZ
neu drwy ffonio: 020 7664 3000.
Asiantaeth Gwasanaethau Amddiffyn Dadansoddol
Gallwch ddod o hyd i dermau milwrol a byrfoddau ar wefan Y Weinyddiaeth Amddiffyn: