Skip to main content

Prosiectau Buddsoddi mewn Ysgolion – Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

 
Mae darparu cyfleusterau newydd a modern ar gyfer ein hysgolion yn rhan fawr o'n buddsoddiad Trawsnewid RhCT. Mae naw prosiect mawr yn cael eu datblygu i'w cwblhau yn 2026 ac wedi hynny, yn rhan o ymrwymiad buddsoddi gwerth £414 miliwn dros naw mlynedd.

Mae'r buddsoddiad yma'n cael ei gyflenwi ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gyda rhan fawr o fuddsoddiad LlC yn dod drwy ei Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae'r prosiectau sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd a'r rhai sydd i ddod, i'w gweld isod. Mae yma hefyd ddolen at y dudalen 'Prosiectau sydd wedi'u Cwblhau'; mae arni fanylion ynghylch ein buddsoddiadau diweddar a rhai'r gorffennol.

Bydd cyfanswm y buddsoddi dros y cyfnod o 20 mlynedd rhwng 2014 a 2033 yn £1 biliwn bron â bod, yn ei grynswth. Yn y fideos isod, fe wnaethon ni ymweld ag Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn Llantrisant ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog, i glywed gan staff a disgyblion am fywyd ysgol yn eu hadeiladau newydd sbon. Cafodd y ddau brosiect eu cwblhau yn 2025 yn rhan o'n buddsoddiad #TrawsnewidRhCT.

Prosiectau sy'n mynd rhagddyn nhw:

Ysgol Cambrian

Bydd y datblygiad yng Nghwm Clydach yn darparu pumed ysgol ADY y Cyngor pan fydd yn agor yn 2026. Bydd amgylcheddau dysgu o'r radd flaenaf yn diwallu anghenion ein disgyblion mwyaf agored i niwed, a bydd yn cynnwys 23 dosbarth a nodweddion eraill, megis pwll hydrotherapi a chanolfan les. Bydd cyfleusterau allanol yn cael eu gosod o amgylch yr adeilad, ynghyd â maes parcio at ddefnydd yr ysgol.

New ALN School

Ysgol Gynradd Glyn-coch

Bydd y prosiect Her Ysgolion Cynaliadwy yma’n darparu ysgol gynradd fodern cyfrwng Saesneg a chanolfan gymunedol ar gyfer Glyn-coch. Bydd yn cyfuno Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ar un safle ysgol, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf gan gynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt, ac ardaloedd chwarae. Bydd dosbarthiadau Cymorth Dysgu, dosbarth meithrin a chyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg hefyd yn cael eu darparu.

Glyncoch Primary School

Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Cymer

Mae ysgol 11-19 oed cyfrwng Cymraeg newydd wedi'i chynllunio ar gyfer safle presennol yr ysgol. Cafodd Kier Construction ei benodi'n brif gontractwr y prosiect yn hwyr yn 2025. Bydd lle i 900 o ddisgyblion yn yr ysgol fodern, sy'n gwbl hygyrch. Bydd mannau dysgu yn yr awyr agored a chyfleusterau chwaraeon newydd i ddisgyblion yr ysgol ac aelodau'r gymuned eu defnyddio. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, gallai gwaith adeiladu ddechrau yn yr hydref, 2026.

Cwm Rhondda

Ysgol Llanhari

Mae ysgol 3-19 oed cyfrwng Cymraeg newydd wedi'i chynllunio ar gyfer y safle presennol. Cafodd Willmott Dixon ei benodi'n brif gontractwr yn hwyr yn 2025. Bydd lle i 910 o ddisgyblion yn yr ysgol (gan gynnwys y chweched dosbarth). Bydd meithrinfa i 30 o blant a chyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg i 40 o blant yn rhan o'r cynllun. Bydd y datblygiad cwbl hygyrch yma'n cynnwys mannau dysgu yn yr awyr agored a chyfleusterau chwaraeon - bydd modd i'r gymuned ddefnyddio nifer o'r cyfleusterau. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, gallai gwaith adeiladu ddechrau'n gynnar yn 2027.

Ysgol-Llanhari

Buarth y Capel, Ynys-y-bwl

Mae estyniad unllawr, gyda chwe ystafell ddosbarth, wedi'i gynllunio ar gyfer yr ysgol ADY, safle ategol Ysgol Tŷ Coch.  Bydd ystafelloedd trafod, cyfleusterau gofal personol, toiledau a mannau ategol hefyd yn cael eu darparu yn rhan o'r datblygiad hygyrch yma. Bydd yr ysgol bresennol hefyd yn derbyn neuadd fawr fwy ac ardal newydd i'r gymuned, tra bydd dwy ystafell ddosbarth yn cael eu hailfodelu a bydd rhagor o fannau parcio yn cael eu darparu.

Buarth-y-Capel

CYLCH NESAF O BROSIECTAU I FYND YN EU BLAEN

Ym mis Mawrth 2025, rhoddodd y Cyngor y newyddion diweddaraf ar y gyfres nesaf o brosiectau a fydd yn elwa o fuddsoddiad mawr mewn cyfleusterau Addysg newydd drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Rhoddwyd diweddariad pellach i Aelodau'r Cabinet ym mis Medi 2025. Mae'r prosiectau hyn yn y camau dichonoldeb a dylunio cynnar a chân nhw eu hychwanegu at y dudalen we hon unwaith y byddan nhw'n datblygu ymhellach.

Prosiectau wedi'u Cwblhau:

School-Investment-Completed-Projects-2022

Sustainable Communities for Learning