Skip to main content

Gwaith Clirio Dail yr hydref ar y Gweill i Gadw Cymunedau'n Ddiogel

Wrth i ddail yr hydref ddechrau cwympo ledled y Fwrdeistref Sirol, mae carfanau Gofal y Strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal eu hymgyrch clirio dail flynyddol – 'Ymgyrch Dail yn Cwympo' unwaith eto. Nod yr ymgyrch yw helpu i gadw ffyrdd, palmentydd a systemau draenio mor glir â phosibl cyn misoedd gwlypach y gaeaf.

Bob blwyddyn, mae cannoedd o dunelli o ddail sydd wedi cwympo yn cael eu casglu gan y garfan ac yna'n cael eu hailgylchu trwy wasanaeth ailgylchu gwastraff gwyrdd y Cyngor. Er y gall lliwiau’r hydref fywiogi strydoedd a pharciau lleol, gall dail a malurion tymhorol eraill rwystro draeniau, rhigolau a chwlfertau’n gyflym, gan gynyddu’r risg o lifogydd lleol yn ystod cyfnodau o law trwm.

Cyn rhagolygon gwynt a glaw ddydd Gwener, a gyda Rhybudd Tywydd Melyn ar waith, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion a busnesau helpu i gadw eu cymunedau'n ddiogel trwy glirio dail o ddraeniau a gylïau ger eu heiddo, lle mae'n ddiogel gwneud hynny.

Osgowch ysgubo neu frwsio dail i'r ffordd, gan y gallan nhw gael eu chwythu i mewn i ddraeniau ac achosi iddyn nhw gael eu rhwystro, gan gynyddu'r risg o lifogydd. Gall dail sydd ar ôl ar y ffordd hefyd ei gwneud hi'n anoddach i ysgubwyr ffyrdd gynnal gwaith clirio, yn enwedig lle mae cerbydau wedi'u parcio yn cyfyngu mynediad. Os yw’n bosibl, dylid cael gwared ar ddail gan ddefnyddio Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd y Cyngor.

Drwy gydol cyfnod yr hydref a'r gaeaf, bydd carfanau Gofal y Strydoedd yn cynnal gweithrediadau glanhau wedi'u targedu mewn mannau lle mae dail yn cwympo, canol trefi a lleoliadau lle mae llawer o bobl yn teithio. Ochr yn ochr â chasglu dail, bydd carfanau ymroddedig yn parhau i archwilio cwlfertau, cynnal a chadw asedau draenio a chlirio rhigolau priffyrdd, a hynny'n rhan o raglen rheoli perygl llifogydd barhaus y Cyngor.

Caiff trigolion hefyd eu hannog i ddefnyddio Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd y Cyngor, sy'n darparu ffordd gyfleus o ailgylchu dail sydd wedi cwympo, tocion gwrychoedd a gwastraff gardd. Caiff y deunydd a gaiff ei gasglu ei gompostio a'i ailgylchu.

 

Os nad yw trigolion wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd, ond hoffech chi ddechrau cael casgliadau, mae hi'n gyflym ac yn hawdd cofrestru. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd neu ffonio 01443 425001. Bydd trigolion wedyn yn cael eu DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'u gwastraff gwyrdd. Y cyfan bydd angen iddyn nhw ei wneud wedyn yw parhau i roi eu gwastraff gwyrdd i'w ailgylchu, gan gynnwys unrhyw ddail maen nhw'n eu casglu yn y sach WERDD y mae modd ei hailddefnyddio ac yn ystod misoedd y gaeaf, o 23 Tachwedd, clicio neu ffonio i drefnu eu casgliad pan fydd ei angen arnyn nhw!

Meddai'r Cynghorydd Louisa Addiscot, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd:

"Mae golygfeydd prydferth ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod yr hydref, ond mae'r hydref hefyd yn cyflwyno heriau i'n rhwydwaith draenio a'n priffyrdd."

"Mae ein rhaglen clirio dail flynyddol yn rhan bwysig o'n paratoadau ehangach ar gyfer y gaeaf. Drwy gael gwared ar ddail cyn iddyn nhw gronni a rhwystro draeniau, mae modd i ni helpu i leihau'r perygl o lifogydd lleol a chadw ein cymunedau i symud yn ddiogel."

"Bydd ein carfanau'n gweithio drwy gydol y tymor i glirio mannau lle mae dail yn cwympo, archwilio asedau draenio ac ymateb i broblemau wrth iddyn nhw godi. Serch hynny, mae modd i drigolion hefyd wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gael gwared â chroniadau bach o ddail o ddraeniau ger eu cartrefi yn ddiogel a rhoi gwybod i ni am unrhyw bryderon."

"Wrth i fisoedd gwlypach y flwyddyn agosáu, bydden ni'n annog pawb i aros yn wyliadwrus, cymryd gofal wrth deithio yn ystod cyfnodau o dywydd garw a'n helpu i gadw draeniau a gylïau'n glir lle bynnag y bo'n ddiogel gwneud hynny."

Mae modd i drigolion sy'n gweld draeniau wedi'u rhwystro, pryderon am lifogydd neu broblemau eraill ar y briffordd roi gwybod amdanyn nhw drwy wefan y Cyngor neu drwy gysylltu â'r Cyngor yn uniongyrchol.

 

Os oes angen i chi roi gwybod am broblem yn ystod oriau swyddfa, ewch i www.rctcbc.gov.uk/cysylltu.

 

Rhif ffôn y Cyngor y tu allan i oriau'r swyddfa ac mewn argyfwng: 01443 425011.

 

Dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ar Facebook ac Instagram i gael y newyddion diweddaraf. 

Wedi ei bostio ar 22/10/2026