Bydd casgliadau ailgylchu gwastraff gwyrdd yn cael eu cynnal yn wythnosol o ddydd Llun 16 Mawrth.
Cofiwch, mae angen i chi gofrestru AM DDIM i ddefnyddio'r gwasanaeth yma.
A ninnau wedi profi gaeaf oer a gwlyb, efallai y byddwch chi wedi manteisio ar y tywydd braf rydyn ni wedi'i gael yn ddiweddar ac wedi mentro yn ôl i'r ardd i roi ychydig o sylw iddi. Ond beth fyddwch chi'n ei wneud â thoriadau'r perthi, toriadau'r lawnt a'r darnau o blanhigion?
Mae gyda ni newyddion da i drigolion! Unwaith eto bydd y garfan Gofal y Strydoedd yn dechrau casglu'r holl wastraff gwyrdd o ymyl y ffordd yn wythnosol. Bydd hyn yn rhan o'i gasgliad ailgylchu wythnosol yr haf, o ddydd Llun 16 Mawrth. Bydd eich gwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod â'ch casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd.
Fydd DIM angen i chi gadw lle ar gyfer y gwasanaeth yma, bydd yr holl drigolion sydd wedi'u cofrestru yn cael casgliad gwastraff gwyrdd o ymyl y ffordd yn awtomatig o'r dyddiad yma.
Mae modd i chi ailgylchu'r holl wastraff o'ch gerddi, gan gynnwys toriadau, llwyni, blodau a brigau. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi'r gwastraff gwyrdd yn y sachau gwyrdd, aml-ddefnydd a'u gadael nhw wrth ochr y ffordd ar eich diwrnod casglu arferol.
Os nad ydych chi wedi cofrestru eto, mae amser gyda chi o hyd! Mae modd i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth AM DDIM yn gyflym ac yn ddidrafferth ar-lein trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd. Os does dim modd i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, mae modd i chi ffonio 01443 425001 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwch chi wedyn yn cael DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'ch gwastraff gwyrdd.
Mae modd i chi brynu sachau ychwanegol, ond bydd tâl ychwanegol ar gyfer pob sach. Mae'r tâl yma ar gyfer cost y sach yn unig. Mae pob sach yn cyfateb o ran maint i ddau a hanner o fagiau ailgylchu clir.
Peidiwch â rhoi pridd yn eich gwastraff gwyrdd gan nad oes modd i ni ei ailgylchu yn rhan o'n cynllun casglu gwastraff gwyrdd wrth ochr y ffordd ar hyn o bryd.
Bydd modd defnyddio'r sachau ar gyfer gwastraff gwyrdd megis glaswellt, tocion, brigau bach wedi'u torri i faint addas a gwastraff anifeiliaid bach sy'n bwyta llysiau yn unig. Fyddwn ni DDIM yn casglu rwbel, tywarch (blociau mwd) neu bren yn rhan o'r casgliad yma. Dylai gwastraff anifeiliaid gynnwys blawd llif / gwair yn unig ac nid gwastraff anifeiliaid arall fel baw cŵn a chathod. PEIDIWCH â gorlenwi'r sachau.
Mae modd mynd â gwastraff gwyrdd / o'r ardd i un o'n nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, ond RHAID iddo BEIDIO â bod mewn bag ailgylchu clir. Bydd rhaid, yn hytrach, ei arllwys yn rhydd i mewn i'r cynhwysydd sydd ar gael. Mae pob Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn dal i weithredu o dan oriau agor y gaeaf, sef rhwng 8.30am a 4.30pm. Bydd yr oriau agor yn newid ddydd Llun 30 Mawrth, sef rhwng 8.30am a 6.30pm.
Dyma'ch atgoffa i labelu'ch sachau'n glir gan nodi rhif/enw eich eiddo. Mae pob sach wedi'i chofrestru i eiddo unigol a byddwn ni ond yn casglu nifer y sachau sydd wedi'u cofrestru i'r eiddo. Bydd carfanau yn gwneud eu gorau glas i ddychwelyd y sachau i'r eiddo mor ddiogel â phosibl.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd:
"Hoffwn i ddiolch i drigolion am ymuno â'r cynllun ac ymuno â ni yn ein brwydr yn erbyn Newid yn yr Hinsawdd. Mae'r newidiadau a gafodd eu gwneud i'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd dros y blynyddoedd diwethaf yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor ac wedi ein helpu ni i gyrraedd a mynd tu hwnt i darged ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% yn gyson!
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd, e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk, ffonio 01443 425001 neu ddilyn cyfrif Facebook/Instagram
Wedi ei bostio ar 12/03/2026