Skip to main content

Gwres eithafol: Y newyddion diweddaraf am wasanaethau a chyngor ar iechyd

updated extreme weather CYM

Diweddarwyd: Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026 

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion gwres eithafol ar gyfer rhannau o Gymru, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf. Mae disgwyl tymereddau uchel iawn yn ystod y dydd, nosweithiau cynnes a rhagor o beryglon i'ch iechyd yn ystod y cyfnod yma. Er bod y tymheredd yn debygol o gyrraedd canol i ran uchaf 30 gradd, gallai'r tymheredd "deimlo" dros 40 gradd yn ein hardal ni.

Dyma argymell bod trigolion yn cymryd gofal ychwanegol, yn cadw llygad ar eraill, ac yn gwirio'r dudalen yma i fynnu'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau'r Cyngor. 

Y newyddion diweddaraf am wasanaethau'r Cyngor  

Oherwydd y gwres eithafol, mae'n bosibl y bydd newid i rai o wasanaethau'r Cyngor ar fyr rybudd. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen yma a'u rhannu drwy sianeli cyfathrebu arferol y Cyngor.

Casgliadau gwastraff ac ailgylchu   

Er mwyn helpu i gadw'r criwiau casglu yn ddiogel yn ystod y gwres eithafol, bydd y casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn dechrau o 6am yr wythnos yma

Rydyn ni'n gofyn i drigolion roi eu deunydd ailgylchu a'u gwastraff allan erbyn 6am ar fore eu casgliad, neu o 7pm y noson gynt

Oherwydd y tymereddau eithafol, mae'n debygol iawn y bydd oedi wrth gasglu bagiau gwastraff ac ailgylchu. Os bydd eich casgliad yn cael ei ohirio, gadewch eich gwastraff a'ch deunydd ailgylchu yn eich man casglu arferol fel bod modd i'r criwiau eu casglu yn ddiweddarach. 

Helpwch ein criwiau ni drwy wneud y canlynol: 

  • Rhoi eitemau allan yn brydlon. 
  • Gadael gwastraff a deunydd ailgylchu allan os nad ydyn nhw'n cael eu casglu ar yr amser arferol. 
  • Cadw cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu oddi ar lwybrau troed lle bo modd. 
  • Peidio â gorlenwi bagiau na chynwysyddion. 
  • Cadw cŵn yn ddiogel i ffwrdd o griwiau casglu. 
  • Bod yn amyneddgar tra bod criwiau'n gweithio'n ddiogel yn ystod y tywydd poeth. 

Byddwn ni'n diweddaru'r dudalen yma os bydd unrhyw newidiadau pellach i gasgliadau. 

Ysgolion a chanolfannau gofal plant 

I weld yr wybodaeth ddiweddaraf am gau ysgolion neu newidiadau i oriau ysgol ewch i'n gwefan. Mae'r ysgolion yn diweddaru'r manylion yma'n uniongyrchol, ac mae modd iddyn nhw newid.

Mae disgwyl i'r rhan fwyaf o ysgolion aros ar agor drwy gydol y rhybudd tywydd, oni bai bod pryderon penodol ynghylch iechyd a diogelwch mewn ysgol unigol. Rydyn ni'n effro i ddelwedd ffug gan Ddeallusrwydd Artiffisial sy'n cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac sy'n honni bod pob ysgol yn Rhondda Cynon Taf ar gau. Bydd yr wybodaeth gywir ar gael ar y dudalen Ysgolion ar Gau ar Fyr Rybudd ar ein gwefan neu'n cael ei rhannu mewn neges swyddogol gan eich ysgol.

Bydd ysgolion yn parhau i ddilyn eu trefniadau diogelwch gwres eu hunain a byddan nhw'n cysylltu â rhieni a chynhalwyr yn uniongyrchol os oes unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar ddisgyblion.

Mae llawer o ysgolion hefyd yn llacio eu gofynion gwisg ysgol yn ystod y gwres eithafol. Bydd pob ysgol yn cyfleu ei threfniadau lleol yn uniongyrchol i rieni a chynhalwyr.

Dylai rhieni a chynhalwyr sicrhau bod gan blant ddŵr, dillad addas, eli haul lle bo'n briodol, ac unrhyw eitemau y mae'r ysgol yn gofyn amdanyn nhw. 

Canolfannau hamdden, parciau a gwasanaethau awyr agored 

Mae modd i weithgareddau gael eu newid, eu symud i safle dan do, eu gohirio neu eu canslo ar fyr rybudd os bydd risg i ddiogelwch y cyhoedd. 

Dylai trigolion sy'n ymweld â chyfleusterau, parciau neu ardaloedd chwarae gofio: 

  • Mynd â dŵr gyda nhw. 
  • Defnyddio eli haul. 
  • Gwisgo dillad llac, ysgafn. 
  • Osgoi gweithgarwch egnïol yn ystod rhan boethaf y dydd. 
  • Cynllunio gweithgareddau ar gyfer y bore cynnar neu'r nos lle bo modd.  

Dylai rhieni a chynhalwyr sy'n ymweld â mannau chwarae gymryd gofal ychwanegol hefyd, gan bod modd i offer chwarae ac arwynebau diogelwch fynd yn boeth iawn yn yr haul. Gwiriwch sleidiau, siglenni, fframiau dringo ac offer arall cyn i blant eu defnyddio, ac osgoi offer sy'n teimlo'n rhy boeth i'w gyffwrdd. 

Gofal cymdeithasol i oedolion  

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn derbyn gofal neu gymorth cymdeithasol ac yn teimlo'n bryderus yn ystod y gwres eithafol, cysylltwch â'ch darparwr gofal yn y lle cyntaf. Os ydych chi'n poeni am eich lles eich hun, neu les rhywun rydych chi'n gofalu amdano, ceisiwch gyngor cyn gynted â phosibl. 

Cyngor iechyd cyhoeddus 

Mae modd i wres eithafol effeithio ar unrhyw un, ond mae rhai pobl mewn mwy o berygl, gan gynnwys pobl hŷn, menywod beichiog, babanod a phlant bach, pobl â chyflyrau iechyd, pobl sy'n gaeth i'r gwely, a'r rhai sy'n gweithio neu'n treulio llawer o amser yn yr awyr agored.  

I aros yn ddiogel mewn tywydd poeth, cofiwch: 

  • Aros yn y cysgod lle bo modd. 
  • Yfed ddigon o ddŵr drwy gydol y dydd. 
  • Cau llenni, bleindiau a ffenestri yn ystod y dydd, yna eu hagor nhw gyda'r nos pan fydd hi'n oerach. 
  • Defnyddio eli haul SPF 30 neu uwch gyda lefel Amddiffyniad UVA 4 seren neu uwch. 
  • Osgoi gweithgarwch egnïol yn ystod rhan boethaf y dydd. 
  • Cadw llygad ar aelodau o'r teulu, ffrindiau a chymdogion a allai fod yn fwy agored i niwed.  

Dylai rhieni a chynhalwyr osgoi gorchuddio pramiau neu fygis â blancedi neu frethyn, gan fod modd i hyn storio gwres. Mae modd i ddillad gwely ysgafn ac ystafelloedd oerach, gan gynnwys ystafelloedd ar y llawr isaf lle bo'n briodol, helpu babanod a phlant bach i aros yn fwy diogel dros nos.  

Teimlo'n sâl yn y gwres 

Os byddwch chi neu rywun arall yn teimlo'n sâl, dylech chi: 

  1. Symud i le oerach. 
  1. Gorffwys a thynnu dillad diangen. 
  1. Sipian ar ddŵr oer. 
  1. Osgoi alcohol, caffein, diodydd poeth a diodydd sy'n llawn siwgr. 
  1. Ffonio GIG 111 Cymru am gyngor os yw'r symptomau'n parhau. 
  1. Ffonio 999 os oes argyfwng  

Mae strôc gwres yn argyfwng meddygol. Os bydd y symptomau'n gwaethygu, ceisiwch gymorth meddygol brys.  

Diogelwch dŵr  

Efallai y bydd gyda chi awydd i oeri mewn afonydd, llynnoedd neu gronfeydd dŵr, ond mae modd i nofio mewn dŵr agored fod yn beryglus. Mae sioc dŵr oer yn risg ddifrifol, hyd yn oed mewn tywydd poeth. 

Os ewch chi i mewn i ddŵr agored, gwnewch hynny'n araf ac yn ofalus. Peidiwch byth â nofio mewn cronfeydd dŵr. Os byddwch chi'n cael trafferth yn y dŵr, cofiwch: Arnofio i Fyw.  

Cyngor teithio 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori teithwyr i wirio cyn teithio, gan fod modd i'r tywydd poeth effeithio ar rai gwasanaethau ar bob rhan o'r rhwydwaith.

Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf  

Wedi ei bostio ar 23/06/2026