Mae gwobr fwyaf Hamdden am Oes y flwyddyn yn ôl ar gyfer 2024!
Yn syml, lawrlwythwch yr ap Hamdden am Oes AM DDIM a mewngofnodi bob dydd (ar ôl 6am) i weld beth sydd ar gael. Gallai hyn fod yn wobr fel dosbarth ffitrwydd am ddim neu anrheg Nadoligaidd, neu raffl ar gyfer gwobrau fel aelodaeth am ddim.
Mae gwobr yn cael ei hychwanegu at yr ap bob bore – gwiriwch delerau ac amodau’r wobr ac oriau agor y ganolfan i gael mynediad iddi (mae hyn yn berthnasol ar gyfer gwobrau fel dosbarth ffitrwydd neu sesiwn campfa am ddim).
Mae ap Hamdden am Oes am ddim i'w lawrlwytho a does dim angen aelodaeth i allu cael mynediad iddo.
Yn ogystal â’r Gystadleuaeth Nadolig 25 diwrnod, mae gan yr ap y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am Hamdden am Oes. Mae modd gwirio amserlenni canolfannau, amseroedd agor pyllau nofio, sesiynau campfa, argaeledd dosbarthiadau a rhagor.
Mae’r ap hefyd yn caniatáu ichi gadw lle mewn dosbarthiadau a sesiynau nofio (hyd at saith diwrnod ymlaen llaw os ydych chi'n aelod o Hamdden am Oes).
Ar gael i'w lawrlwytho AM DDIM nawr!
Wedi ei bostio ar 30/11/2024