Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau cynnydd pellach i'w Gynllun Gostwng Ardrethi Busnes Lleol ar gyfer 2026/27. Bydd hyn yn rhoi cymorth ariannol ychwanegol i helpu siopau, caffis, tafarndai lleol a busnesau eraill y stryd fawr i ymdopi â'r flwyddyn i ddod.
Rhondda Cynon Taf yw un o'r unig Gynghorau yng Nghymru i roi'r cymorth yma i fusnesau lleol.
Yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella canol trefi a chefnogi'r economi leol, bydd y cymorth mwyaf sydd ar gael i fusnesau cymwys yn codi o £500 i £625 ar gyfer 2026/27, gan gynyddu eto i £750 ar gyfer 2027/28. Mae disgwyl i 1,400 o fusnesau ledled Rhondda Cynon Taf deimlo budd y gwelliannau o ganlyniad i'r cynllun.
Mae'r cynllun yn defnyddio'r un meini prawf cymhwyso â'r cynllun Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch blaenorol, gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y busnesau bach a chanolig sy'n ffurfio asgwrn cefn cymunedau lleol. Mae hyn yn cynnwys llawer o'r siopau, caffis, lleoedd tecawê, tafarndai a salonau annibynnol mae trigolion yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.
Mewn rhai achosion, lle mae bil trethi net busnes yn is na gwerth y cymorth, bydd y cynnydd yn lleihau eu bil i sero am y flwyddyn.
Meddai'r Cynghorydd Ros Davis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Adnoddau:
“Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw ein busnesau lleol i wead ein cymunedau a chanol ein trefi. Bydd y cymorth ychwanegol yma'n rhoi mwy o sicrwydd iddyn nhw ar adeg pan mae llawer yn parhau i wynebu costau cynyddol. Drwy gynyddu'r cymorth i £625 eleni a £750 y flwyddyn nesaf, rydyn ni'n rhoi mwy o arian yn ôl yn nwylo masnachwyr lleol ac yn helpu i leddfu rhywfaint o’r pwysau ariannol.”
Mae'r cynllun gwell yma'n cyd-fynd â Chynllun Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod newydd Llywodraeth Cymru, sy'n golygu bydd llawer o fusnesau lletygarwch yn elwa o'r ddau fath o gymorth.
Bydd angen i fusnesau cymwys gyflwyno cais i dderbyn y cymorth, ac ar ôl hynny byddan nhw'n cael bil Ardrethi Annomestig wedi'i addasu.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais.
Wedi ei bostio ar 13/03/2026