Mae'r Adran Rheoli Credyd yn casglu taliadau ar gyfer anfonebau a hysbysiadau cosb benodedig sy'n cael eu rhoi gan wahanol adrannau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Os oes gennych chi gwestiwn am anfoneb neu am hysbysiad cosb benodedig, mae rhaid i chi gysylltu â'r Adran sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth dan sylw neu sy'n rhoi'r hysbysiad cosb benodedig, a bydd yr Adran honno'n gallu eich helpu chi. Fydd y Garfan Rheoli Credyd ddim yn gallu rhoi ateb llawn i'r cwestiynau hyn, ac mae'n bosibl bydd rhaid eich ailgyfeirio chi i'r Adran gywir
Sut i dalu anfoneb neu hysbysiad cosb benodedig
Talu anfoneb ar-lein – I dalu ar-lein bydd angen cael rhif yr anfoneb.
Talu hysbysiad cosb benodedig ar-lein – Bydd angen cael rhif yr hysbysiad a'r swm wrth law. Mae'r ddau wedi eu nodi ar yr hysbysiad cosb benodedig.
Talu trwy'r dull Debyd Uniongyrchol – Mae modd talu anfonebau trwy'r dull Debyd Uniongyrchol. I gael ffurflen, ffoniwch 01443 425008. Does dim modd talu hysbysiadau cosb benodedig trwy'r dull Debyd Uniongyrchol.
Galw heibio – Mae modd talu ag arian parod, siec a cherdyn credyd/debyd drwy alw heibio i un o'r Canolfannau iBobUn. Dyma'r oriau agor:
One4All Opening Hours
Sardis |
Llun–Gwener, 9am–4pm |
Y Porth |
Llun–Gwener, 9am–3:30pm |
Aberdâr |
Llun–Gwener, 9am–3:30pm |
Treorci |
Llun–Gwener, 9am–3pm |
Aberpennar |
Llun 9am–3:30pm, Mercher 9am–1pm, Gwener 9am–3:30pm
|
Swyddfa'r Post – Mae modd talu ag arian parod, siec a cherdyn credyd/debyd yn Swyddfa'r Post. Defnyddiwch y cod bar sydd ar ran flaen yr anfoneb. Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Post Office Counters Ltd’.
Banc Barclays – Mae modd talu, yn rhad ac am ddim, yn un o ganghennau Banc Barclays. Defnyddiwch y bonyn giro banc ar yr anfoneb.
System Glirio Awtomataidd y Banciau (‘BACS’) – Mae modd talu yn uniongyrchol i gyfrif banc y Cyngor. Defnyddiwch y cod didoli ‘20-68-92’ a rhif y cyfrif ‘20639427’. Bydd angen nodi rhif yr anfoneb ym mlwch cyfeirnod y taliad (‘payment reference’).
Payzone – Mae modd talu mewn unrhyw siop sy'n dangos y logo ‘Payzone’. Defnyddiwch y cod bar sydd ar ran flaen yr anfoneb.
Dros y ffôn – Mae modd talu â cherdyn credyd/debyd drwy ffonio'r Adran Rheoli Credyd ar 01443 425008.
Cwestiwn am y gwasanaeth neu am y swm ar yr anfoneb
Os oes gennych chi gwestiwn am y gwasanaeth neu am yr anfoneb sydd wedi ei rhoi i chi, chwiliwch am yr adran gywir yn y rhestr isod a dilyn y ddolen i'r dudalen we berthnasol. Os fyddwch chi ddim yn gallu dod o hyd i'r ateb ar-lein, defnyddiwch y manylion cyswllt ar y dudalen we dan sylw.
Hysbysiadau Cosb Benodedig
Hysbysiadau Cosb Benodedig – ysgolion
Hysbysiadau Cosb Benodedig – amgylchedd
Talu Dirwy Ci sy'n Baeddu
Adrannau eraill
Rheoli Adeiladu (gan gynnwys eiddo agored ac adfeiliedig)
Eiddo'r Cyngor (rhentu tir, garejis ac adeiladau eraill sy'n eiddo i'r Cyngor)
Taliadau uniongyrchol – gofal
Priffyrdd (difrodi celfi stryd)
Cludiant o'r cartref i'r ysgol
Gofal yn y cartref
Trwyddedau
Llinell Bywyd (‘Lifeline’)
Pryd ar Glud
Parcio
Parciau a chefn gwlad (gan gynnwys ffioedd meysydd chwaraeon a chanolfannau hamdden)
Cyflogres – 01443 680397
Pensiynau – 01443 680611
Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Gwaith mae modd ailgodi tâl amdano (eiddo)
Gofal preswyl (cartrefi gofal a nyrsio, gan gynnwys gofal seibiant)
Vision Products (gan gynnwys cyfarpar ac addasiadau)
Gwastraff byd masnach