Skip to main content

Teulu

Mae ystod o wasanaethau gyda ni i helpu i greu teuluoedd cadarn, gan roi'r cyfle iddyn nhw gael cymorth lle bo'i angen, ond hefyd, i rannu profiadau cadarnhaol gyda'i gilydd!

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Dyma'r gwasanaeth sy'n darparu popeth sydd angen i chi ei wybod am ofal plant, pethau i'w gwneud a'r digwyddiadau diweddaraf. Mae gwybodaeth ar gael ynglŷn â gwaith a hyfforddiant yn ogystal â manylion am gymorth rhianta, a chyngor penodol ar gyfer plant sydd yn anabl neu sydd ag anghenion arbennig.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r dudalen gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd.
Ffôn: 0800 180 4151
E-bostgwasanaethgwybodaethideuluoedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Mentrau 'High 5' a 'Chwaraeon yw'r unig ffordd'

Dyma fynediad am ddim i blant 16 oed ac iau, yn ogystal ag i rieni a chynhalwyr, yn ystod gwyliau ysgol, sy'n rhoi cyfle i chi nofio, chwarae pêl-droed neu ddefnyddio'r gampfa. Darganfyddwch dalent gudd neu ddatblygu'ch sgiliau chwaraeon. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'ch canolfan hamdden leol.

Cymorth i Deuluoedd

Mae'n bosibl y byddwch chi'n elwa o brydau ysgol am ddim a Lwfans Dillad.
Mae modd gweld rhagor o wybodaeth ar dudalen Materion Ariannol

Cynhalwyr a Chynhalwyr Ifainc

Mae bod yn aelod o deulu yn golygu gofalu am eich gilydd, ond pryd mae'r cyfrifoldeb yma'n troi'n 'gynnal'? Mae bod yn gynhaliwr yn swydd bwysig iawn ac yn un sydd efallai yn gofyn am gefnogaeth – hyd yn oed os yw hyn yn golygu cael cyfle i gwrdd â chynhalwyr eraill a gwneud ffrindiau newydd nawr ac yn y man.
 I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch dudalennau Gyrfaoedd.

Diogelu

Un o swyddogaethau pwysicaf y Cyngor yw sicrhau bod yr unigolion mwyaf agored i niwed, yn blant ac yn bobl hŷn, yn cael eu diogelu rhag niwed a chamfanteisio/ecsbloetiaeth. Os ydych chi wedi dioddef neu yn dal i ddioddef camdriniaeth, neu os ydych chi'n adnabod rhywun sydd yn cael ei gam-drin darllenwch ein tudalennau cymorth i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â phwy i gysylltu â nhw. 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth os oes gyda chi bryderon ynglŷn â diogelwch plentyn neu berson ifanc.

Gwasanaeth 'Listen In'

Dyma wasanaeth newydd sy'n cael ei ddarparu gan CAIS ac AVOW er mwyn cynorthwyo â’r rôl sylweddol sy'n cael ei chyflawni gan deuluoedd, ffrindiau a chynhalwyr cyn-filwyr o ran hyrwyddo'r broses gwella o broblemau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth milwrol a'r newid i fywyd dinesydd. Mae'r gwasanaeth 'Listen In' yn cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl a chymorth ymarferol i deuluoedd a ffrindiau cyn-filwyr ledled Cymru.

Rhagor o wybodaeth am wasanaeth Newid Cam Cymru

Gwasanaethau i Bobl Ifainc

Mae'r gwasanaethau yma'n cynnig profiadau diddorol a phleserus sy'n ysbrydoli pobl ifainc. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau a chwaraeon allgyrsiol sydd mor amrywiol â gweithdai DJ a sgiliau syrcas, gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig mewn cymunedau, clybiau ieuenctid, disgos ar benwythnosau, heriau'r Cynllun Dug Caeredin, i roi'r cyfleoedd ehangaf posibl.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.wicid.tv