Mae disgyblion sy'n colli ysgol, am ba bynnag reswm, yn colli allan ar gymaint. Nid yn unig y mae'n effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol, mae hefyd yn effeithio ar gyrhaeddiad - ac mae modd i hyn fod yn gostus i rieni, pobl ifanc a rhieni maeth.
Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau bod plant yn ein Bwrdeistref Sirol yn mynychu'r ysgol lle bynnag y bo modd.
Wyddoch chi...
- Bod presenoldeb o 80% yn golygu bod eich plentyn yn colli blwyddyn gyfan o addysg dros bum mlynedd?
- Bod presenoldeb o 85% yn golygu bod 29 diwrnod ysgol, chwe wythnos, neu 145 o wersi yn cael eu colli dros flwyddyn?
- Bod presenoldeb o 90% yn golygu 19 diwrnod ysgol, pedair wythnos neu 95 o wersi yn cael eu colli dros flwyddyn?
Mae POB ysgol Gynradd ac Uwchradd yn Rhondda Cynon Taf yn cefnogi ymgyrch Mynychu Heddiw, Cyflawni Yfory.
Yn ystod Blwyddyn Academaidd 2017/2018, dosbarthodd Cyngor Rhondda Cynon Taf 679 o Hysbysiadau Cosb Benodol i rieni a Gofalwyr
- 378 ar gyfer gwyliau teuluol anawdurdodedig
- 291 ar gyfer absenoldebau anawdurdodedig
- 10 am fod yn hwyr yn gyson
Hoffem ddiolch i bob Pennaeth a Chorff Llywodraethu am sicrhau bod eu plant a'u pobl ifanc yn mynychu'r ysgol.
Plant a phobl ifanc sy'n mynychu'r ysgol yn rheolaidd yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o lwyddo yn eu bywyd fel oedolion drwy ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i ddilyn eu breuddwydion a chael gyrfa lwyddiannus
Beth allai eich plentyn wneud yn y dyfodol?
NID oes gan rieni a gofalwyr yr hawl awtomatig i dynnu disgyblion o'r ysgol yn ystod y tymor. Rhaid i bob cais am absenoldeb gael ei gymeradwyo gan y Pennaeth perthnasol cyn yr absenoldeb. Gweld manylion pellach am absenoldebau yn ystod y tymor
Mae'r neges yn eithaf syml - Mae gwyliau'n iawn, ond nid yn ystod y tymor!
Mae modd i'r rhai sy'n anwybyddu hyn gael eu herlyn. Mae Hysbysiad Cosb Benodedig Mynychu'r Ysgol (FPN) yn ddirwy y gallwn ni ei defnyddio fel dewis amgen i erlyn rhieni / gwarcheidwaid / cynhalwyr (gofalwyr) sydd ddim yn sicrhau bod eu plentyn yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd.
Mae Hysbysiad Cosb Benodedig Mynychu'r Ysgol yn £60 os caiff ei dalu o fewn 28 diwrnod o dderbyn yr hysbysiad, ac mae’n codi i £120 os caiff ei dalu ar ôl 28 diwrnod ond o fewn 42 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad. Gweld rhagor o fanylion am hysbysiadau cosb benodedig am beidio â mynychu'r ysgol
Mae pob ysgol Gynradd ac Uwchradd yn Rhondda Cynon Taf bellach yn falch o arddangos ein baneri Ymgyrch Presenoldeb Ysgol. Mae gennym ni gefnogaeth ein hysgolion, ein staff, ein cyrff llywodraethu a bellach mae angen cefnogaeth pob rhiant a rhiant maeth (gofalwr) yn Rhondda Cynon Taf arnom ni.
Mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu gwobrwyo'r 'Sêr' sef disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn rheolaidd - manylion i'w cadarnhau yn fuan!
Mae mynd i'r ysgol bob dydd mor bwysig - Colli Ysgol, Colli Allan
Meddyliwch am yr hyn y gallech ei wneud gyda'ch bywyd pe baech chi'n cael y graddau cywir.