Skip to main content

Gwaith trwsio mis Ionawr yn Abercynon i unioni difrod i wal yn dilyn storm

River Row

Mae'r Cyngor yn rhoi gwybod ymlaen llaw am waith sydd ar y gweill ar Res yr Afon yn Abercynon, a fydd yn dechrau'n gynnar yn y Flwyddyn Newydd i unioni difrod i wal.

Cafodd y strwythur sydd i'w weld yn y llun ei ddifrodi yn ystod stormydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a bydd y cynllun trwsio'n canolbwyntio ar ran 5 metr sy'n methu ar hyn o bryd.

Mae'r Cyngor wedi penodi Edwards Diving Services yn gontractwr i gyflawni'r cynllun, a fydd yn cychwyn o'r wythnos yn dechrau ddydd Llun 5 Ionawr (2026).

Bydd y gwaith yn cynnwys rhoi concrit ar ddifrod erydu ar waelod y wal, er mwyn creu sylfaen sefydlog ar gyfer ailadeiladu'r wal gerrig.

Oherwydd natur gul y briffordd ar Res yr Afon, fydd dim mynediad ar gael i gerbydau yn ystod y gwaith. Mae disgwyl i'r gwaith bara tua thair wythnos.

Bydd Rhes yr Afon felly ar gau yn ystod oriau gwaith (8am-5pm) – o'i chyffordd â Phont Ynysmeurig, a thua'r gogledd am bellter o tua 115 metr.

Mae'r Cyngor wedi cysylltu â thrigolion lleol, gan roi darpariaethau ar waith i ddiwallu eu gofynion lle bo modd.

Nodwch, bydd casgliadau gwastraff/eitemau i’w hailgylchu'n cael eu cynnal gan y contractwr ac felly'n parhau yn ôl yr arfer.

Yn ystod yr oriau cau, bydd mynediad i gerddwyr yn parhau ar Res yr Afon - ond fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys.

Bydd Rhes yr Afon ar agor y tu allan i oriau gwaith (cyn 8am ac ar ôl 5pm bob dydd).

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu trwy gyllid cyfalaf sydd wedi'i neilltuo ar gyfer gwaith trwsio yn dilyn stormydd.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith hanfodol yma gael ei gynnal.

Wedi ei bostio ar 22/12/2025