Skip to main content

Gofal Preswyl a Gofal Ychwanegol

 

Mae gyda'r Cyngor ymrwymiad parhaus i foderneiddio dewisiadau gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn yn Rhondda Cynon Taf, drwy fuddsoddi mewn lletyau gofal newydd gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf - gan ymateb i newidiadau sydd wedi'u hadrodd o ran anghenion a disgwyliadau pobl hŷn. Mae'r dudalen yma yn amlinellu pob prosiect sydd wedi'i gwblhau, sydd wrthi’n mynd rhagddo ac sydd wedi'i gynllunio. Ar y dudalen yma mae manylion ynghylch pob prosiect sydd wedi'i gwblhau, sy'n mynd rhagddo ac sydd wedi'i gynllunio – sy'n rhan fawr o'n buddsoddiad Trawsnewid RhCT.

Yma, ar ddiwedd 2025, ymwelon ni â phreswylydd Maes-y-ffynnon, Steven, sy'n ffynnu gyda'r cymorth mae e'n ei dderbyn yn yr amgylchedd gofal ychwanegol:

Rydyn ni hefyd wedi ymweld â Janice a Dilwyn, sy'n mwynhau byw yn nhai gofal ychwanegol Cwrt yr Orsaf yn y Graig. Symudon nhw yno i fyw gyda'i gilydd ac maen nhw'n elwa ar gymorth 24/7 ar y safle ar gyfer eu hanghenion wedi'u hasesu:

Prosiectau sydd wedi'u cwblhau

Gofal Ychwanegol Maes-y-ffynnon, Aberaman

Cafodd y cynllun yma yng Nghwm Cynon ei ddarparu mewn partneriaeth â Linc Cymru yn 2020, er gwaethaf heriau'r pandemig. Mae wedi creu 40 fflat gofal ychwanegol o'r radd flaenaf mewn adeilad modern ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Maes-y-ffynnon, yn ogystal â sawl cyfleuster ar gyfer y gymuned.

Maesyffynnon

Cwrt yr Orsaf, Pontypridd

Cafodd y cynllun yma yng Nghwm Cynon ei ddarparu mewn partneriaeth â Linc Cymru yn 2020, er gwaethaf heriau'r pandemig. Mae wedi creu 40 fflat gofal ychwanegol o'r radd flaenaf mewn adeilad modern ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Maes-y-ffynnon, yn ogystal â sawl cyfleuster ar gyfer y gymuned.

Cwrt Yr Orsaf

Gofal Ychwanegol Dan-y-Mynydd, Porth

Mae'r llety gofal ychwanegol newydd yma wedi'i adeiladu ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Dan y Mynydd, gan sicrhau bod y tir diffaith yma'n cael ei ddefnyddio eto. Cafodd y gwaith ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2026 a chafodd y gwesteion cyntaf eu croesawu'n fuan wedi hynny, mae gan y cyfleuster 60 o welyau gofal ychwanegol newydd ar gyfer y gymuned yn ogystal â chyfleusterau modern a chanolfan oriau dydd sy'n cael ei gynnal gan y Cyngor.

Porth-outside

Beth yw Gofal Ychwanegol? Dyma wybodaeth am ein buddsoddiad yn Rhondda Cynon Taf

Prosiectau sy’n mynd rhagddyn nhw

Llety gofal arbenigol, Gelli

Mae'r prosiect cyffrous yma yn creu llety gofal arbenigol ar gyfer oedolion a phobl hŷn sydd ag anableddau dysgu. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn ddiwedd 2024 - ac mae disgwyl i'r llety yma o'r radd flaenaf agor yn 2026.

Bronllwyn specialist accommodation gelli

Llety gofal newydd, Aberpennar

Mae'r cynllun yma ar Heol y Darren mewn partneriaeth â Codi Group, a bydd yn darparu fflatiau gofal ychwanegol, gwelyau gofal dementia a byngalos ’Byw'n Hŷn’ ar un safle. Cafodd caniatâd cynllunio llawn ei roi yn 2024, ac yn dilyn hynny fe ddechreuodd y gwaith clirio ar y safle – galluogodd hyn y contractwr i ddechrau ar waith cychwynnol ar y safle yn gynnar yn 2026.

Darran Road, Mountain Ash

Cynlluniau sydd wedi'u cynllunio

Cartref gofal dementia preswyl, Glynrhedynog

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu'r cartref yma â 32 o welyau ar gyfer gofal dementia, i gymryd lle Cartref Gofal presennol Ferndale House.  Bydd yn cael ei adeiladu ar safle’r hen Ffatri Chubb, gyda phreswylwyr a staff yn symud i'r cartref newydd. Mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno a phroses dendro yn cael ei chynnal i benodi contractiwr ar gyfer yr adeiladu.

Ferndale residential artist impression


Mae'r Cyngor wedi ymrwymo hefyd i ddatblygu prosiectau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol ym Mhentre'r Eglwys (llety ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu) a Threorci (cynllun gofal ychwanegol). Byddan nhw'n cael eu hychwanegu at y dudalen yma unwaith eu bod nhw wedi gwneud cynnydd pellach.