Bydd y Cyngor yn dechrau cynllun gwaith pwysig yr wythnos nesaf ar Stryd Allen yn Aberpennar, i drwsio a chryfhau cyfres o waliau ac argloddiau afon cyn y gaeaf.
Mae cwrs dŵr Nant Ffrwd yn rhedeg drwy'r ardal breswyl, a bydd chwe wythnos o waith o ddydd Llun, 16 Tachwedd, a fydd yn gwella cydnerthedd y seilwaith presennol yn ystod stormydd.
Bydd y gwaith yn cynnwys mesurau dros dro i drwsio, sgwrio a thandorri argloddiau - ynghyd â chlirio llystyfiant, ailbwyntio waliau gwaith maen ar hyd yr afon ac ailadeiladu cefnfur sy'n gogwyddo.
Mae'r Cyngor wedi penodi Edwards Diving Services yn gontractwr er mwyn cyflawni'r gwaith yma, sy'n cael ei ariannu drwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Pheirianneg y Cyngor (2026/27).
Bydd cynllun rheoli traffig lleol ar waith gan y contractwr, ar ffurf ymyrraeth ar y briffordd drwy ddefnyddio rhwystrau – ond does dim disgwyl y bydd angen cau unrhyw ffyrdd.
Mae'n bosibl y bydd angen cau ambell ran o'r llwybr troed, ond bydd llwybr dargyfeirio priodol lle bo'n bosibl. Bydd mynediad i eiddo o hyd.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Mae rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad y Cyngor mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 12/11/2026