Skip to main content

Adroddiad cynnydd ynghylch y naw prosiect buddsoddi sylweddol mewn ysgolion nesaf

Ysgol Bro Taf 1

Mae swyddogion wedi cyflwyno diweddariad cynnydd i'r Cabinet ynghylch y gyfran nesaf o brosiectau buddsoddi sylweddol mewn ysgolion lleol sy’n cael eu datblygu gan y Cyngor. Mae naw prosiect cyffrous ar amrywiol gamau yn eu datblygiad, ac maen nhw wedi'u clustnodi i'w cyflawni dros y blynyddoedd nesaf – a hynny gyda chymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Mae'r Cyngor wedi cwblhau sawl prosiect datblygu sylweddol mewn ysgolion lleol yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25. Cafodd y rhain eu cyflawni o fewn Band B y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac mae disgyblion a staff nawr yn mwynhau ffrwyth y llafur yma.

Mae ysgolion newydd sbon wedi’u sefydlu yng Nghilfynydd, Y Ddraenen Wen a Rhydfelen yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £79.9 miliwn ledled Ardal Ehangach Pontypridd. Ar ben hynny, o dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, cafodd adeiladau newydd eu hadeiladu yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref – ynghyd ag adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn ei safle newydd o'r radd flaenaf.

Fis Mawrth 2025, cyflwynodd swyddogion adroddiad Cabinet ynghylch y cyfnod sydd i ddod. Cymeradwyodd yr Aelodau gynnig ynghylch y gyfran nesaf o fuddsoddiadau ar gyfer naw ysgol, i'w cyflawni'n rhan o ymrwymiad buddsoddi gwerth £414 miliwn dros naw mlynedd. Mewn adroddiad pellach gan y Cabinet ddydd Llun 22 Medi mae manylion ynghylch y datblygiadau diweddaraf o ran y prosiectau yma. Mae'r rhain wedi'u crynhoi isod:

  • Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer plant 3–19 oed yng Nghwm Clydach – mae'r gwaith o adeiladu'r ysgol yn mynd yn dda ar hen safle'r Pafiliynau. Mae contractwr y Cyngor, Morgan Sindall, wedi gosod ffrâm ddur y prif adeilad yn ddiweddar; mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar amser, a'r gobaith o hyd yw y bydd yr ysgol yn cael ei hagor yn ystod hydref 2026.
  • Ysgol gynradd newydd ar gyfer Glyn-coch – mae cynnydd yn cael ei wneud o ran gwaith adeiladu ysgol a chanolfan gymunedol gynaliadwy ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig yr Hesg. Mae contractwr y Cyngor, Willmott Dixon, yn parhau i wneud cynnydd da tuag at agor yr ysgol newydd tua diwedd tymor yr hydref 2026.
  • Ysgol Cwm Rhondda – y bwriad yw adeiladu ysgol Gymraeg newydd i ddisgyblion 11–19 oed ar y safle presennol. Kier Construction sydd wedi'i benodi yn gontractwr ac mae'r gwaith dylunio'n mynd rhagddo, ar y cyd â'r ysgol. Mae Achos Amlinellol Strategol y prosiect wedi cael ei gymeradwyo ac mae Achos Busnes Amlinellol yn cael ei ddrafftio. Y bwriad yw y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod haf 2026.
  • Ysgol Llanhari – y bwriad yw codi ysgol newydd ar gyfer disgyblion 3–19 oed ar safle'r ysgol bresennol, ac mae'r broses dendro ar gyfer penodi contractwr yn mynd rhagddi. Mae trafodaethau cychwynnol wedi digwydd gyda'r ysgol er mwyn llywio cysyniadau dylunio cynnar ac mae Achos Amlinellol Strategol yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd. Y bwriad yw y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar y safle yn gynnar yn 2027.
  • Ysgol Gynradd Pen-rhys – y bwriad yw codi ysgol gynradd newydd ar safle'r ysgol bresennol ac mae proses dendro ar gyfer penodi contractwr yn mynd rhagddi. Mae trafodaethau wedi digwydd eisoes gyda'r ysgol ynghylch cysyniadau dylunio, cynnar, ac mae Achos Amlinellol Strategol wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Y bwriad yw dechrau gwaith ar y safle tua diwedd 2026.
  • Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr Yr Eglwys yng Nghymru, Aberdâr – y bwriad yw creu bloc addysgu newydd ar gyfer yr ysgol. Mae Knox and Wells wedi’i benodi yn gontractwr ar gyfer y prosiect, a bydd Achos Cyfiawnhau Busnes yn cael ei gyflwyno cyn hir. Y bwriad yw y bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar yn 2026, ac y bydd yn cael ei gwblhau'n ddiweddarach y flwyddyn nesaf.
  • Buarth y Capel, Ynysybwl –y bwriad yw codi bloc addysgu newydd ar gyfer yr ysgol, bydd hefyd yn ategu'r ddarpariaeth yn Ysgol Tŷ Coch, Ton-teg. Mae Knox and Wells wedi ei benodi'n gontractwr ar gyfer y prosiect, a bydd Achos Cyfiawnhau Busnes yn cael ei gyflwyno cyn hir. Y bwriad yw dechrau ar y gwaith adeiladu yn gynnar yn 2026, i'w gwblhau yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.
  • Ysgol Gymraeg Newydd, Llanilid – bydd yr ysgol newydd sbon yma'n cael ei sefydlu er mwyn creu darpariaeth i ateb y galw ddaw yn sgil datblygiad tai sylweddol sy'n cael ei adeiladu yn Llanilid. Mae'r datblygwr tai Persimmon yn y broses o glirio'r safle, fel bod modd i gyfnod adeiladu'r prosiect ddechrau.
  • Ysgol Gynradd Abernant – y bwriad yw codi estyniad ar gyfer yr ysgol bresennol; bydd yn ddarpariaeth ar gyfer y twf mae disgwyl ei gael yn niferoedd disgyblion yn sgil datblygiad tai mawr ar hen safle'r ysbyty. Bydd gwerthusiad o opsiynau ar gyfer y prosiect yn dechrau erbyn diwedd 2025.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Mae'r Cyngor wedi cyflawni nifer o brosiectau ysgol cyffrous dros y 18 mis diwethaf, a hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Ymhlith y rhain mae sefydlu tair ysgol yn Ardal Ehangach Pontypridd, yn ogystal â chodi adeiladau modern ar gyfer cymunedau ym Mhont-y-clun, Llantrisant, Pentre'r Eglwys a Glynrhedynog. Erbyn hyn rydyn ni â’n golygon ar y gyfran nesaf o brosiectau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

“Fis Mawrth 2025, cymeradwyodd Aelodau'r Cabinet y buddsoddiad yma, sy’n cynnwys naw prosiect newydd gwerth cyfanswm o £414 miliwn dros naw mlynedd.Mae cynnydd ardderchog eisoes yn cael ei wneud ar ddau o'r prosiectau yma, gyda chontractwyr wedi'u penodi a gwaith adeiladu yn datblygu ar y safleoedd – sef yr Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghwm Clydach, a'r ysgol a chanolfan gymunedol gynaliadwy newydd ar gyfer Glyn-coch.

“Dangosodd diweddariad dydd Llun y bydd 2026 yn flwyddyn hynod gyffrous, nid yn unig gyda dau o'r prosiectau yma'n cael eu cwblhau, ond hefyd bydd dau floc addysgu newydd yn cael eu cwblhau ym Muarth y Capel ac Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar yr ysgolion newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-rhys ac Ysgol Cwm Rhondda hefyd. Bydd gwaith yn Ysgol Llanhari yn dechrau yn gynnar yn 2027. Ar yr un pryd mae buddsoddiadau sydd yn yr arfaeth ar gyfer cymunedau yn Aber-nant a Llanilid yn cael eu datblygu.

“Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn cyfleusterau addysg ar gyfer ein pobl ifainc, gan ddod ag amgylcheddau o'r radd flaenaf i'n cymunedau – ac rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn bosibl. Bydd swyddogion yn diweddaru'r Cabinet fel y bydd pob prosiect newydd yn datblygu dros y misoedd nesaf, tra bydd ysgolion a chymunedau hefyd yn cael gwybod y diweddaraf yn llawn wrth i bob prosiect ddatblygu."

Wedi ei bostio ar 01/10/2025