Skip to main content

Tai

Gall ble rydych chi'n byw effeithio ar eich iechyd a'ch lles yn gyffredinol. Rydyn ni'n darparu nifer o gynlluniau gan gynnwys rhoi cymorth i'r rheiny am y tro cyntaf gyda morgais neu gartref fforddiadwy, newidiadau i'r cartref neu gymorth i gynnal annibyniaeth.

Gosod ar rent!

Mae Strategaeth Tai y Cyngor yn gweithio gyda landlordiaid i sicrhau bod y cartrefi sydd wedi'u gosod ar rent o'r safon uchaf.
 Am ragor o wybodaeth ewch i Homestep 

Ffôn: 01443 425678 
E-bost: 
homestep@rctcbc.gov.uk

Grant Cyfleusterau i'r Anabl

Mae'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl ar gael ar gyfer amryw o waith a fydd yn helpu person anabl i gynnal ei annibyniaeth yn y cartref.

Rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer y grantiau sydd ar gael.

Canolfan Cyngor ar faterion Tai

Mae'r garfan wedi helpu miloedd o bobl ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â thai.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch: 01443 495188

Cymorth yn y Cartref

Os oes angen cymorth yn y cartref arnoch chi, megis dod â bwyd i chi, addasiadau, cymorth byw neu gymorth dros dro wedi i chi adael yr ysbyty, gallwn eich helpu.
Ffôn: 01443 425003
E-bost:   gwasanaethaucymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Cymorth yn y Cartref a'r Llinell Fywyd

Gall defnyddio larymau cymunedol a/neu dechnoleg Teleofal helpu pobl o unrhyw oedran a gallu i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.  Mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i'r teulu neu i ffrindiau gan wybod bod modd cysylltu â nhw mewn argyfwng.  Yn ogystal â hynny, gall teclynnau galw gael eu darparu fydd yn rhybuddio cynhalwyr preswyl dim ond pan fydd angen help. Bydd hyn yn galluogi cynhalwyr i gael seibiant gwerthfawr o'u rôl gofalu.

Dyma ragor o wybodaeth am fyw'n annibynnol yn eich cartref eich hun.

Cynhesu'ch Cartref

Os ydych chi'n poeni am gost cynhesu'ch cartref, cewch chi ragor o wybodaeth trwy fynd i'n tudalen EffeithloCyngor ar Effeithlonrwydd Ynninrwydd Ynni neu ffonio 01443 425725. Fel arall, ffoniwch gynllun Nyth ar 0808 808 2244 neu ewch i NYTH. Mae Nyth yn gynllun Llywodraeth Cymru sy'n gweithio tuag at wneud cartrefi Cymru yn fwy twym ac effeithiol o ran ynni.

Alabaré – Alabaré Pontypridd

Mae Cartrefi i Gyn-filwyr yn rhaglen tai â chymorth ar gyfer cyn-filwyr digartref sydd ag ystod o anghenion cymorth.

Rhagor o wybodaeth am Alabare

Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)

Mae SSAFA yn elusen y Lluoedd Arfog sy'n darparu ystod o wasanaethau ar gyfer cyn-filwyr, milwyr presennol a'u teuluoedd. Mae'r gymdeithas yn darparu llety sy'n bodloni anghenion gwahanol cymunedau milwyr a chyn-filwyr. Mae'r rhain yn cynnwys Norton Homes sy'n darparu llety am ddim ar gyfer teuluoedd milwyr sy'n derbyn triniaeth feddygol hirdymor a llety am ddim dros dro yn Stepping Stone Homes ar gyfer menywod a phlant y mae eu perthynas wedi chwalu.