Skip to main content

Y Cyngor wedi buddsoddi bron £1 biliwn mewn gwelliannau sylweddol i ysgolion dros 20 mlynedd

Pontyclun Primary 3

Mae'r Cabinet wedi derbyn diweddariad mewn perthynas â'r buddsoddiad mewn cyfleusterau ysgol modern sydd wedi'u cyflawni gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru ers 2014, yn ogystal â'r cynigion sydd i'w cyflawni hyd at 2033. Bydd cyfanswm y buddsoddiad cynyddol dros gyfnod o 20 mlynedd bron â chyrraedd £1 biliwn - lefel digyffelyb o fuddsoddi ar gyfer ein disgyblion ifainc.

Mae adroddiad a gafodd ei rannu â'r Cabinet ddydd Llun, 22 Medi, yn nodi manylion y buddsoddiadau enfawr ym Mandiau A a B, yn ogystal â'r datblygiadau cynnar mewn perthynas â'r gyfran nesaf sy'n cynnwys naw prosiect arfaethedig - mae'r rhain werth £505 miliwn hyd yma. Mae pecyn cyllid gwerth £414 miliwn wedi'i gytuno mewn egwyddor er mwyn darparu'r prosiectau newydd, gyda chyllid ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer y cyfnod hyd at 2023 a mentrau ariannu ategol eraill. Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y cyfnod yma (2014-2033) yw £988 miliwn.

    

Mae ysgolion sydd wedi elwa ar fuddsoddiad Band A a Band B, yn ogystal â'r rheiny a fydd yn elwa ar brosiectau sydd i ddod yn y dyfodol, wedi'u cynnwys ar waelod y diweddariad yma. Roedd adroddiad ddydd Llun hefyd yn darparu diweddariad mewn perthynas â sawl rhaglen grant gan Lywodraeth Cymru y mae ysgolion wedi elwa ohonyn nhw - sy'n parhau i'r dyfodol. Mae manylion pellach wedi'u cynnwys isod hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg:  "Dechreuodd y buddsoddiad anhygoel yma ar gyfer ysgolion Rhondda Cynon Taf yn 2014 yn rhan o Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Rydyn ni wedi darparu 22 datblygiad o'r radd flaenaf ar draws Band A a Band B mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru - ac eleni rydyn ni wedi derbyn cymeradwyaeth mewn egwyddor ar gyfer prosiectau sylweddol pellach.

"Dyma ymdrech barhaus sylweddol gan bawb sy'n rhan o'r gwaith yma. Mae'n cynrychioli buddsoddiad o bron £1 biliwn yn ein pobl ifainc dros gyfnod o 20 mlynedd. Dyma gyfanswm digyffelyb, ac mae'n cyfleu gwaith caled ein swyddogion a chryfder ein partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

"Roedd yr adroddiad Cabinet ddydd Llun hefyd yn darparu diweddariad cynnydd pwysig mewn perthynas â'r naw prosiect newydd cyffrous fydd yn cael eu darparu dros y blynyddoedd nesaf, gyda gwaith adeiladu wedi dechrau'n barod ar y prosiectau yng Nghwm Clydach a Glyn-coch. Bydd addysg Gymraeg yn derbyn sylw pwysig, gyda phrosiectau wedi'u cynllunio yn Ysgol Cwm Rhondda, Ysgol Llanhari, ac ysgol Gymraeg newydd yn Llanilid. Bydd swyddogion yn parhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'r naw prosiect sy'n mynd rhagddyn nhw ledled Rhondda Cynon Taf i drigolion dros y misoedd sydd i ddod."

Derbyniodd yr ysgolion canlynol gyllid Band A a Band B yn rhan o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt), gyda'r buddsoddiadau nesaf wedi'u rhestru hefyd:

  • Prosiectau Band A - Ysgol Gymunedol Aberdâr, Ysgol Gynradd Treorci, Ysgol y Pant, Ysgol Gyfun Treorci, Ysgol Nant-gwyn, Ysgol Gymuned y Porth, Ysgol Gymuned Glynrhedynog, Ysgol Gymuned Tonyrefail, Ysgol Gynradd y Cymer, Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail, Ysgol Gynradd Cwmaman.
  • Prosiectau Band B - Ysgol Gynradd Hirwaun, Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Awel Taf, Ysgol Bro Taf, Ysgol Afon Wen, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, Ysgol Gynradd Pont-y-clun.
  • Prosiectau nesaf - Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yng Nghwm Clydach, ysgol newydd yng Nglyn-coch, Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhondda, Ysgol Llanhari, Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru, Aberdâr, Safle Ategol Ysgol Tŷ Coch, Buarth y Capel, Ynys-y-bwl, ysgol Gymraeg newydd yn Llanilid, Ysgol Gynradd Abernant.

Mae'r Cyngor wedi llwyddo hefyd i sicrhau cyllid pwysig, wedi'i dargedu gan lwybrau cyllid addysg eraill gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain wedi'u nodi isod:

  • Grant Cyfalaf Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned - mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth oddeutu £3 miliwn drwy'r Grant dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae wedi cael ei fuddsoddi er mwyn creu a gwella cyfleusterau, gan ganiatáu i ragor o ysgolion ddarparu rhagor o wasanaethau ar y cyd â grwpiau cymuned a phartneriaethau amlasiantaeth. Mae cyllid newydd gwerth £1.65 miliwn wedi'i sicrhau yn ddiweddar drwy'r grant, a bydd yn caniatáu i naw prosiect pellach gael eu darparu yn ystod y flwyddyn ariannol yma (2025/26).
  • Rhaglen Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar - sydd wedi cynorthwyo 176 o gyfleusterau gofal plant sydd wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru ers mis Ebrill 2022, yn rhan o gyfanswm buddsoddiad gwerth £1.4 miliwn.  Mae'n helpu lleoliadau gofal plant i gyflawni gwaith cyfalaf hanfodol, neu brynu offer sy'n eu galluogi nhw i atgyfnerthu eu cynnig gofal plant. Mae cyfnod ymgeisio am gyllid newydd wedi dechrau'n ddiweddar. 
  • Rhaglen Fwy o Fuddsoddi Cyfalaf mewn Gofal Plant - mae'r Cyngor wedi sicrhau £3.5 miliwn gan y rhaglen yma dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae pedwar prosiect wedi darparu opsiynau gofal plant newydd sbon neu wedi'u gwella hyd yma - gan alluogi i ragor o blant fynychu lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn ardaloedd Beddau a Phenderyn, a lleoliadau cyfrwng Saesneg yn Aberpennar a'r Ddraenen-wen. Mae achosion busnes newydd yn cael eu drafftio ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol.
  • Grant Cyfalaf Anghenion Dysgu Ychwanegol - mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth bron i £5 miliwn yn rhan o'r Grant dros y tair blynedd ddiwethaf, gan ddarparu gwelliannau mewn ysgolion prif ffrwd, dosbarthiadau cynnal dysgu, ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac unedau atgyfeirio disgyblion. Dylid nodi bod prosiectau lleol wedi cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael ac wedi gwella cyfleusterau ar gyfer Ysgol Hen Felin, Lôn y Parc a Safle Ategol Ysgol Tŷ Coch, Buarth y Capel - gydag estyniad newydd sy'n cynnwys tri dosbarth newydd wedi agor yn Ysgol Arbennig Maesgwyn ym mis Medi 2025. Mae cyllid ychwanegol gwerth £1.6 miliwn wedi'i sicrhau yn rhan o'r grant yma ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol (2025/26).
Wedi ei bostio ar 02/10/2025