Mae CHWECH o bobl ifainc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi ennill cymhwyster proffesiynol drwy gyflawni prosiect campfa gymunedol pwysig, diolch i gynllun gan Gyngor Rhondda Cynon Taf sydd wedi ennill gwobrau.
Mae'r cynllun GofaliWaith yn darparu cymorth ychwanegol i'r rheiny sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan eu helpu nhw i symud tuag at ddyheadau gyrfa ar gyfer y dyfodol.
Mae wedi cael ei gydnabod ers tro fod y rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu heriau ychwanegol o ran cymryd y camau nesaf tuag at annibyniaeth.
Mae'r cynllun GofaliWaith yn cael ei gynnig gan Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant y Cyngor sydd wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol am ei gwaith arloesol.
Roedd gan bob un o'r bobl ifainc, rhwng 16 ac 18 oed, ddiddordeb yn y maes adeiladu, felly aeth y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant ati i ddod â phartneriaid ynghyd er mwyn cyflwyno cwrs unigryw a gafodd ei ariannu gan y Rhaglen Ymestyn yn Ehangach ym Mhrifysgol De Cymru.
Yn dilyn sesiwn Cyflwyniad i'r Maes Adeiladu yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, gyda lluniaeth yn cael ei ddarparu gan gwmni Castell Howell, cafodd y bobl ifainc gyfle i drin a thrafod adnoddau dysgu ynghylch adeiladu ar gyfer eu cymhwyster a cherdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu.
Maen nhw hefyd wedi derbyn gwybodaeth bwysig am y llwybrau prifysgol a phrentisiaethau gradd yn y sector adeiladu gan y prosiect Ymestyn yn Ehangach.
Roedd wedyn yn amser cyfnewid yr ystafell ddosbarth a llyfrau am Gymdeithas Cymuned Cwm-parc ac esgidiau gwaith! Gan weithio â Paul, tiwtor medrus o Realskillz (ARC), treulion nhw wythnos yn trawsnewid y gampfa gymunedol, sy'n cael ei defnyddio a'i gwerthfawrogi gan drigolion o bob oed.
Darparodd Seren Allsop, Swyddog Gwerth Cymdeithasol Cardo Group, offer a chymorth i wneud y prosiect yn bosibl.
Dysgodd y bobl ifainc sut i ddefnyddio offer a deunyddiau adeiladu'n effeithiol ac yn ddiogel, wrth iddyn nhw osod plastrfwrdd, paentio waliau a chydweithio er mwyn moderneiddio a gwella'r gampfa.
Ar ôl eu holl waith caled ac ymdrech, aeth y bobl ifainc ymlaen i ennill cymhwyster a cherdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu. Mae'r ddau beth yn hanfodol ar gyfer y rheiny sydd ag awydd gweithio yn y diwydiant adeiladu.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Rydyn ni'n falch iawn o’r bobl ifanc a’r ffordd y gwnaethon nhw ymrwymo i’r prosiect yma.
“Mae eu gwaith ar y gampfa newydd yn drawiadol ac rwy'n gobeithio bod pob un ohonyn nhw’n hynod falch ohonyn nhw eu hunain am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Nid yn unig o ran y sgiliau a'r cymwysterau maen nhw wedi eu hennill ar gyfer eu dyfodol, ond y gwahaniaeth enfawr maen nhw wedi’i wneud ar gyfer y rheiny sy'n mwynhau'r cyfleusterau yng Nghymdeithas Cymuned Cwm-parc.
“Daeth yr hyn a ddechreuodd fel grŵp o unigolion â diddordeb cyffredin mewn adeiladu yn dîm o ffrindiau ac, o bosibl, yn gydweithwyr yn y dyfodol. Drwy gydol y rhaglen maen nhw wedi datblygu hyder, sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd ac wedi dangos eu dibynadwyedd, eu cydnerthedd a'u penderfyniad.
“Mae Cynllun GofaliWaith a’i bartneriaid unwaith eto wedi cyflwyno rhaglen sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifainc sy’n dechrau creu llwybr ar gyfer eu dyfodol yn dilyn profiad o dderbyn gofal.
"Mae'r Cynllun GofaliWaith wedi newid cannoedd o fywydau dros yr 16 o flynyddoedd diwethaf. Mae pob plentyn mewn gofal yn blentyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf. A ninnau'n rhiant corfforaethol iddyn nhw, roedden ni eisiau gwneud rhagor i'w cefnogi a'u helpu i gyflawni, ac rydyn ni wedi gwneud hynny drwy raglenni fel yr un yma, sy'n rhedeg sawl gwaith y flwyddyn.”
Cafodd y cyfle yma'i gyflwyno gyda chyllid gan Ymestyn yn Ehangach, sy'n fenter genedlaethol ac wedi'i hariannu gan Medr i ddod â phrifysgolion, colegau, ysgolion a phartneriaid cymunedol ledled Cymru ynghyd, i gefnogi'r rhai sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol i addysg uwch.
Galluogodd cyllid ychwanegol gan Bartneriaeth Alcohol Gymunedol y DU y bobl ifainc i sefyll arholiadau'r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu – ac ennill cymwysterau a chardiau.
Hyrwyddodd Matt Knight, Ymgynghorydd Rhanbarthol y Bartneriaeth Alcohol Gymunedol ar gyfer De-ddwyrain Cymru, waith y tîm a chefnogodd greu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifainc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Roedd y Bartneriaeth Alcohol Gymunedol hefyd yn bartner allweddol yn y fenter GofaliWaith ddiweddaraf a gynigiodd wybodaeth ymarferol a phrofiad gwaith yng nghanol tref Pontypridd.
Mae'r rhaglen yn tynnu sylw at y deilliannau cadarnhaol y mae modd eu cyflawni trwy waith partneriaeth effeithiol rhwng Ymestyn yn Ehangach, GofaliWaith, Realskillz (ARC) a Chymdeithas Cymuned Cwm-parc, gan ddarparu cyflwyniad diogel, cefnogol a realistig i yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu.
Wedi ei bostio ar 23/10/2026